Wicipedia:Y Caffi
Croeso i'r Caffi Dyma'r lle i chi drafod sut mae pethau'n gweithio yma, polisïau, a phroblemau technegol
|
Cwestiynau Cyffredin |
Y Ddesg Gyfeirio |
Cymorth iaith |
Negesfwrdd gweinyddiaeth |
Sgyrsiau cyfoes |
Archifau'r Caffi |
Please leave all English-language messages here. |
Annie Jane Hughes Griffiths neu Annie Jane Ellis
[golygu cod]Gyfeillion - help, eisiau eich barn. Mewn picl bach. Wedi sgwennu postiad ar Annie Jane Hughes Griffiths ond sylwi bod yna Wikidata wedi ei chreu gan ddolenni i erthygl Meg Elis ar y Bywgraffiadur, ond enw'r tadogiad yw Annie Jane Ellis (er mai Hughes Griffiths, heb y cysylltnod yw'r enw ar y Bywgraffiadur).Er bod yna amrywiaeth i'w chyfenw ar hyd y we, fwy na neb, gyda neu heb y gysylltnod, does fawr neb yn defnyddio Annie Jane Ellis (Tom Ellis oedd ei gŵr gyntaf). So, oes modd newid y Wikidata i Annie Jane Hughes Griffiths heb chwalu'r dolenni? Stefanik (sgwrs) 12:16, 22 Ionawr 2024 (UTC)
- Bore da! Rhai sylwadau a all fod o help:
- 1. Gelli ddefnyddio sawl enw at frig yr eitem ar Wicidata: mae'r golofn ar y dde yn nodi 'Alias' / 'Enwau eraill'. Ar Wicipedia, wedi i ti ddewis yr prif enw (enw'r erthygl), gelli greu tudalen ailgyfeirio (redirect) ee creu tudalen Annie Jane Ellis ac ynddo rhoi'r cod #AILCYFEIRIO [[Annie Jane Hughes Griffiths]] . Fel hyn, os yw'r darllenwr yn chwilio am Annie Jane Ellis, mae'r ailgyfeirio yn mynd yn syth i'r dudalen gywir.
- 2. Ar waelod eithaf tudalen Wicidata ar Annie Jane Hughes Griffiths, fe weli adran 'Wicipedia'; dyma lle ti'n gwneud dolen i'r erthygl. Gan nad oedd dim yma, doedd y wybodlen ddim yn ymddangos ar WP. Felly, 'Golygu', ychwanegu'r iaith 'cy' ac enw'r erthygl Gymraeg, cyhoeddi / safio a dyna ni - mae'r ddolen yn ei lle.
- 3. Paid a bod ofn newid Wicidata: gall popeth gael ei newid yn ol, os y gwnei rhywbeth o'i le - does dim y fath beth a changymeriad!
- Erthygl ddiddorol! Wyddwn i ddim fod Meg Elis yn perthyn i Llyr Hughes Gruffudd, drwy briodas! Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 05:29, 23 Ionawr 2024 (UTC)
- Iawn, diolch yn fawr. Credu 'mod i wedi cael trefn ar yr arall gyfeirio. Fy unig bryder nawr, yw os ydy rhywun yn credu postiad mewn iaith arall a fydd dryswch (ddim yn help fod gan Annie - a phob un o'r tair a aeth i'r UDA gyda'r ddeiseb, wahanol sillafiadau ac chyfenwau yn dibynnu ar y ffynnonhellau!!).Stefanik (sgwrs) 10:37, 23 Ionawr 2024 (UTC)
- ia! Gorau po fwyaf o ailgyfeirio sy'n digwydd o ran sillafu amrywiol ayb. Os oes dwy gyda yr un enw, mae'r dudalen Gwahaniaethu'n cicio i fewn, sy'n handi iawn. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:26, 23 Ionawr 2024 (UTC)
- Iawn, diolch yn fawr. Credu 'mod i wedi cael trefn ar yr arall gyfeirio. Fy unig bryder nawr, yw os ydy rhywun yn credu postiad mewn iaith arall a fydd dryswch (ddim yn help fod gan Annie - a phob un o'r tair a aeth i'r UDA gyda'r ddeiseb, wahanol sillafiadau ac chyfenwau yn dibynnu ar y ffynnonhellau!!).Stefanik (sgwrs) 10:37, 23 Ionawr 2024 (UTC)
12 Chwefror: Cyfarfod a Golygathon Wicipedia
[golygu cod]Pnawn da bawb! Mae gan Jason ddau gyfarfod yn ymwneud a Wicipedia yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 12 Chwefror. Dyma'r trydariad, neu ewch i weld y manylion yn fama! Cyfarfod i drafod pethau Wici yn y bore a Wicidata a golygathon yn y pnawn. Ac yn bwysicach fyth - cinio am ddim, os ydych yn cofrestru asap! Welai chi yno! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:28, 23 Ionawr 2024 (UTC)
- Diolch yn fawr am rhannu hyn Llywelyn2000. Mae na llond llaw o tocynnau ar ôl felly mae na croeso cynnes i unrhywun ynumo efo ni! Jason.nlw (sgwrs) 12:09, 25 Ionawr 2024 (UTC)
Categori:Enwau llefydd yng Nghymru dan fygythiad
[golygu cod]Newydd dechrau categori, "Categori:Enwau llefydd yng Nghymru dan fygythiad" os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu a chadw cofnod o'r enwau hyn sydd dan fygythiad o gael eu colli. Titus Gold (sgwrs) 23:25, 25 Ionawr 2024 (UTC)
- Gwych! Mae 'na lawer o hen enwau yn y rhestr yma o'r 15g: Rhestr enwau lleoedd yng ngwaith Guto'r Glyn. Dw i wedi creu dolenni a thacluso i lawr i ganol C, ond mae na domen i'w gwneud, a'u hychwanegu i dy restr di. Un o'r pethau fydd raid gwneud cyn cicio'r fwced! Os nad, yna mi af ati i olygu o'r lle arall! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:56, 6 Chwefror 2024 (UTC)
- Wedi dechrau ychwanegu dolenni o'r gwaelod i fyny. Fy ffocws gyda'r categoriau oedd enwau llefydd lle mae'r enw Saesneg yn tueddol o ddominyddu neu gymryd lle yr enw Cymraeg mewn llefydd heb enwau ac arwyddion safonnol. Titus Gold (sgwrs) 13:34, 1 Mehefin 2024 (UTC)
Erthyglau BOT
[golygu cod]@Llywelyn2000, MathWilliams9, Lesbardd, Craigysgafn, Oergell, Cymrodor, Deb:@AlwynapHuw, Adda'r Yw, Stefanik, Dafyddt, Pwyll, Sian EJ, Jac-y-do:@Duncan Brown, Deri Tomos, Dafyddt, Heulfryn, Bobol Bach:...(a pawb arall!)
Helo pawb. Fel rhan o brosiect efo Lywodraeth Cymru mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn gweithio gwella cynnwys Cymraeg ar Wikidata a Wicipedia eto eleni. Fel rhan o'r gwaith hoffwn gyhoeddi, efo cefnogaeth y gymuned batsh o tua 525 erthygl newydd am fenywod enwog. Mae'r erthyglau yma wedi cael i greu efo data o Wicidata a thrwy grynhoi a chyfieithu erthyglau Saesneg efo A.I. Mae'r holl destun wedi cael i wirio ar law gan ddau berson am gywirdeb a safon y gyfieithu. Mae rhan fwyaf o'r erthyglau yn dilyn y fformat isod;
Wedyn mae tua 150 yn dilyn y fformat isod. Yr unig wahaniaeth yw, pennod am gasgliadau yn y Llyfrgell Gen, yn lle rhestr o wobrau.
Felly hoffwn ofyn am unrhyw sylwadau - unrhyw beth dyla'i newid ar ran iaith neu fformat, neu unrhyw wrthwynebiad i gyhoeddi gweddill yr erthyglau.
Diolch!
