Naz Ball
Naz Ball | |
---|---|
Ganwyd | 1962 Pwllheli |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | pêl-droediwr, rheolwr pêl-droed |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Arsenal W.F.C., London Bees, Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru |
Safle | blaenwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Mae Naldra "Naz" Ball yn gyn ergydiwr Pêl-droed Cymreig. Bu'n cynrychioli Cymru fel chwaraewr rhyngwladol ac yn chware i dimau Arsenal a Wembley yn Uwch-gynghrair Lloegr. Fe'i ganwyd ym 1961 ym Mhwllheli.[1]
Gyrfa clwb
[golygu | golygu cod]Ym 1991-92, tymor cyntaf strwythur cynghrair genedlaethol Lloegr ar gyfer pêl-droed i ferched sgoriodd Ball 23 gôl i gynorthwyo Arsenal i gael dyrchafiad i'r Gynghrair Genedlaethol. Bu hefyd yn gyfrifol am sgorio'r gôl rhoddodd buddugoliaeth 1-0 i Arsenal dros Millwall Lionesses yn ffeinal cyntaf Cwpan yr Uwch-gynghrair ym 1992[2].
Yn y tymor canlynol enillodd Arsenal trebl domestig. Sgoriodd Ball ym mhob rownd o Gwpan Cynghrair Pêl-droed y Merched a'i pheniad wrth i Arsenal curo Doncaster Belles 3-0 oedd ei 38ain gôl mewn ymgyrch cynhyrchiol[3].
Ym mis Ebrill 1995 daeth Ball ymlaen am y ddwy funud olaf ym muddugoliaeth 3-2 Arsenal dros Ferched Lerpwl yng Nghwpan y merched. Ym 1995 a 1996 bu Ball yn chware i dîm Merched Wembley gan ennill gôl gosb munud olaf bu'n gyfrifol am fuddugoliaeth ei thîm dros y Doncasrer Bells yn ffeinal cwpan yr Uwch-gynghrair ar 10 Mawrth 1996[4].
Bu Ball yn rhan o dîm Wembley wrth iddynt golli 1-0 i Millwall Lionesses yn ffeinal Cwpan y Merched.
Yn ogystal â chware pêl-droed roedd gan Ball gyrfa llawn amser fel stiwardes yn y Llu Awyr Brenhinol.
Gyrfa Ryngwladol
[golygu | golygu cod]Cafodd Ball ei chapio ar y lefel rhyngwladol gan Gymru[5]. Yng ngemau cymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth merched UEFA sgoriodd Ball ddwywaith yn ei phum ymddangosiad dros ei gwlad.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mynegai genedigaethau y Cofrestrydd Cyffredinol; Cyfrol 8A; Tudalen 181; Pwllheli, Sir Gaernarfon, Chwarter 1 (Ionawr, Chwefror, Mawrth) 1961. Enw: Naldra PM Ball. Cyfenw y fam :Williams
- ↑ "Sport in Short: Football". The Independent. 1992-05-25.
|access-date=
requires|url=
(help) - ↑ Henry Winter (1993-04-26). "Football: FA forging links to create a permanent partnership: Henry Winter reports on the interest created by the women's FA Cup final in which Arsenal defeated Doncaster Belles 3–0". The Independent. Cyrchwyd 2018-04-06.
- ↑ "Belles are beaten". The Times. 1996-03-11.
|access-date=
requires|url=
(help) - ↑ Barnet FC Ladies – A History Archifwyd 2012-03-07 yn y Peiriant Wayback Barnet FC