Pedrog
Pedrog | |
---|---|
Ganwyd | 5 g Cymru |
Bu farw | 4 Mehefin 564 Lannwedhenek |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Dydd gŵyl | 4 Mehefin |
Tad | Glywys |
- Am y bardd "Pedrog", gweler John Owen Williams (Pedrog).
Roedd Pedrog (Cernyweg: Petroc[k]; Llydaweg: Pereg; Lladin: Petrocus) yn sant o Frython a oedd yn ei flodau yn y chweched ganrif.
Dethlir ei ŵyl ar 4 Mehefin ac ystyrir ef weithiau yn un o nawddseintiau Cernyw (er mai Piran a ystyrir felly gan amlaf).
Pan luniwyd baner newydd ar gyfer Dyfnaint yn 2003, a hynny ar sail casglu barn ar-lein, fe'i cysegrwyd i Pedrog.[1][2] Ond datganodd Cyngor Sir Dyfnaint yn 2019 mai Sant Boniffas a fydd yn cael ei fabwysiadu fel nawddsant swyddogol y sir honno.[3][4][5]
Eglwysi
[golygu | golygu cod]Mae nifer o eglwysi wedi eu cysegru i Pedrog yng Nghymru, de-orllewin Lloegr a Llydaw. Yn eu plith y mae:
- tair yng Nghymru (Llanbedrog, Llŷn; Y Ferwig, Ceredigion; a Sain Pedrog, Sir Benfro)
- 17 (mae'n debyg) yn Nyfnaint (gan gynnwys Petrockstowe a Newton St Petrock)
- pump yng Nghernyw (gan gynnwys Bodmin a Padstow)
- un yng Ngwlad yr Haf (Timberscombe)
- wyth yn Llydaw (gan gynnwys Sant-Pereg, Lopereg a Tregon-Poudour [Fr: Église Saint-Pétrock de Trégon])
Ei fywyd
[golygu | golygu cod]Prin iawn yw'r wybodaeth sydd gennym o gyfnod Pedrog ei hun ac mae'n debyg mai yn yr 11eg ganrif y lluniwyd y fuchedd gyntaf iddo, a hynny rywle yng Nghernyw. Mae'r testun wedi ei gadw yng Ngoffâd Sant Meven o Lydaw (Paris, Bibliothèque Nationale, MS Lat. 9889). Mae nifer o destunau sy'n crybwyll Pedrog wedi eu cadw yng nghagliad llawysgrif Gotha o fucheddau seintiau Prydeinig (Gotha, Forschungsbibliothek MS Memb. I 81). Yn eu plith mae buchedd o'r 12ed ganrif sy'n deillio'n rhannol o fuchedd y Coffâd ond sydd hefyd yn cynnwys cryn ddeunydd annibynnol. Cynhwysodd John o Tynemouth (14eg ganrif) dalfyriad o fuchedd y Coffâd yn ei gasgliad o fucheddau'r saint (a aildrefnwyd yn Nova legenda Anglie). Enwir Pedrog mewn sawl llawysgrif o Gymru sy'n cynnwys bucheddau ac achau'r saint.
Dywed buchedd y Coffâd fod Pedrog yn fab i frenin dienw o Gymru. Yn ôl y rhagair i Fuchedd Cadog a'r achau ar ddiwedd buchedd Gotha, mab ydoedd Pedrog i Glywys, sefydlydd teyrnas Glywysing. Ond mae achau 'Bonedd y Saint' yn dweud ei fod yn fab i Clement, tywysog o Gernyw. Dywed Buchedd Cadog i Pedrog ymwrthod â'i etifeddiaeth frenhinol a chilio i Bodmin yng Nghernyw. Ar y llaw arall, dywed buchedd Gotha iddo etifeddu'r frenhiniaeth a gorchyfgu ei gelynion cyn troi'n fynach.
Mae'r bucheddau yn dweud iddo ymweld ag Iwerddon, Cernyw, Rhufain, y Wlad Sanctaidd, ac India cyn dychwelyd i Gernyw lle bu farw yn Treravel, ger Padstow (tref a enwyd ar ei ôl).
Yn ôl yr hynafiaethydd William Worcester (1415 – c. 1482) bu farw Pedrog ar 4 Mehefin 564. Cadwyd ei greiriau yn eglwys Bodmin tan 1177, pan y'u cymerwyd nhw (yn ôl buchedd Gotha) i Abaty St Meven yn Llydaw hyd nes i'r brenin Harri II mynnu eu dychwelyd. Fe'u collwyd yn ystod y Diwygiad Protestannaidd, ond mae'r gist ifori a'u cynhwysai i'w gweld yn eglwys Bodmin.
Eglwysi
[golygu | golygu cod]Rhestr Wicidata:
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Carter, Eileen. (2001). In the Shadow of St Piran
- Doble, G. H. St Petrock, 3ydd argraffiad, Cornish Saints Series, 11 (1938)
- Doble, G. H. (1939). ‘The relics of St Petroc’, Antiquity, 13, 403–15
- Doble, G. H. (1965). The Saints of Cornwall. Dean & Chapter of Truro.
- Förster, M. (1930). ‘Die Freilassungsurkunden des Bodmin-Evangeliars’, A grammatical miscellany offered to Otto Jespersen on his seventieth birthday, ed. N. Bogholm, A. Brusendorff, a C. A. Bodelsen, 77–99
- Grosjean, P. gol. (1940). ‘De codice hagiographico Gothano’, Analecta Bollandiana, 58 (1940), 90–103
- Grosjean, P. gol. (1956). ‘Vies et miracles de S. Petroc’, Analecta Bollandiana, 74, 131–88, 470–96
- Henken, E. R. (1987). Traditions of the Welsh saints, 199–205
- Horstman, C. gol. (1910). Nova legenda Anglie, as collected by John of Tynemouth, J. Capgrave, and others, 2, 317–20
- Lewis, Barry J. gol. (2023) Bonedd y Saint: An Edition and Study of the Genealogies of the Welsh Saints
- Olson, L. (1989). Early monasteries in Cornwall (1989), 66–78
- Orme, N. (1991) Unity and Variety: A History of the Church in Devon and Cornwall ISBN 0859893553
- Orme, N. (1992) Nicholas Roscarrock's Lives of the Saints ISBN 0901853356
- Orme, N. (1996) English Church Dedications: With a Survey of Cornwall and Devon, Gwasg Prifysgol Exeter ISBN 0859895165
- Orme, N. (2000) The Saints of Cornwall, Gwasg Prifysgol Rhydychen ISBN 0198207654
- Pinder-Wilson, R. H. a C. N. L. Brooke (1973) ‘The reliquary of St. Petroc and the ivories of Norman Sicily’, Archaeologia, 104, 261–30
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Devon, England". Flags of the world. 21 Hydref 2011. Cyrchwyd 28 Mai 2016.
- ↑ "Flag celebrates Devon's heritage". BBC Devon website. Ionawr 2005. Cyrchwyd 25 Ionawr 2014.
- ↑ "St Boniface set to become Patron Saint of Devon". Diocese of Exeter. 24 Mai 2019. Cyrchwyd 5 Mehefin 2023.
- ↑ "Devon Day and Patron Saints - Report of the County Solicitor" (PDF). Devon County Council. 17 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 5 Mehefin 2023.
- ↑ "St Boniface set to become Patron Saint of Devon". Diocese of Plymouth. 28 Mai 2019. Cyrchwyd 5 Mehefin 2023.
|