Ethel Kennedy
Ethel Kennedy | |
---|---|
Ganwyd | Ethel Skakel 11 Ebrill 1928 Chicago |
Bu farw | 10 Hydref 2024 Boston |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cymdeithaswr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | George Skakel |
Mam | Ann Brannack |
Priod | Robert F. Kennedy |
Plant | Kerry Kennedy, Michael LeMoyne Kennedy, Kathleen Kennedy Townsend, Courtney Kennedy Hill, Robert F. Kennedy, Jr., Joseph P. Kennedy II, Max Kennedy, Christopher G. Kennedy, Rory Kennedy, David Kennedy, Douglas Harriman Kennedy |
Perthnasau | Michael Skakel |
Gwobr/au | Medal Rhyddid yr Arlywydd |
Ymgyrchydd dros hawliau dynol o Unol Daleithiau America oedd Ethel Kennedy (ganwyd Skakel; 11 Ebrill 1928 – 10 Hydref 2024). Roedd hi'n wraig i'r seneddwr Robert F. Kennedy ac yn chwaer-yng-nghyfraith i'r Arlywydd John F. Kennedy.
Cafodd ei geni yn Chicago. George ac Ann (g. Brannack) Skakel oedd eu rhieni, a hi oedd eu chweched plentyn. Priododd Robert Kennedy ym 1930.[1] Roedd gyda nhw 11 o blant: Kathleen[2], Joseph, Robert Jr., David, Courtney, Michael, Kerry, Christopher, Maxwell, Douglas, a Rory.
Yn fuan ar ôl llofruddiaeth ei gŵr ym 1968, sefydlodd Ganolfan Robert F. Kennedy dros Gyfiawnder a Hawliau Dynol, elusen gyda'r nod o greu byd cyfiawn a heddychlon. Yn 2014, dyfarnwyd Medal Rhyddid yr Arlywydd iddi gan yr Arlywydd Barack Obama.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "On This Day: Robert F. Kennedy and Ethel Skakel marry in 1950". IrishCentral.com (yn Saesneg). 17 Mehefin 2019.
- ↑ "Former President George H. W. Bush to vote for Hillary Clinton: Politico" (yn Saesneg). CNBC. 20 Medi 2016.