Firefox vs Brave
Mae gosodiadau preifatrwydd Firefox yn gryf ac yn hawdd eu defnyddio. Efallai y bydd rhwystro hysbysebion rhagosodedig Brave yn torri'r gwefannau rydych chi'n ymweld â nhw, felly mae'n rhaid i chi eu haddasu'n barhaus. Rydyn ni eisiau i breifatrwydd fod yn ddigon cyfleus fel y byddwch chi'n ei ddefnyddio.
Mae Firefox yn ei gwneud yn hawdd i chi ddewis pa beiriant chwilio rydych am ei ddefnyddio bob tro y byddwch yn chwilio. Rhagosodiad Brave yw ei beiriant chwilio eu hunain, ac mae'n rhaid i chi fynd trwy osodiadau'r porwr i ddewis rhywbeth gwahanol.
Mae Firefox yn rhoi'r dewis i chi amgryptio eich cyfrineiriau wedi'u cadw, a gallwch defnyddio prif gyfrinair i'w cyrchu; caiff eich cyfrineiriau eu diogelu hyd yn oed os oes rhaid i chi rannu cyfrifiadur. Nid yw Brave yn diogelu eich cyfrineiriau â chyfrinair.
Rydym hefyd yn cynnig nodweddion hawdd eu defnyddio fel:
- Golygu PDFs o fewn ffenestr eich porwr Firefox - does dim angen meddalwedd ychwanegol.
- Cyfieithu tudalen we yn lleol ac yn breifat.
Mae'n hawdd newid
Mae newid i Firefox yn hawdd ac yn gyflym - mewngludwch eich nodau tudalen, eich cyfrineiriau, eich hanes a'ch dewisiadau Brave gydag un clic a byddwch yn barod i ddefnyddio Firefox yn syth. Dyma sut i fewnforio eich data o Brave.