Jason (Jason.nlw (sgwrs) 10:03, 5 Chwefror 2024 (UTC))
- Mae hynny'n llawer! Ni fydd digon ohonom i'w gwirio. Deb (sgwrs) 10:08, 5 Chwefror 2024 (UTC)
- Cytuno - ydy mae 500 yn fantastig! Dw i wedi sganio'r wyth erthygl. Un cangym bach yn unig! Dim llawer o waith, Deb! Dw i'n siwr y bydd angen cyfieithu ychydig o'r hyn sy'n llifo o Wicidata i fewn i'r Wybodlen, ond dw i wrth fy modd yn gwneud hynny! Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:48, 5 Chwefror 2024 (UTC)
- Diolch @Deb. Gobeithio bod pob dim yn iawn efo ti! Dw'i wedi gwirio pob un unwaith, a wedyn Mae Llywelyn2000 wedi prawf darllen hefyd, felly mae rhywfaint o gwirio wedi digwydd yn barod. Dw'i hefyd wedi neud lot o gwaith paratoi i sicrhau bod data yn y gwybodlen yn ymddangos yn Gymraig. Dwi'n siwr bydd rhai problemau bach o hyd ond dwi'n obeithiol bydd dim ormod i neud! Jason.nlw (sgwrs) 12:21, 5 Chwefror 2024 (UTC)
- Oh, da iawn! Deb (sgwrs) 12:47, 5 Chwefror 2024 (UTC)
- Diolch @Deb. Gobeithio bod pob dim yn iawn efo ti! Dw'i wedi gwirio pob un unwaith, a wedyn Mae Llywelyn2000 wedi prawf darllen hefyd, felly mae rhywfaint o gwirio wedi digwydd yn barod. Dw'i hefyd wedi neud lot o gwaith paratoi i sicrhau bod data yn y gwybodlen yn ymddangos yn Gymraig. Dwi'n siwr bydd rhai problemau bach o hyd ond dwi'n obeithiol bydd dim ormod i neud! Jason.nlw (sgwrs) 12:21, 5 Chwefror 2024 (UTC)
- Cytuno - ydy mae 500 yn fantastig! Dw i wedi sganio'r wyth erthygl. Un cangym bach yn unig! Dim llawer o waith, Deb! Dw i'n siwr y bydd angen cyfieithu ychydig o'r hyn sy'n llifo o Wicidata i fewn i'r Wybodlen, ond dw i wrth fy modd yn gwneud hynny! Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:48, 5 Chwefror 2024 (UTC)
- Peth mor fach, mae bron yn ddibwys. Cyn rhifau blwyddyn o 1000 i 1999 gellid rhoi ym neu yn o flaen y rhif. Ee 1936= ym (mil naw tri chewch) neu yn (un naw tri chewch) Mae'r naill ffordd ar llall yn hollol gywir, ond mae cymysgu'r ddau mewn un erthygl yn edrych yn chwithig ee "roedd ei ffilm olaf yn 1939. Ym 1937 enillodd Wobr yr Academi" — erthygl Alice Brady. I ddweud y gwir byddai ddim yn ddrwg o beth i Wicipedia dewis y naill neu'r llall fel House Style, er mwyn cael cysondeb ar draws y safle.AlwynapHuw (sgwrs) 16:23, 5 Chwefror 2024 (UTC)
- Diolch i ti @AlwynapHuw. Mi wna'i sicrhau bod defnydd cyson o un nei'r llall cyn cyhoeddu. Jason.nlw (sgwrs) 15:35, 6 Chwefror 2024 (UTC)
- Er mod i wedi arfer ddweud neu ysgrifennu 'ym' o flaen dyddiadau lle mae'n addas, mae'n well gen i ddefnyddio 'yn' ar Wicipedia ac mae'n gas gen i pan mae rhywun yn cywiro erthygl lle rwy wedi defnyddio hyn yn fwriadol. Yr un peth gyda rhifolion ar ddyddiadau - mae'n well cadw pethau'n syml o ran fformat ac arddull. Dafyddt (sgwrs) 16:05, 9 Chwefror 2024 (UTC)
- Fel mater o ddiddordeb, bu i ni wynebu'r broblem yma efo Cof y Cwmwd, gan ddewis safoni trwy ddefnyddio "ym". Wrth gwrs, tua 1% o nifer yr erthyglau sydd gan Wicipedia sydd gan y Cof, ac felly mater hawdd yw delio efo problemau cysoni, ond dan ni'n cywiro "yn" fel mater o gysoni ers y dechrau, a hynny wrth wneud ymweliadau patrôl. Cofier hyn os bydd rhywun yn copïo erthyglau'r Cof i Wicipedia - fel sydd gan rywun hawl i'w wneud wedi i'r Loteri newid eu polisi a chaniatáu i ni beidio â chyfyngu hawliau defnydd deunydd a ariennir ganddynt. Heulfryn (sgwrs) 21:10, 15 Chwefror 2024 (UTC)
- Diddorol, Gareth. Cawsom sgwrs am y ddwy ffordd o ynganu (ac felly sillafu) dyddiadau fel hyn dro'n ol yma yn y Caffi. Holltwyd y ddadl yn ddwy, a derbyniwyd fod y dull mathemategol / modern o ddweud pedwar digid y flwyddyn hefyd yn dderbyniol. Ond fel y dywed Alwyn. dylid cadw at un dull yn unig o fewn erthygl er mwyn cysondeb. Mae erthyglau Cof y Cwmwd yn gyfoethog, yn llawn gwybodaeth manwyl yn aml, a byddai'n braf mynd ati i'w copio i Wicipedia, fel bod copi ar gael. Diolch am dy holl waith! ON Mae'r papurau bro wedi arafu - angen proc efallai! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:46, 18 Chwefror 2024 (UTC)
- Fel mater o ddiddordeb, bu i ni wynebu'r broblem yma efo Cof y Cwmwd, gan ddewis safoni trwy ddefnyddio "ym". Wrth gwrs, tua 1% o nifer yr erthyglau sydd gan Wicipedia sydd gan y Cof, ac felly mater hawdd yw delio efo problemau cysoni, ond dan ni'n cywiro "yn" fel mater o gysoni ers y dechrau, a hynny wrth wneud ymweliadau patrôl. Cofier hyn os bydd rhywun yn copïo erthyglau'r Cof i Wicipedia - fel sydd gan rywun hawl i'w wneud wedi i'r Loteri newid eu polisi a chaniatáu i ni beidio â chyfyngu hawliau defnydd deunydd a ariennir ganddynt. Heulfryn (sgwrs) 21:10, 15 Chwefror 2024 (UTC)
- Er mod i wedi arfer ddweud neu ysgrifennu 'ym' o flaen dyddiadau lle mae'n addas, mae'n well gen i ddefnyddio 'yn' ar Wicipedia ac mae'n gas gen i pan mae rhywun yn cywiro erthygl lle rwy wedi defnyddio hyn yn fwriadol. Yr un peth gyda rhifolion ar ddyddiadau - mae'n well cadw pethau'n syml o ran fformat ac arddull. Dafyddt (sgwrs) 16:05, 9 Chwefror 2024 (UTC)
- Diolch i ti @AlwynapHuw. Mi wna'i sicrhau bod defnydd cyson o un nei'r llall cyn cyhoeddu. Jason.nlw (sgwrs) 15:35, 6 Chwefror 2024 (UTC)
- Pob lwc efo'r gwaith! Pwynt ieithyddol bach: mae gwir angen osgoi y cyfieithiad llythrennol "Actores Americanaidd," "Tywysoges Almaenig" etc. "actores o America" "tywysoges o'r Almaen" etc dylid eu defnyddio fel dan ni wedi drafod yma o'r blaen. Gan bod hyn yn dueddol o ddigwydd ym mrawddegau cyntaf erthyglau mae'n bwysig o ran sut mae'r erthygl yn swnio!Cytuno efo'r pwynt uchod o ran "yn + blwyddyn" o ran cysondeb. Llygad Ebrill (sgwrs) 14:07, 2 Mawrth 2024 (UTC)
Jason.nlw - lle ydan ni efo'r erthyglau newydd ar fenywod? Jyst rhag ofn mod i wedi methu rhywbeth! Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:22, 20 Chwefror 2024 (UTC)
- Ah! Categori:Erthyglau LLGC 2023! @Llygadebrill, Jason.nlw: dw i wedi newid 'Actores Americanaidd' i 'Actores o America' ayb, a manion eraill yn fama efo BOT-Twm Crys. Diolch am yr holl waith Jason! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:54, 27 Mawrth 2024 (UTC)
Wici Llên Gwerin
[golygu cod]Pnawn da! Os oes gennych chi hen luniau o'r Eisteddfodau, neu Wyl Fawr Dolgellau, neu'r Cnapan ayb, yn enwedig lluniau o wisgoedd, dawnsio, hen draddodiadau neu hyd yn oed fideos neu sain, beth am eu huwchlwytho fel rhan o Wici Llên Gwerin? Byddai fideo o ofaint Sain Ffagan yn pedoli, neu'r pobydd yn y becws yn esbonio be-di-be, neu gor cerdd dant... yn fantastig! Mae'r gystadleuaeth yn para deufis - hyd at ddiwedd Mawrth, felly mae gennych fwy na digon o amser i fynd ati! Ond mae na sawl project ar y gweill - pwysicach, efallai (gw uchod). Llywelyn2000 (sgwrs) 12:33, 6 Chwefror 2024 (UTC)
Dolenni erthyglau pan fo dau god
[golygu cod]Helo bawb, wrthi'n mynd drwy sîn bop Cymraeg yr 1960au. Gweld bod cofnod wedi ei sgwennu i Recordiau Qualiton gyda cod wikidata ond bod heb dolenni gyda'r erthyglau ar yr un cwmni sydd yn Saesneg (a Fietnamieg!) dan Qualiton Records. Mae'r system yn gwrthod i mi ddolenni gan bod cod eisoes wedi eu chreu i'r un Gymraeg. Stefanik (sgwrs) 12:00, 10 Ebrill 2024 (UTC)
- Haia Sion! Mae'r Saesneg wedi'i ychwanegu'n barod ar eitem Q97731322. OND mae gwahaniaeth rhwng y ddwy eitem / y ddwy erthygl! Eitem ac erthygl ar y cwmni recordiau o Gymru yw'r naill, eitem ac erthygl ar yr enw Qualiton a ddefnyddir ar gwmniau ledled y byd yw'r llall. Felly, does dim erthygl Saesneg ar y cwmni o Gymru. Dw i ddim yn siwr am y Fiatnameg! Cofion cynnes... Robin Llywelyn2000 (sgwrs) 12:14, 10 Ebrill 2024 (UTC)
- ah, reit, diolch am sylwi. Grêt, dim angen i mi wneud dim. Diolch am sylwi'r gwahaniaeth Robin! Stefanik (sgwrs) 09:55, 17 Ebrill 2024 (UTC)
C.P.D. Merched Tref Aberystwyth
[golygu cod]Ar ôl treulio amser yn sgwennu cofnodion ar gyfer CPDM ABerystwyth C.P.D. Merched Tref Aberystwyth ... gan bod y ddolen ar y dudalen Saesneg yn mynd i dudalen tîm y dynion, dwi'n gweld bod postiad i'r tîm merched yno eisoes! Ond, er bod y wikidata ar dudalen Saesneg tîm y merched mae'n mynd drwyddo i gofnod tîm y dynion yn Gymraeg. Be sy'n mynd ymlaen? Stefanik (sgwrs) 13:59, 15 Mai 2024 (UTC)
- Dw i wedi diweddaru'r ddolen ar y dudalen. Craigysgafn (sgwrs) 15:34, 15 Mai 2024 (UTC)
- Gwych! Diolch yn fawr. Methu deall pam oedd yn mynd i'r fersiwn tîm dynion. Stefanik (sgwrs) 08:34, 16 Mai 2024 (UTC)
Sbel yn ôl fe wnes i ddileu nodyn "erthygl dethol" o erthygalu oedd yn cynnwys testun heb gyfeiriadau. Fe wnes i ychwanegu'r nodyn i erthygl Y Ddraig Goch ar ôl llawer o waith arni. Dwi hefyd newydd ychwanegu criteria o beidio cael unrhyw destun heb gyfeiriad. Ydi'r newid hyn yn dderbyniol gan eraill?
