Oriel Genedlaethol yr Alban
Math | oriel gelf, amgueddfa genedlaethol |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1859 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Orielau Cenedlaethol yr Alban |
Lleoliad | Caeredin |
Sir | Dinas Caeredin |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 55.9509°N 3.195661°W, 55.950902°N 3.195686°W |
Cod OS | NT2543373742 |
Cod post | EH2 2EL |
Rheolir gan | Orielau Cenedlaethol yr Alban |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig categori A |
Manylion | |
Oriel gelf a leolir yng Nghaeredin yn yr Alban yw Oriel Genedlaethol yr Alban (Saesneg: National Gallery of Scotland). Mae ei chasgliad o gelfweithiau, yn dyddio o dua 1300 i tua 1900, yn cynnwys gweithiau gan Raffael, Titian, El Greco, Diego Velázquez, Rembrandt, Peter Paul Rubens, Jan Vermeer, J. M. W. Turner a llawer o'r Argraffiadwyr ac Ôl-Argraffiadwyr. Mae'r oriel yn un o blith llawer yn sefydliad Orielau Cenedlaethol yr Alban, sydd hefyd yn cynnwys orielau arbennig ar gyfer portreadau a chelf fodern.
Lleolir y casgliad mewn adeilad glasurol ar The Mound, rhwng hen dref a thref newydd Caeredin, gan y pensaer William Henry Playfair. Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Tywysog Albert ym 1850, ac fe agorodd i'r cyhoedd ym 1859. Mae estyniad tanddaearol bellach yn cysylltu'r oriel ag adeilad Academi Frenhinol yr Alban.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Clarke, Michael (2007). "Introduction". A Companion Guide to the National Gallery of Scotland. Edinburgh: National Galleries of Scotland. tt. 7–11.CS1 maint: ref=harv (link)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol (Saesneg)