Kalahari
Gwedd
Anialwch yn neheudir Affrica yw'r Kalahari, yn ymestyn tros 900,000 km² (362,500 mi²), ar draws rhan helaeth o Botswana a rhannau o Namibia a De Affrica. Er ei fod yn anialwch, mae tyfiant sylweddol yno yn dilyn glawogydd.
Y Kalahari yw anialwch mwyad deheol Affrica. Mewn rhai rhannau, ceir hyd at 250 mm o law y flwyddyn, ac ni ellir ystyried y rhannau hyn yn wir anialwch. Mae'n wir anialwch yn y de-orllewin, lle mae llai na 175 mm o law y flwyddyn. Yn y rhaf, ceir tymheredd rhwng 20 a 45 °C. yma.
Poblogaeth frodorol y Kalahari yw'r San, oedd yn traddodiadol yn byw bywyd hela a chasglu. Ceir hefyd rywfaint o Tswana, Kgalagadi, Herero, ac Ewropeaid.