- Dwi'n meddwl fod yr erthygl Cymru yn symud yn agos at gyrraedd y safon bellach
A oes unrhyw awgrymiadau am erthyglau eraill sy'n haeddu'r nodyn, a'i holl gynnwys wedi'i chyfeirio?
Diolch Titus Gold (sgwrs) 22:45, 27 Mai 2024 (UTC)
- Dwi wedi creu Wicipedia:Asesiad cynnwys i geisio creu system syml o raddio erthyglau. Titus Gold (sgwrs) 23:57, 27 Mai 2024 (UTC)
- Gwaith gwych! "Erthygl ddethol" (ben.) cofia. Ie, system syml sydd ei hangen! Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:59, 28 Mai 2024 (UTC)
- Diolch!
- Diolch am y cywiriad. Wedi cynnig erthygl i'w gwneud yn un dethol ymaWicipedia:Cynnig erthygl ddethol.
- Os oes unrhyw erthyglau o safon, croeso i bobl ychwanegu nodyn atynt yn ôl safon Wicipedia:Asesiad cynnwys. Croeseo i bobl addasu y gofynion yno hefyd. Titus Gold (sgwrs) 16:23, 28 Mai 2024 (UTC)
- Gwaith gwych! "Erthygl ddethol" (ben.) cofia. Ie, system syml sydd ei hangen! Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:59, 28 Mai 2024 (UTC)
- Diolch Titus Gold am fwrw'r cwch i'r dwr! Hoffwn wneud ambell gynnig cyn bod y prosiect yn mynd ymhellach:
- Ail-sgwennu rheolau erthygl dda/ABC i roi rhagor o bwyslais ar iaith a mynegiant yn hytrach na hyd yr erthygl.
- Ychwanegu gofyniad bod sawl golygydd wedi gwneud gwaith sylweddol ar erthygl NEU mai nid yr awdur sy'n gosod y label.
- Dileu categorïau A/B/C, a chreu label "erthygl dda" yn eu lle.
- Gyda thechnoleg corpws - cyfieithu peirianyddol a "deallusrwydd artiffisial" yn gwella, dw i'n teimlo'n fwy nag erioed bod safon yr iaith yma'n bwysig - dim o ran gwallau teipio a threiglo, ond o ran sgwennu brawddegau naturiol sy'n gwneud synnwyr yn Gymraeg. A bod yn blaen, dydy erthygl sy'n gyfieithiad gair-am-air o'r un Saesneg ddim yn haeddu "C" hyd yn oed, a dylai unrhyw safonau dan ni'n eu mabwysiadu adlewyrchu hynny.
- Diolch Titus Gold am fwrw'r cwch i'r dwr! Hoffwn wneud ambell gynnig cyn bod y prosiect yn mynd ymhellach:
- O ran fy ail-awgrym, edrycher ar erthyglau diweddar er enghraifft. Teg fyddai dweud mai dim ond fi sydd wedi darllen pob gair o Durango ac mai dim ond Titus Gold sydd wedi darllen pob gair o Draig y Brythoniaid - mae'n hawdd gwneud gwallau a dw i'n meddwl bod ail bâr o lygaid yn angenrheidiol, dim jyst cywiro'r pethau cyntaf sy'n taro'r llygad ond gwirio safon yr erthygl.
- Dw i wedi taro llygad ar yr hyn maen nhw'n ei wneud ar wiki arall sy'n tebyg o ran maint ac o ran realiti ieithyddol, yr un Fasgeg: https://eu.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Bozketak/Kalitatezko_artikuluak Trefn haws i'w deall gyda 2 gategori yn hytrach na 4, mae'n nodi'n glir nad oes rhaid i'r erthyglau bod yn hir, a bod cywirdeb ieithyddol yn angenrheidiol.--Llygad Ebrill (sgwrs) 13:59, 29 Mai 2024 (UTC)
- Cytuno efo safon iaith yr erthygl, waeth beth y bo'i hyd, a symlrwydd y cloriannu. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:23, 29 Mai 2024 (UTC)
- Diolch am y sylwadau hyn. Hoffi'r dywediad 'cwch i'r dŵr', heb glywed hynny o'r blaen.
- Cytuno efo safon iaith yr erthygl, waeth beth y bo'i hyd, a symlrwydd y cloriannu. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:23, 29 Mai 2024 (UTC)
- Dwi bellach wedi adolygu iaith erthygl Y Ddraig Goch a Datganoli Cymru eto i sicrhau safon iaith dda a'u cadw'n erthyglau 'A' tan fod golygydd arall yn cytuno eu bod yn haeddu statws erthygl ddethol.
- Y pwyslais mawr fe wnes i geisio rhoi yn y gofynion oedd ar y cyfeiriadau (ac wrth gwrs safon iaith dda ar gyfer yr erthyglau orau) oherwydd nid yw'r wybodaeth o'r rheidrwydd yn ddibynadwy os nad oes cyfeiriadaeth ac ni ellir gael ei hadolygu. Dwi'n cytuno'n llwyr fod angen cadw safon iaith dda ar draws yr erthyglau ac y dylid gynnwys cyfeiriadau at hyn yn y gofynion.
