Philip yr Arab: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 49 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1817 (translate me) |
man gywiriadau, replaced: ffynonell → ffynhonnell using AWB |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
'''Marcus Iulius Philippus''' (c.[[204]] - [[249]]), mwy adnabyddus fel '''Philip yr Arab''' neu '''Philip I''', oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o [[244]] hyd 249. |
'''Marcus Iulius Philippus''' (c.[[204]] - [[249]]), mwy adnabyddus fel '''Philip yr Arab''' neu '''Philip I''', oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o [[244]] hyd 249. |
||
Dywed rhai |
Dywed rhai ffynhonnellau fod Philip yn fab i [[sheic]] [[Bedouin]]. Yn ôl eraill ganed ef yn [[Shahba]] yn fab i Julio Marino, dinesydd Rhufeinig o darddiad bonheddig lleol. Priododd Rhilip a Marcia Octacilia Severa yn [[238]] a bu ganddynt un mab, Marcus Julius Severus Philipus, a ddaeth yn Philip II. |
||
Ymmunodd Philip a'r fyddin a dringodd trwy'r rhengoedd nes dod yn gadfridog dan yr ymerawdwr [[Gordian III]]. Ef oedd pennaeth y llengoedd yn nhalaith [[Mesopotamia]]. Daeth Gordian i'r dwyrain i ymgyrchu yn erbyn y [[Persiaid]] oedd yn bygwth Mesopotamia. Pan fu farw Timisetus, pennaeth [[Gard y Praetoriwm]], tad-yng-nghyfraith Gordian a'i brif gynghorydd, penodwyd Philip yn bennaeth y Praetoriaid yn ei le. Ymddengys i Philip gynllwynio yn erbyn Gordian a'i lofruddio yn [[243]]. Cyhoeddwyd Philip yn ymerawdwr gan y [[Lleng Rufeinig|llengoedd]], ac wedi cytuno telerau heddwch a [[Sapor I]], brenin Persia, aeth i [[Rhufain|Rufain]] lle cydnabuwyd ef yn ymerawdwr gan y [[Senedd Rhufain|Senedd]]. Cyhoeddodd ei fab Marcus Julius Severus Philipus fel ''Cesar''. |

Fersiwn yn ôl 01:47, 18 Mawrth 2013
Marcus Iulius Philippus (c.204 - 249), mwy adnabyddus fel Philip yr Arab neu Philip I, oedd ymerawdwr Rhufain o 244 hyd 249.
Dywed rhai ffynhonnellau fod Philip yn fab i sheic Bedouin. Yn ôl eraill ganed ef yn Shahba yn fab i Julio Marino, dinesydd Rhufeinig o darddiad bonheddig lleol. Priododd Rhilip a Marcia Octacilia Severa yn 238 a bu ganddynt un mab, Marcus Julius Severus Philipus, a ddaeth yn Philip II.
Ymmunodd Philip a'r fyddin a dringodd trwy'r rhengoedd nes dod yn gadfridog dan yr ymerawdwr Gordian III. Ef oedd pennaeth y llengoedd yn nhalaith Mesopotamia. Daeth Gordian i'r dwyrain i ymgyrchu yn erbyn y Persiaid oedd yn bygwth Mesopotamia. Pan fu farw Timisetus, pennaeth Gard y Praetoriwm, tad-yng-nghyfraith Gordian a'i brif gynghorydd, penodwyd Philip yn bennaeth y Praetoriaid yn ei le. Ymddengys i Philip gynllwynio yn erbyn Gordian a'i lofruddio yn 243. Cyhoeddwyd Philip yn ymerawdwr gan y llengoedd, ac wedi cytuno telerau heddwch a Sapor I, brenin Persia, aeth i Rufain lle cydnabuwyd ef yn ymerawdwr gan y Senedd. Cyhoeddodd ei fab Marcus Julius Severus Philipus fel Cesar.
Tua dechrau eu deyrnasiad bu ymosodiadau gan yr Almaenwyr ar ffiniau'r ymerodraeth. Ymosododd y Gothiaid ar Moesia (Bwlgaria heddiw) tros Afon Donaw. Erbyn 248 yr oeddynt wedi ei gyrru allan o Moesia, ond yr oedd y llengoedd yn anfodlon, efallai am nad oeddynt wedi derbyn tâl digonol am eu buddugoliaeth. Gwrthryfelasant, a chyhoeddi Tiberius Claudius Pacatianus yn ymeradwdwr. Gorchfygwyd y gwrthryfel, a phenododd Philip Decius yn rhaglaw y dalaith.
Yn Ebrill 248 dathlodd Philip fil-flwyddiant sefydlu dinas Rhufain gan Romulus gyda chwaraeon. Fodd bynnag yr oedd y milwyr ar ffin Afon Donaw yn fwy a mwy anfodlon, ac yn nechrau 249 cyhoeddasant Decius yn ymerawdwr. Cychwynodd ef tua Rhufain gyda'i fyddin, ac mewn brwydr gerllaw Verona gorfchfygwyd byddin Philip a lladdwyd yntau. Pan gyrhaeddodd y newyddion i Rufain, llofruddiwyd ei fab.
Awgryma rhai haneswyr mai Philip oedd yr ymerawdwr cyntaf i fod yn Gristion. Ond nid oes unrhyw brawf o hyn, er ei fod yn eu goddef.
O'i flaen : Gordian III |
Ymerodron Rhufain Philip yr Arab |
Olynydd : Decius |