Ban Ki-moon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Cysylltiadau allanol: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
B →Cysylltiadau allanol: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|en}} using AWB |
||
Llinell 34: | Llinell 34: | ||
{{Pedwarawd ar y Dwyrain Canol}} |
{{Pedwarawd ar y Dwyrain Canol}} |
||
{{Cyswllt erthygl ddethol|en}} |
|||
{{Rheoli awdurdod}} |
{{Rheoli awdurdod}} |
Fersiwn yn ôl 01:45, 30 Mai 2015
Ban Ki-moon 반기문/潘基文 | |
| |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 1 Ionawr, 2007 | |
Rhagflaenydd | Kofi Annan |
---|---|
Geni | [1] Eumseong, Chungcheongbuk-do | 13 Mehefin 1944
Cenedligrwydd | De Corea |
Priod | Yoo Soon-taek |
Alma mater | Prifysgol Genedlaethol Seoul |
Ysgrifennydd Cyffredinol cyfredol y Cenhedloedd Unedig yw Ban Ki-moon (ganwyd 13 Mehefin, 1944 yn Eumseong, De Corea; Coreëg: 반기문/潘基文).
Cyn dod yn Ysgrifennydd Cyffredinol, diplomydd yng Ngweinyddiaeth Materion Tramor De Corea ac yn y Cenhedloedd Unedig oedd Ban. Ymunodd â'r gwasanaeth diplomyddol y flwyddyn y graddiodd o brifysgol, a derbyniodd ei swydd gyntaf yn Delhi Newydd. Yn y weinyddiaeth dramor enillodd enw da am fod yn ddiymhongar a chymwys wrth ei waith.
Gweinidog Tramor De Corea o Ionawr 2004 i Dachwedd 2006 oedd Ban. Yn Chwefror 2006 dechreuodd ymgyrchu am swydd yr Ysgrifennydd Cyffredinol. Yn gychwynnol ni ystyrid Ban yn gystadleuydd oedd yn debygol o ennill y swydd. Ond fel gweinidog tramor De Corea llwyddodd i deithio i bob un o aelod-wladwriaethau Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, gweithred a'i roddodd ar flaen y ras am y swydd.
Ar 13 Hydref 2006, fe'i etholwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fel yr wythfed Ysgrifennydd Cyffredinol. Ar 1 Ionawr, 2007, olynodd Kofi Annan, a phasiodd nifer o ddiwygiadau o bwys ynghylch cadw heddwch ac ymarferion cyflogi y CU. Yn ddiplomyddol mae Ban wedi cymryd safbwyntiau cryf iawn ar gynhesu byd-eang, trwy godi'r mater drosodd a throsodd gyda George W. Bush, Arlywydd yr Unol Daleithiau, a'r Rhyfel yn Darfur, lle chwaraeodd rhan mewn darbwyllo Omar al-Bashir, Arlywydd Swdan, i ganiatáu luoedd cadw heddwch i mewn i'r wlad.
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Warren Hoge (9 Rhagfyr, 2006). For New U.N. Chief, a Past Misstep Leads to Opportunity. The New York Times.
Cysylltiadau allanol
- (Arabeg) (Tsieinëeg) (Saesneg) (Ffrangeg) (Rwseg) (Sbaeneg) Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig – proffil swyddogol, adroddiadau, datganiadau i'r wasg
Rhagflaenydd: Kofi Annan |
Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 1 Ionawr, 2007 – presennol |
Olynydd: deiliad |