- Dwi'n agored i addasu ac ystyried systemau eraill ond dwi'n meddwl bod yr un bresennol yn eithaf syml a hawdd i ddeall o ran strwythr. Gyda 'erthyglau dethol' ac 'erthyglau da' dwi ddim yn meddwl ei bod yn amlwg pa statws sydd uwch; byddai rhaid cael ffordd o wneud hyn yn glir yn y symbol a ddefnyddir. Titus Gold (sgwrs) 17:55, 29 Mai 2024 (UTC)
- Mae Dethol / A / B / C yn ormod o gategorïau gwahanol, mae'n gam-arweiniol o fanwl, ac fel mae @AlwynapHuw yn nodi isod, mae'n rhy debyg i farciau ysgol! Mae'n digon glir i mi bod "dethol" yn well na "da" ond efallai gall rywun feddwl am enwau gwell. Dw i'n cytuno bod cyfeiriadau'n bwysig ar gyfer erthyglau "dethol" neu beth bynnag dan ni'n galw'r categori cyntaf. Ond dw i'n credu na ddylid rhoi gormod o bwyslais ar gyfeiriadau ar gyfer erthyglau "da" neu beth bynnag dan ni'n galw'r ail gategori - yn wahanol i'r wikis mwyaf lle mae dibynadwyedd yn gwestiwn mawr, yma mae rhai o'r erthyglau gorau (o safbwynt y darllenydd) yn brin eu cyfeiriadau, a rhai o'r salaf yn frith o gyfeiriadau sy'n addurno "cyfieithiad" gwael neu wybodaeth wedi'i gopïo o fas data. Llygad Ebrill (sgwrs) 12:46, 31 Mai 2024 (UTC)
- Pa erthyglau sydd â chyfeiriadaeth dda ond sydd angen gwella'r iaith? Gellir nodi hyn ar e.e Wicipedia:WiciBrosiect Cymru neu Wicipedia:Asesiad cynnwys. Efallai gellir defnyddio rhyw fath o nodyn ar wahwan i wella safon iaith a'i gadw ar y dudalen sgwrs hefyd e.e 'Angen adolygiad iaith'? Titus Gold (sgwrs) 13:19, 1 Mehefin 2024 (UTC)
- Mae Dethol / A / B / C yn ormod o gategorïau gwahanol, mae'n gam-arweiniol o fanwl, ac fel mae @AlwynapHuw yn nodi isod, mae'n rhy debyg i farciau ysgol! Mae'n digon glir i mi bod "dethol" yn well na "da" ond efallai gall rywun feddwl am enwau gwell. Dw i'n cytuno bod cyfeiriadau'n bwysig ar gyfer erthyglau "dethol" neu beth bynnag dan ni'n galw'r categori cyntaf. Ond dw i'n credu na ddylid rhoi gormod o bwyslais ar gyfeiriadau ar gyfer erthyglau "da" neu beth bynnag dan ni'n galw'r ail gategori - yn wahanol i'r wikis mwyaf lle mae dibynadwyedd yn gwestiwn mawr, yma mae rhai o'r erthyglau gorau (o safbwynt y darllenydd) yn brin eu cyfeiriadau, a rhai o'r salaf yn frith o gyfeiriadau sy'n addurno "cyfieithiad" gwael neu wybodaeth wedi'i gopïo o fas data. Llygad Ebrill (sgwrs) 12:46, 31 Mai 2024 (UTC)
- Dwi'n agored i addasu ac ystyried systemau eraill ond dwi'n meddwl bod yr un bresennol yn eithaf syml a hawdd i ddeall o ran strwythr. Gyda 'erthyglau dethol' ac 'erthyglau da' dwi ddim yn meddwl ei bod yn amlwg pa statws sydd uwch; byddai rhaid cael ffordd o wneud hyn yn glir yn y symbol a ddefnyddir. Titus Gold (sgwrs) 17:55, 29 Mai 2024 (UTC)
- Dim yn hoff o'r syniad yma o gwbl. Rwy'n cyfrannu erthyglau i Wicipedia fel gwirfoddolwr, yn rhoi i gymdeithas, nid fel disgybl yn rhoi traethawd i athro i'w marcio. Os ydych yn credu bod "lle i wella" ar erthygl rwyf wedi cyfrannu, gwella fo yn ysbryd cydgyfrannu'r safle, yn hytrach na rhoi marc "could have done better", sarhaus adroddiad ysgol stalwm iddo! AlwynapHuw (sgwrs) 01:48, 30 Mai 2024 (UTC)
- Byddai well gennych symud i system erthygl ddethol ac erthygl dda te, neu efallai e.e 'da' a 'safonnol'?
- Gallwn gadw nodyn A,B,C neu efallai efallai un categori 'addawol' neu rywbeth tebyg ar y dudalen sgwrs fel nodyn ar gyfer olygyddon i weld pa mor bell mae'r erthygl o fod yn un 'da' neu 'safonnol' yn hytrach na nodyn amlwg ar y brif dudalen?
- Ni fyddwn i'n cymryd y system yn bersonnol! Dwi wedi rhoi nodyn C ar rai o erthyglau fy hun gan nad oes digon o gyfeiriadaeth/rhan o bwnc heb ei drafod/angen adolygu iaith. Titus Gold (sgwrs) 13:16, 1 Mehefin 2024 (UTC)
Mae erthyglau gorau ar y Wicis ieithoedd mawr eu llafar, fel arfer, wedi eu hysgrifennu gan nifer fawr o gyfranwyr. Gan hynny does dim "barn" am gyfraniad unigolyn yn cael ei roi ar erthygl "serennog". Yn yr ieithoedd llai eu defnydd, fel arfer unigolyn a bot, yw'r unig awduron, a gan hynny mae nodi "safon" yn feirniadaeth ar waith unigolyn yn bersonol. Os wyt yn nodi erthygl â gychwynnwyd gennyf i fel "gradd c" neu heb haeddu gradd o gwbl (a digon teg byddid gwneud ar 90% o'r 5 mil o erthyglau yr wyf wedi cychwyn ers 2011), teg byddid imi ymateb-naw wfft i Wicipedi a'i sarhad bersonol, ni wnaf gyfrannu eto! Nid barn Diweddar mo hwn, yn 2016 cafwyd cynnig gwneud erthygl Ned Kelly yn erthygl serennog, mi wrthwynebais y cynnig gan ei fod yn erthygl gan unigolyn yn hytrach nag un gan y gymuned.AlwynapHuw (sgwrs) 04:21, 4 Mehefin 2024 (UTC)
- Ambell sylw ym mherspectif amser:
- 1. Mae gan bron pob iaith arall system werthuso
- 2. Gellir wrth 2 gategori -> 4 categori (neu ragor)
- 3. Mae cael mwy nag 1 defnyddiwr ar erthygl ddethol yn hanfodol (cywaith yw erthygl, chwedl Alwyn)
- 4. Y symlaf ydy'r meini prawf, y gorau
- 5. Ar Wicidata mae nodi'r erthyglau hyn, nid ar yr erthygl ei hun. Ar WD, ewch i lawr i'r gwaelod un - lle mae blwch o ddolenni i erthyglau 'Wicipedia' ee ar y cofnod Diwydiant llechi Cymru, ewch i lawr i 'Wicipedia' - ac fe welwch roset felen ar yr erthygl Gymraeg (ac en).
- 6. Dw i ddim yn gweld peidio a chynnwys un (neu 10,000!) o fy erthyglau fel sarhad; sgwenu i'r darllenydd ydw i ac nid am unrhyw glod. Weithiau, pwt o ddau neu dri paragraff yn unig sydd ei angen.
- 7. Yn bersonol, mae'n well gen i sgwennu erthyglau na'u gwerthuso nhw, ond mae pawb yn wahanol
- 8. Efallai y byddai system fel hyn yn annog pobl i wella erthyglau, o ran cynnwys ac iaith.
- 9. Os oes rhywun isio rhoi cynnig ymlaen, ee ein bod yn dileu'r system erthyglau dethol neu yn ei gadw neu ei addasu, yna gwnewch hynny a mi gyrhaeddwn gonsensws, ryw ddydd.
- 10. Diolch i Titus Gold am ein procio i feddwl, ac i bawb arall am eich sylwadau ystyriol: fel hyn y mae gwella'r hen wici! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:13, 12 Tachwedd 2024 (UTC)
Wici'r Holl Ddaear
[golygu cod]Fel y cofiwch, bid siwr, daethom yn ail y llynedd allan o dros ugain o wledydd y byd, a'r flwyddyn cynt hefyd - ail! Mae cymryd rhan, fel hyn, yn clensio ein statws fel cenedl. Felly, gadwch i ni gipio'r safle 1af eleni!
