Gellifedw
Eglwys Sant Ioan | |
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 7,392, 7,899 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 907.43 ha |
Cyfesurynnau | 51.67°N 3.88°W |
Cod SYG | W04000561 |
Cod OS | SS704981 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mike Hedges (Llafur) |
AS/au y DU | Carolyn Harris (Llafur) |
Cymuned a phentref yn ninas Abertawe yw Birchgrove (weithiau: Y Gellifedw ( ynganiad ). Saif yng ngogledd-ddwyrain y sir, tua 6 millir o ganol Abertawe, fymryn i'r gogledd o draffordd yr M4, ac yn agos i'r ffin â Chastell-nedd Port Talbot. Mae'r gymuned yn cynnwys pentref Lôn-las a rhan o'r Glais yn ogystal a'r Gellifedw ei hun. Roedd y boblogaeth yn 2001 tua 6,500 ac erbyn 2011 roedd wedi codi i 7,392.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mike Hedges (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Carolyn Harris (Llafur).[1][2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Arferai'r diwydiant glo fod yn bwysig iawn yma. Agorwyd y pwll glo cyntaf yn 1845, ac yn ddiweddarach dechreuwyd gau arall. Caeodd Glofa Birchgrove yn 1931. Ceir nifer o olion o gyfnodau cynharach, yn cynnwys maen hir o'r enw Carreg Bica ar Fynydd Drumau, tua 3 km i'r gogledd-ddwyrain o Gellifedw.
Addysg yng Nghellifedw
[golygu | golygu cod]Mae gan Y Gellifedw ysgol uwchradd a dwy ysgol gynradd. Mae'r dair ysgol yn rhai cyhoeddus, cymysg ac yn ddi-gyswllt o enwadau crefyddol. Fodd bynnag, o dan ddeddfwriaeth Prydeinig, rhaid i bob ysgol ddarparu cyfnod o addoli yn ddyddiol.
Agorwyd Ysgol Gyfun Gellifedw ym 1991 ar safle'r hen ysgol. Gwasanaetha ardaloedd Gellifedw, Glais a Chlydach. Serch hynny, mynycha nifer o ddisgyblion ardaloedd Glais a Chlydach ysgol uwchradd arall, Cwmtawe, tra bod disgyblion yn Llansamlet a'r Trallwyn yn mynychu ysgol Gelli Fedw yn hytrach na Chefn Hengoed.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Ysgol Gyfun y Gellifedw Archifwyd 2009-01-08 yn y Peiriant Wayback
- Ysgol Gynradd y Gellifedw Archifwyd 2008-12-03 yn y Peiriant Wayback
Dinas
Abertawe
Trefi
Casllwchwr · Clydach · Gorseinon · Pontarddulais · Treforys · Tre-gŵyr
Pentrefi
Burry Green · Cadle · Crofty · Dyfnant · Fforest-fach · Garnswllt · Y Gellifedw · Y Glais · Llandeilo Ferwallt · Llanddewi · Llangyfelach · Llangynydd · Llanilltud Gŵyr · Llanmorlais · Llanrhidian · Llan-y-tair-mair · Y Mwmbwls · Nicholaston · Oxwich · Pen-clawdd · Pengelli · Pennard · Pentre Poeth · Pont-lliw · Port Einon · Reynoldston · Rhosili · Sgeti · Y Crwys · Ynysdawe · Ynysforgan · Ystumllwynarth