Neidio i'r cynnwys

The Guardian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: br:The Guardian
ArthurBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.3) (robot yn ychwanegu: sr:The Guardian
Llinell 88: Llinell 88:
[[simple:The Guardian]]
[[simple:The Guardian]]
[[sk:The Guardian]]
[[sk:The Guardian]]
[[sr:The Guardian]]
[[sv:The Guardian]]
[[sv:The Guardian]]
[[tr:The Guardian]]
[[tr:The Guardian]]

Fersiwn yn ôl 17:03, 14 Rhagfyr 2010

Delwedd:Tudalen blaen 12-09-2005 The Guardian.jpg
Argraffiad cyntaf The Guardian yn ei fformat cyfredol
Math Papur newydd dyddiol
Fformat Berliner
Golygydd Alan Rusbridger
Sefydlwyd 1821
Pencadlys 119 Farringdon Road, Llundain
Gwefan swyddogol www.guardian.co.uk


Mae The Guardian yn bapur newydd cenedlaethol Prydeinig sy'n rhan o'r Guardian Media Group. Fe'i cyhoeddir yn ddyddiol o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn y fformat Berliner. Hyd at 1959 ei enw oedd The Manchester Guardian, yn adlewyrchu ei wreiddiau rhanbarthol; weithiau mae'r papur yn dal yn cael ei gyfeirio ato dan yr enw hwn, yn enwedig yn Ngogledd America, er ei fod wedi'i sefydlu yn Llundain ers 1964. (Mae gan y papur wasg argfraffu yn y ddwy ddinas).

Mae'r Guardian yn un o'r papurau newydd sy'n cydweithredu gyda WikiLeaks i gyhoeddi detholiadau o'r dogfennau cyfrinachol a gyhoeddir ar y wefan honno, yn cynnwys "Cablegate".

Atodlenni a Nodweddion

Delwedd:TheGuardian20051001.jpg
Mae fersiwn Dydd Sadwrn The Guardian yn cynnwys nifer o adrannau â meintiau gwahanol.

Ar bob diwrnod gwaith mae The Guardian yn gynnwys yr atodlen G2 sy'n cynnwys erthyglau, colofnau, amserlenni teledu a radio, a'r croesair cyflym. Ers newid i'r fformat Berliner, mae yna adran chwaraeon (Sport) dyddiol ar wahân. Mae atodlenni wythnosol eraill yn cynnwys:

Dydd Llun
MediaGuardian, Office Hours
Dydd Mawrth
EducationGuardian
Dydd Mercher
SocietyGuardian (ymdrin â'r sector cyhoeddus Prydeinig a materion cysylltiedig)
Dydd Iau
TechnologyGuardian
Dydd Gwener
Film & Music
Dydd Sadwrn
The Guide (cylchgrawn amserlenni), Weekend (atodlen liw), Review (llenyddiaeth), Money, Work, Rise (ymdrin â gyrfaoedd ar gyfer graddedigion), Travel, Family

Gwobrwyon llenyddolawddogaeth lenyddol

Mae The Guardian yn hyrwyddo dwy wobr lenyddol fawr: y Guardian First Book Award, a sefydlodd yn 1999 fel olynydd i'r Guardian Fiction Award (a redodd ers 1965), a'r Guardian Children's Fiction Prize, a sefydlodd yn 1967. Ym mlynyddoedd diweddar mae'r papur hefyd wedi hyrwyddo Gŵyl y Gelli yn y Gelli Gandryll.

Golygyddion