Mae'r cyfarwyddiadau a'r botwm uwchlwytho yn fama. Gallwch dynnu lluniau o fewn ardaloedd sy'n cael eu gwarchod (o ran byd natur, newid hinsawdd ayb) ee SSSIs, Parciau Cenedlaethol, morol, Naturas ayb. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:14, 29 Mai 2024 (UTC)
Erthyglau am lyfrau
[golygu cod]Rwyf wedi cychwyn dwy erthygl sydyn am lyfrau Prif-feirdd Eifionydd a Gwroniaid y Ffydd (llyfr). Y Rheswm pam maen nhw'n erthyglau "sydyn" yw (1) eu bod wedi eu creu gyda thempled (mae'r templed yma) a (2) bod 90% o'r deunydd sy'n llenwi'r templed eisoes ar gael ar Wicipedia a Wicidestun. Mae erthyglau o dempled yn gallu bod yn ddiflas o undonog, a bydd erthyglau o'r fath gan awduron toreithiog yn ailadroddus (ee bydd erthygl am lyfr arall gan Anthropos yn cynnwys yr un wybodaeth am awdur a chyhoeddiadau eraill ag sydd yn erthygl Gwroniaid y Ffydd). Cyn bwrw ymlaen i wneud chwaneg hoffwn farn y gymuned. Ydy erthyglau o'r fath yn ddefnyddiol neu yn ymylu ar fandaliaeth? AlwynapHuw (sgwrs) 00:42, 30 Mai 2024 (UTC)
- Diawl o ots os oes rhanau tebyg mewn mwy nag un llyfr / erthygl! Mae'r wybodaeth yn gywir, yn ddiddorol, a'r llyfrau'n nodedig! Gwych iawn - a diolch am dy holl waith caled Alwyn! Fantastig! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:47, 30 Mai 2024 (UTC)
Testun carbwl mewn erthyglau ffilmiau
[golygu cod]Dw i newydd ddarganfod gwall arall yn yr erthyglau ffilmiau bot - mae symbolau $ wedi copïo gydag enw o'r bas data, gweler Die Familie mit den Schlittenhunden er enghraifft - enw rhyfedd ar y naw ydy "Claudia Kuhland$$$"! Mae hyn wedi digwydd ar ugeiniau os nad cannoedd o dudalennau, gw https://www.google.com/search?client=firefox-b-d&q=%24%24%24+site%3Acy.wikipedia.org#ip=1 Fedrwch chi chi ymchwilio @Bot Sian EJ @Sian EJ @Llywelyn2000? Diolch, Llygad Ebrill (sgwrs) 22:35, 30 Mai 2024 (UTC)
- Can diolch! Mi wna i hwnna efo'r bot. Dim syniad sut y trodd collnod yn ###! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:12, 31 Mai 2024 (UTC)
- Mae BOT-Twm Crys wedi cwbwlhau hanner y cangyms, rhyw 100 ohonyn nhw; cymerodd 3diau i'r bot fynd drwyddyn nhw. Mi wnaf y gweddill wedi i Wici'r Holl Ddaear orffen, gan fod gen i fideos yn cael eu trawsgodio ar gyfer hwnnw. Popeth yn ol ei amser! Dioloch am eich amynedd! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:44, 26 Mehefin 2024 (UTC)
Angen cymorth Cynganeddwr
[golygu cod]Llywelyn2000 Sut mae darllen cerdd fel 'ma
Mae trio eu trawsysgrifo efo'r bracedi cyrliog yn boen yn din, haws byddid eu trawsysgrifio yn ôl eu darllen AlwynapHuw (sgwrs) 04:38, 4 Mehefin 2024 (UTC)
- Bore da Alwyn! Rhupunt hir a Rhupunt byr yw'r enwau erbyn heddiw; gelli weld engreifftiau yn yr erthyglau hyn. Does dim o'i le mewn hepgor y gwefusau a'u gosod fel:
- Pybyr nerthwr pob dierthwr,
- Pab, aberthwr, pawb a borthed;
- Pob llawenydd hyd Faelienydd,
- Pob awenydd, pawb a aned.
Mae'n un o fy hoff fesurau, ond dw i heb ei sgwennu ers cyn cof! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:47, 4 Mehefin 2024 (UTC)
- Diolch Robin, i wneud yn siŵr fy mod i wedi deall yn gywir; yn yr esiamplau sydd yn y llun dylid cychwyn eu trawsysgrifio fel:
15
Os tra pherchid
O mawr eurid
Am arwredd
16
Am ei roddion, a'i 'madroddion
Hoyw wr cyfion, hir y cofier
AlwynapHuw (sgwrs) 15:33, 4 Mehefin 2024 (UTC)
- Ia, agos ati, y Prifardd ap Huw!:
15
Os tra pherchid
O mawr eurid
Am arwredd
Deufwy cerid
Mwy yr enwid
Am ei rinwedd.
16
Am ei roddion, a'i 'madroddion
Hoyw wr cyfion, hir y cofier
Ei blant grasol, gan Dduw nefol,
Fwyn had ethol, a fendithier.
Cofion cynnes Llywelyn2000 (sgwrs) 17:25, 10 Mehefin 2024 (UTC)
Pwy sy'n ymosod ar bwy?
[golygu cod]Awgrym yn Sgwrs:Ymgyrch ymosodol Rafah y gellid newid y teitl: be 'da chi'n feddwl? Llywelyn2000 (sgwrs) 17:07, 10 Mehefin 2024 (UTC)
- Cytuno. Mae "Ymgyrch ymosodol (Israel) *ar* Rafah" yn iawn, ond dw i'n meddwl fyddai "Cyrch" neu "Ymosodiad" yn well- dyna mae GyA yn ei roi am "offensive (n)". Beth am newid y teitl i Ymosodiad Israel ar Rafah? Neu "Y cyrch ar Rafah" er enghraifft? Llygad Ebrill (sgwrs) 19:25, 10 Mehefin 2024 (UTC)
- Diolch Llygadebrill. Wedi cwbwlhau. Os yw Adda'r Yw yn anghytuno, gallem ailfeddwl wrth gwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:27, 12 Mehefin 2024 (UTC)
Nodiadau gwleidyddol ac ati
[golygu cod]Rwy wedi diweddaru nifer o'r nodiadau ar gyfer blychau gwybodaeth etholiadol, a'r CSS i fynd gyda nhw. Rwy wedi cadw neu ddiweddaru y cyfieithiadau sydd o fewn y cod.
O'n i'n defnyddio'r erthygl hwn i wneud yn siwr bod popeth yn gweithio - Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yng Nghymru, 2024
Er fe wnes i gopio yr Infobox o'r saesneg a dwi ddim yn hollol siwr pam mae 'na wahaniaethau dal i fod - [1]. Efallai bod un neu ddau nodyn arall sydd angen diweddaru.
Rhowch wybod os welwch chi unrhyw beth amlwg o'i le @Craigysgafn @Llywelyn2000 @AlwynapHuw Dafyddt (sgwrs) 16:06, 18 Mehefin 2024 (UTC)
- Newydd sylwi fy hun fod hyn wedi cawlio y gwybodlennau, felly rwy am adfer Modiwl:Infobox am y tro. Dafyddt (sgwrs) 19:54, 18 Mehefin 2024 (UTC)
- Diolch am dy waith da, Dafydd. Mae un peth sy'n fy mhoeni i yw beth ddylai ddigwydd ar ôl 4 Gorffennaf i'r llu o "Nodyn:Swits XXXX i enw'r AS" sy'n ymddangos yn yr erthyglau am lefydd yng Nghymru? Fydd etholaethau i'r Bae ac i San Steffan ddim yn cyfateb mwyach. Mae'r syniad o fynd trwy bob pentref yng Nghymru a gweithio allan lle mae'n gorwedd yn y ddwy system yn arswydus. Ac mae rhagolygon y bydd ffiniau etholaethau'r Senedd yn newid cyn bo hir, hefyd. A oes gan geidwad y bots unrhyw farn, tybed? --Craigysgafn (sgwrs) 22:33, 18 Mehefin 2024 (UTC)
- Ia, diolch i DafyddT am ei waith da. Mi ga i olwg y modiwlau sy'n peri trafferth maes o law.
- @Craigysgafn, AlwynapHuw: "Nodyn:Swits XXXX i enw'r AS" -diolch Craig-yr-Oesoedd! Dw i ddim yn gweld y newid yn achosi fawr o drafferth, a dweud y gwir. Beth am ddechrau tudalen: Wicipedia:Pethau i'w gwneud cyn ac wedi Etholiad Cyffredinol 2024, a thrafod yno? Yn y cyfamser, efallai y gallem ddefnyddio categoriau i nodi ffiniau yr hen etholaethau (a'r rhai newydd) ee Categori:Lleoliad a oedd o fewn Etholaeth Dyffryn Clwyd yn Etholiad Cyffredinol 2004, er enghraifft? Mi wneith y bot ddod yn handi iawn i wneud talp reit fawr o'r gwaith. O gategoreiddio pob lleoliad, mae ychwanegu / newid grwp / etholaeth yn tipyn haws. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:53, 26 Mehefin 2024 (UTC)
- Gwych! Dydw i ddim yn amharod i wneud gwaith caled a diflas ond mae'r dasg honno yn drech na mi! Craigysgafn (sgwrs) 21:33, 26 Mehefin 2024 (UTC)
- Diolch am dy waith da, Dafydd. Mae un peth sy'n fy mhoeni i yw beth ddylai ddigwydd ar ôl 4 Gorffennaf i'r llu o "Nodyn:Swits XXXX i enw'r AS" sy'n ymddangos yn yr erthyglau am lefydd yng Nghymru? Fydd etholaethau i'r Bae ac i San Steffan ddim yn cyfateb mwyach. Mae'r syniad o fynd trwy bob pentref yng Nghymru a gweithio allan lle mae'n gorwedd yn y ddwy system yn arswydus. Ac mae rhagolygon y bydd ffiniau etholaethau'r Senedd yn newid cyn bo hir, hefyd. A oes gan geidwad y bots unrhyw farn, tybed? --Craigysgafn (sgwrs) 22:33, 18 Mehefin 2024 (UTC)
Lua errors
[golygu cod]Mae miloedd o "Lua errors" wedi ymddangos yn sydyn ar dudalennau, gan gynnwys rhai rwy'n gwybod eu bod yn iawn ychydig diwrnodau yn ôl (e.e. Minimalism: a Documentary About The Important Things). Beth sy'n digwydd?! Craigysgafn (sgwrs) 22:47, 18 Mehefin 2024 (UTC)
- A reit. Fe wnes i ddiweddaru Modiwl:Wd ond mae'n amlwg roedd angen gwneud Modiwl:Wd/i18n hefyd. Roedd hynny'n trwsio peth gwallau ond roedd y dudalen wedyn yn pigo fyny cyfeiriadau o Wikidata (ffynhonell ar gyfer eitemau) a ceisio eu dangos ar y gwaelod, ond gyda gwall. Felly rwy wedi adfer yr hen fersiynau o'r ddau Modiwl yma yn unig. Mae'n bosib byddai angen diweddaru Nodyn:Pethau a Nodyn:Pobl i gyd ar yr un pryd, felly mae'n mynd yn gymleth. Roedd gen i osodiad lleol o Mediawiki i arbrof, felly bydd hwn yn rhywbeth i edrych fewn iddo yn fwy manwl rhywbryd eto. Dafyddt (sgwrs) 23:57, 18 Mehefin 2024 (UTC)
- Diolch! --Craigysgafn (sgwrs) 16:37, 19 Mehefin 2024 (UTC)
Cynhadledd y Cwlwm celtaidd: dyddiad, cynnig ar gyfer y rhaglen ac ysgoloriaethau
[golygu cod]Pa hwyl pawb?
Ar ran tîm trefnu Cynhadledd y Cwlwm Celtaidd, mae gen i ddigon o newyddion cyffrous i'w rhannu am y digwyddiad ar gyfer yr ieithoedd Celtaidd ar brosiectau Wikimedia!
Mae Cynhadledd Iaith y Cwlwm Celtaidd yn gynulliad sy'n cydnabod amrywiaeth y cymunedau ieithyddol Celtaidd a'u presenoldeb o fewn ecosystem fyd-eang Wicimedia. Wedi’i wreiddio yn ysbryd cydweithredu a grymuso cymunedau, mae’r digwyddiad hwn yn gyswllt i arbenigwyr iaith, cyfranwyr Wicimedia, eiriolwyr diwylliannol, academyddion ac ymchwilwyr i ddod at ei gilydd i archwilio dulliau arloesol o gadw, hyrwyddo, a chydnabod ieithoedd Celtaidd a lleiafrifol o fewn y gofod digidol.
Cynhelir y gynhadledd ar 25-27 Medi 2024, ar safle yn Ninas Waterford, Iwerddon. Cadwch lygad ar dudalen y digwyddiad am ddiweddariadau gan gynnwys manylion am y lleoliad, rhaglen a chofrestru! bydd manylion y lleoliad, y rhaglen, y cofrestriad a diweddariadau eraill yn cael eu hychwanegu at dudalen y digwyddiad cyn hir. [1]
Gan ein bod yn llunio rhaglen y gynhadledd ar hyn o bryd, byddem wrth ein bodd yn gwahodd aelodau’r gymuned i gyfrannu at y digwyddiad drwy roi cyflwyniad, sgwrs chwap, cynnal gweithdy neu gyflwyno poster. Mae'r alwad am gynigion rhaglen bellach ar agor tan ddydd Sul, 14 Gorffennaf. Gallwch gyflwyno cai yn uniongyrchol ar Wici neu ddefnyddio ffurflen bwrpasol. Fe welwch yr holl fanylion a chyfarwyddiadau ar dudalen y Rhaglen. [2]
I gefnogi cyfranogwyr sy'n dod o Iwerddon neu Ewrop i fynychu'r digwyddiad, rydym yn cynnig ysgoloriaethau i dalu am docynnau, am deithio a llety. I bobl sydd wedi'u lleoli mewn rhannau eraill o'r byd neu bobl na allant ymuno ar y safle, rydym yn cynnig e-ysgoloriaethau sy'n cwmpasu pecynnau data i wylio'r gynhadledd gartref. Mae'r broses ymgeisio o geisio am ysgoloriaeth ar agor tan ddydd Sul, 30 Mehefin. Gallwch ddod o hyd i'r ffurflen a'r cyfarwyddiadau ar Wici. [3]
Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eich cyfraniadau i'r rhaglen a’ch cais am ysgoloriaeth!
Os oes gennych gwestiynau, yna mae croeso i chi gysylltu a'r tîm trefnu: Amy O'Riordan a Sophie Fitzpatrick (Cymuned Iwerddon Wikimedia), Richard Nevell (WMUK) neu Léa Lacroix. [4]
[1] https://meta.wikimedia.org/wiki/Celtic_Knot_Conference_2024
[2] https://meta.wikimedia.org/wiki/Celtic_Knot_Conference_2024/Call_for_submissions
[3] https://meta.wikimedia.org/wiki/Celtic_Knot_Conference_2024/Attend
[4] https://meta.wikimedia.org/wiki/Celtic_Knot_Conference_2024#Organising_team
And thank you to Llywelyn2000 for translating in Welsh! Richard Nevell (WMUK) (sgwrs) 14:47, 19 Mehefin 2024 (UTC)
- Nawr dwi'n cael fy mhen rownd i'r Celtic Knot! Diawl, roeddwn yng Ngwlad y Basg yr wythnos ddiwethaf a hynny wedi bod ar fy meddwl! Oes pobl yn mynd draw o Gymru? Stefanik (sgwrs) 17:01 2 Gorffennaf 2024 (UTC)
- Drap! Rwan dw i'n gweld hwn! Rhy hwyr! Sut aeth hi, Sion? Llywelyn2000 (sgwrs) 10:55, 9 Hydref 2024 (UTC)
Categorïau cenedligrwydd
[golygu cod]Rydw i wedi cychwyn ar y gorchwyl enfawr o symud y categorïau cenedligrwydd fel eu bod yn cyfeirio at enw'r wlad neu wladwriaeth (e.e. o Gymru, o Ffrainc, o'r Unol Daleithiau), yn hytrach na defnyddio'r ansoddair (e.e. Cymreig, Ffrengig, Americanaidd). Dyma newid sydd wedi ei angen ers blynyddoedd, yn fy marn i. Mae sawl rheswm am hyn:
- Defnyddio'r ffurf Gymraeg naturiol, yn ôl y canllawiau iaith, ac argymhellion Geiriadur yr Academi (t. xlix, adran "Adjectives and nouns denoting nationality").
- Osgoi dadleuon ynglŷn ag ethnigrwydd, cenedligrwydd, dinasyddiaeth ac hunaniaeth yr unigolyn dan sylw. Cafwyd sawl trafodaeth ers dyddiau cynnar Wicipedia am y defnydd o "Prydeinig", er enghraifft (2007, 2008, 2010).
- Osgoi dryswch wrth wahaniaethu rhwng ethnigrwydd, cenedl, a dinasyddiaeth yn gyffredinol (e.e. nid yw pawb o Serbia yn "Serb", nid yw pawb o Dwrci yn "Dwrc").
- Cysoni'r categorïau am bobl â'r categorïau am bopeth arall, "yn ôl gwlad": daearyddiaeth, hanes, gweithiau, anifeiliaid a phlanhigion, ayb.
- Osgoi'r anghysondeb sy'n ymddangos pan nad oes ansoddair Cymraeg i ddisgrifio cenedligrwydd (e.e. Gweriniaeth Canolbarth Affrica, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo).
- Symleiddio a chwtogi enwau'r categorïau rhywfaint (e.e. Llenorion Cymreig yn yr iaith Gymraeg → Llenorion Cymraeg o Gymru).
- Osgoi ailadrodd mewn ambell achos (e.e. Chwaraewyr pêl-droed Americanaidd Americanaidd → Chwaraewyr pêl-droed Americanaidd o'r Unol Daleithiau).
Yn amlwg bydd y dasg hon yn cymryd amser hir, felly ceisiaf ei chyflawni fesul maes (e.e. un galwedigaeth ar y tro). Croeso i unrhyw ddefnyddiwr arall helpu, wrth gwrs, ond rydw i'n digon hapus i ddwyn y baich. Mae'r Tasglu Categorïau yn bodoli i hwyluso'r fath waith, os oes angen. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:52, 26 Mehefin 2024 (UTC)
- Mae hyn yn ddatblygiad ardderchog sydd â fy nghefnogaeth lawn. Byddaf yn gwneud yr hyn a allaf i helpu. --Craigysgafn (sgwrs) 21:27, 26 Mehefin 2024 (UTC)
- Gwych. "Enw'r wlad neu wladwriaeth" yn egwyddor da, a gobeithio fydd hyn yn annog brawddegau agoriadol mwy naturiol ar erthyglau maes o law! Llygad Ebrill (sgwrs) 23:01, 26 Mehefin 2024 (UTC)
Etholiad Llywodraeth Lloegr
[golygu cod]Os ydych yn giamstars ar Nodion (templates) a ballu, mae croeso i chi ymuno yn y Wicibrosiect Wicipedia:Pethau i'w gwneud cyn ac wedi Etholiad Cyffredinol 2024. Ychwanegwch eich gwaith / syniadau / awgrymiadau i'r dudalen osgydd! Caiff y switsis eu gwneud ar y dydd Gwener. Os nad ydych yn giamstars ar Nodion, beth am greu erthyglau ar yr ASau newydd? Can diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:57, 2 Gorffennaf 2024 (UTC)
- Mae'r rhan fwyaf o'r canlyniadau ar Wici Saesneg bellach. O gopïo a phastio'r cod o'r Saesneg does dim angen cyfieithu llawer (mae enwau'r prif bleidiau ac ati yn cael eu cyfieithu'n awtomatig). Os nad oes gan unrhyw un arall awydd i'w gwneud nhw mi wnaf i nhw dros fwrw'r Sul AlwynapHuw (sgwrs) 17:23, 5 Gorffennaf 2024 (UTC)
Swydd Rheolwr Cymru
[golygu cod]Ddiwedd Awst, byddaf yn ymddeol fel Rheolwr a Chydgordiwr Cymru, wedi dros 11 mlynedd yn llawn amser efo Wici Cymru ac wedi hynny gyda Wikimedia UK. Bydd seibiant o ychydig fisoedd cyn y bydd WMUK yn barod i hysbysebu'r swydd newydd. Meddyliwch amdano a chadwch lygad ar y dudalen hon. Diolch i bawb am eich cefnogaeth dros y blynyddoedd! Da ni wedi torri tir newydd iawn dw i'n credu: yr uchafbwynt oedd cael mwy o erthyglau ar ferched nag ar ddynion! Y siom yw fod cyrff fel Amgueddfa Cymru yn dal i ffosileiddio o fewn eu drysau caeedig. 17,000 o erthyglau oedd yma pan gychwynais; mae na bron i ddau gan mil erbyn hyn, diolch i chi, griw call, gweithgar, deallus, dewr. Cofion cynnes atoch i chi gyd! Byddaf yn dal i bicio i fewn yn achlysurol, felly, bihafiwch! Mae'r frwydr yn parhau. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:10, 12 Gorffennaf 2024 (UTC)
- Diolch am yr holl waith caled dros y blynyddoedd Robin. Bydd yn her i unrhywun sy'n cymeryd y swydd i gyflawni gymaint! Mwynha dy ymddeoliad ond rwy'n siwr byddi di'n parhau i gyfrannu mewn rhyw ffordd! Dafyddt (sgwrs) 18:02, 12 Gorffennaf 2024 (UTC)
- Diolch o galon i ti Robin am dy holl waith - wir yn gyfraniad rhyfeddol at ddysg yn y Gymraeg a hefyd yr iaith yn gyffredinnol. Bydd yn chwith hebdda ti i'n harwain, ac, ar lefel bersonol, i ateb pob un gwestiwn bach twp gen i!Stefanik (sgwrs) 10:39, 17 Gorffennaf 2024 (UTC)
- Diolch Robin am yr holl waith ac am fod yn enghraifft i ni i gyd! Sgidiau mawr iawn i rywun lenwi. A mwynha'r seibiant pan ddaw! Cofion, Robin aka Llygad Ebrill (sgwrs) 20:18, 20 Gorffennaf 2024 (UTC)
- Clywch! Clywch! Diolch o'r galon, Robin. Dafydd --Craigysgafn (sgwrs) 21:19, 20 Gorffennaf 2024 (UTC)
- Newydd weld hyn, Robin. Diolch o galon am yr holl help ac ysbrydoliaeth efo Cof y Cwmwd. Heb dy gefnogaeth di fydden ni byth wedi medru cychwyn, heb sôn am gario ymlaen. Heulfryn (sgwrs) 17:21, 9 Medi 2024 (UTC)
Noëlle Ffrench Davies
[golygu cod]Help eto. Dwi wedi sgwennu erthygl ar Noëlle Ffrench Davies (priod David James Davies - economegydd cynnar i Blaid Cymru). Dwi wedi llwytho'r cofnod a chreu cofnod yn Wikidate ... ond gweld nawr, wrth geisio dolenni ei henw fewn i'r erthygl/cofnod wikidata DJ Davies, bod rhywun wedi creu cofnod wikidata iddi (ond heb gofnod): https://www.wikidata.org/wiki/Q56187047. So, beth sydd angen gwneud?
oh ie, beth sydd wedi digwydd i'r bot @wicipedia ar Trydar? Hoff o ddilyn hwnnw i weld beth sydd yn newydd ar y wefan.Stefanik (sgwrs) 17:15, 24 Gorffennaf 2024 (UTC)
- Ceir blwch "wikipedia/wicipedia" ger gwaelod y tudalen WD. Gwasgwch y botwm "edit/golygu" ynddo a bydd eitem rhestr newydd yn ymddangos. Teipiwch "cywiki" yn y blwch, yna enw eich erthygl nesaf ato. Gwasgwch "publish/cyhoeddi". Dylai hynny wneud y tric. Neu ydw i wedi dy gamddeall? Dafydd --Craigysgafn (sgwrs) 19:35, 24 Gorffennaf 2024 (UTC)
- Diolch. Sori, dwi ddim cweit yn deall. Dwi wedi ceisio dileu y ddolen oedd yn y wikidata greues i o dan enw Noëlle Ffrench Davies a rhoi'r enw hwnnw yn y blwch 'golygu' yna 'cy' yn y cofnod Wikidata oedd eisoes wedi eu greu, ond mae'n gwrthod cymryd yr enw. Dwi'n cael y neges yma:
- "Cafwyd nam tra'n ceisio rhoi ar gadw ac oherwydd hyn ni allwyd cadw eich newidiadau.
- The save has failed.
- The link cywiki:Noëlle Ffrench Davies is already used by Item Q127786294. You may remove it from Q127786294 if it does not belong there or merge the Items if they are:::about the exact same topic. If the situation is more complex, please see Help:Sitelinks."
- Yn fras, dwi am ddolennu fy erthygl i (does dim un arall) gyda'r cofnod Wikidata sydd eisoes wedi ei greu gan rhywun arall. Stefanik (sgwrs) 09:51, 25 Gorffennaf 2024 (UTC)
- Siwr iawn! Rwyf wedi uno'r ddwy eitem WD. (Dewiswch y "More/Rhagor" tab ar ben un o'r ddau dudalen WD, wedyn "Merge", a teipiwch rhif y tudalen arall yn y blwch.) Hwyl. Dafydd Craigysgafn (sgwrs) 18:22, 25 Gorffennaf 2024 (UTC)
- diolch yn dalpe, Dafydd! Dwi'n annobeithiol ar ddeall y stwff mwyn technegol yma. Wedi ychwanegu at yr erthygl hefyd - rhyw ffordd wnes i ddim sylwi bod erthygl amdanni ar y Bywgraffiadur .... yn defnyddio nifer o'r un ffynhonellau ddefnyddies i! Ond dynes anhygoel ac yn falch o'r cyfle i'w chofnodi a'i chofio. Diolch eto. Stefanik (sgwrs) 08:32, 26 Gorffennaf 2024 (UTC)
- Siwr iawn! Rwyf wedi uno'r ddwy eitem WD. (Dewiswch y "More/Rhagor" tab ar ben un o'r ddau dudalen WD, wedyn "Merge", a teipiwch rhif y tudalen arall yn y blwch.) Hwyl. Dafydd Craigysgafn (sgwrs) 18:22, 25 Gorffennaf 2024 (UTC)
- Diolch. Sori, dwi ddim cweit yn deall. Dwi wedi ceisio dileu y ddolen oedd yn y wikidata greues i o dan enw Noëlle Ffrench Davies a rhoi'r enw hwnnw yn y blwch 'golygu' yna 'cy' yn y cofnod Wikidata oedd eisoes wedi eu greu, ond mae'n gwrthod cymryd yr enw. Dwi'n cael y neges yma:
Categoriau heb defnydd
[golygu cod]Sori am ofyn, dw i'n dal i ffeindio fy ffordd i o gwmpas Wici Cymraeg, ond beth yw y polisi am gategoriau sy'n wag, neu heb unrhyw siawns o ddefnydd yn y dyfodol?
Er engraifft, mae llawer o gategoriau sy'n cael eu chreu ar hyn o bryd ar gyfer "galwedigaeth a chrefydd" - gwela Categori:Pobl yn ôl gwlad, galwedigaeth a chrefydd (popeth yn wag). Yn fy marn i, fydd dim lot o ddefnydd (neu ddim defnydd o gwbl) o'r categoriau yno, orherwydd dyw dim unrhyw cysylltiad fel arfer rhwng galwedigaeth a chrefydd (heb son am bobl sy'n gweithio i ryw fath o eglwys). Sionk (sgwrs) 12:21, 7 Awst 2024 (UTC)
- Haia @Sionk Mae'n edrych fel bod llawer o'r catagoriau yma wedi cael i creu yn weddol diweddar felly dwi'n cymryd bod gan yr olygydd yna bwriad i dechrau lenwi. Mae'n swnio fel categori eitha arbenigol ond mae pob un categori yn helpu roi sylw, ac i gyru traffig at ein cynnwys. Credu bod na rhai achosion defnydd e.e 'esgob Anglicanaidd o UDA' neu 'emynydd Methodistaidd o Loegr'. Felly gorau po fwyaf yn fy marn i! Jason.nlw (sgwrs) 10:42, 12 Awst 2024 (UTC)
- @Sionk: (A diolch iti am dy hwrdd o weithgarwch yn ddiweddar!) Mwy na thebyg, mae yna gategorïau diangen yma a thraw, ond ar hyn o bryd mae Adda'r Yw a finnau'n brysur yn gwneud newidiadau helaeth i strwythur y categorïau hynny sy'n cysylltu'n ôl â chenhedloedd a gwledydd. Mae'r ddau ohonom yn gwneud cannoedd o newidiadau y dydd. Er hynny, bydd y dasg yn cymryd wythnosau. Mae Categori:Pobl yn ôl gwlad, galwedigaeth a chrefydd yn enghraifft ardderchog. Mae 41 o is-gategorïau yn cysylltu â'r tudalen hwn, ond nid ydyn nhw i gyd yn wag. Fesul un, bydd y gweddill yn cael eu llenwi hefyd. Felly rhaid bod yn amyneddgar am sbel. Hwyl, Dafydd. --Craigysgafn (sgwrs) 14:04, 12 Awst 2024 (UTC)
- Wel, diolch am bob ymateb, ond dyw e ddim yn gwneud unrhyw synwyr i fi o gwbl, creu mwy o gategoriau na erthyglau (a llawer o gategoriau newydd yn hollol gwag). Mae'n cael y disgrifiad "overcategorisation" ar Wikipedia Saesneg, claddu erthyglau mewn llawer o gategoriau ddiangen. Ond newydd yma rydw i a dyw fy Nghymraeg dim yn digon da am wthio'r ddadl yn bellach. Bydda i'n mynd ymlaen gyda fy "hwrdd" yn lle. Sionk (sgwrs) 21:32, 12 Awst 2024 (UTC)
- Mae'r ffordd mae dolenni wedi cael eu creu ar Wicipedia dros yr ugain a rhagor o flynyddoedd diwethaf wedi bod yn smonach llwyr. Rwy'n creu erthygl newydd a chategorïau newydd ar ei chyfer, heb fod "gardd achau" i indecs i'r safle cyfan cael ei greu. Dydy categorïau gwag ddim yn achosi "overcategorisation". Mae gwaith Adda'r Yw a Craigysgafn yn ei osgoi. Os ydwyf yn ysgrifennu erthygl am Joseph René Vilatte, bydd y categorïau cywir ar gael, heb i mi orfod chwilio am danynt na chreu categoriau amddifad o fy mhastwn fy hun. Ac os ydwyf yn defnyddio y peiriant cyfieithu i ysgrifennu'r erthygl, bydd y categoriau gwag yn cael eu llenwi. AlwynapHuw (sgwrs)
- Wel, diolch am bob ymateb, ond dyw e ddim yn gwneud unrhyw synwyr i fi o gwbl, creu mwy o gategoriau na erthyglau (a llawer o gategoriau newydd yn hollol gwag). Mae'n cael y disgrifiad "overcategorisation" ar Wikipedia Saesneg, claddu erthyglau mewn llawer o gategoriau ddiangen. Ond newydd yma rydw i a dyw fy Nghymraeg dim yn digon da am wthio'r ddadl yn bellach. Bydda i'n mynd ymlaen gyda fy "hwrdd" yn lle. Sionk (sgwrs) 21:32, 12 Awst 2024 (UTC)
- @Sionk: (A diolch iti am dy hwrdd o weithgarwch yn ddiweddar!) Mwy na thebyg, mae yna gategorïau diangen yma a thraw, ond ar hyn o bryd mae Adda'r Yw a finnau'n brysur yn gwneud newidiadau helaeth i strwythur y categorïau hynny sy'n cysylltu'n ôl â chenhedloedd a gwledydd. Mae'r ddau ohonom yn gwneud cannoedd o newidiadau y dydd. Er hynny, bydd y dasg yn cymryd wythnosau. Mae Categori:Pobl yn ôl gwlad, galwedigaeth a chrefydd yn enghraifft ardderchog. Mae 41 o is-gategorïau yn cysylltu â'r tudalen hwn, ond nid ydyn nhw i gyd yn wag. Fesul un, bydd y gweddill yn cael eu llenwi hefyd. Felly rhaid bod yn amyneddgar am sbel. Hwyl, Dafydd. --Craigysgafn (sgwrs) 14:04, 12 Awst 2024 (UTC)
Kinnerton, Powys
[golygu cod]Dwi ddim eisiau creu cyfrif, dim ond nodi camgymeriad yn yr erthygl. Nid yw Kinnerton yn agos at fod yn etholaeth Mark Tami yng ngogledd dwyrain Cymru - bodib fod rhywun wedi drysu rhwng Kinnerton (Powys) a Higher Kinnerton (Sir y Fflint) 2A00:23C8:A040:8F01:45C9:C015:5101:B1CC 11:07, 13 Awst 2024 (UTC)
- Diolch! Ac i'r ddau olygydd wnaeth gywiro'r nam. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:54, 3 Medi 2024 (UTC)
Dileu'r erthygl ar Hamas
[golygu cod]Mae na un defnyddiwr dienw wedi rhoi ei resymau dros ddileu'r erthygl ar Hamas: gw. y dudalen Sgwrs. Tybed a wnewch chi fynd drwy'r erthygl gyda chrib man, ei gwella a'i chywiro. Byddai nodyn ar y dudalen Sgwrs hefyd yn nodi eich sylwadau yn beth da. Ac os credwch y dylid dileu'r dudalen, cofiwch ddweud hynny! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:15, 21 Awst 2024 (UTC)
- Diolch @Llywelyn2000 am adfer yr erthygl. Mae'n edrych yn iawn i mi ond mae lle i'w hehangu wrth gwrs! Llygad Ebrill (sgwrs) 19:03, 24 Awst 2024 (UTC)
Templedi "Gwella"
[golygu cod]Dw i wedi sylwi ar dempledi "Gwella" yn cael eu rhoi ar erthyglau wythnos ma, sef Faith Kipyegon a Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Yw e'n gwir mae gormod o gamgymeriadau arnyn nhw am eu cadw? Byddai siom gweld eu dileu. Ond os felly, efallai dw i wedi bod yn 'rhedeg cyn cerdded' a mae angen i fi weithio yn ardaloedd eraill yn lle? Sionk (sgwrs) 10:33, 23 Awst 2024 (UTC)
- Dw i'n ceisio mynd trwy'r erthyglau newydd wrth iddyn ymddangos ar yr Hafan, a'u gwella neu nodi bod angen i rywun arall wneud hynny os nad oes gen i amser. Dw i'n agored i drafod os ydy golygyddion eraill yn teimlo byddai ffyrdd well i minnau gyfrannu! Dim ond fi wnaeth ychwanegu'r templed, a dw i wedi rhoi'r templed ar ambell erthygl o waith golygyddion mwya profiadol y Wici hefyd, felly plis peidiwch â chymryd y peth yn bersonol. Dw i'n gweld hefyd bod 231 o erthyglau gyda'r templed a neb ar frys i'w dileu - dw i'n cytuno mai siom byddai dileu, gwella'r erthyglau yma i gyd fyddai'n ddelfrydol. Nid "gwallau" fel y cyfryw sy'n fy mhoeni i, dydy gwallau treiglo, sillafu ac ati ddim yn ddifrifol ac mae'n digon hawdd eu trwsio. Y broblem ydy'r brawddegau cyfan sydd yn amlwg wedi eu "cyfieithu" ac yn gwneud dim synnwyr. Er mwyn ceisio gwella erthyglau o'r fath mae rhywun angen darllen yr erthygl Saesneg er mwyn ail-gyfieithu, a/neu deall y pwnc dan sylw yn drylwyr - ac mae hynny'n cymryd amser. O ran eich cwestiwn @Sionk yn bersonol swn i'n eich annog chi i ddal ati, ond i geisio ysgrifennu yn eich geiriau eich hun - gan ddefnyddio brawddegau syml, clir - yn hytrach na cheisio cyfieithu pob un gair. Llygad Ebrill (sgwrs) 10:36, 24 Awst 2024 (UTC)
- Mae ambell un o'r tudalennau "nodyn gwella" braidd yn anghwrtais i ddefnyddwyr newydd, ac mae'n werth ystyried eu hadolygu. Sionk ar ôl cam ddeall beirniadaeth debyg gan hen gyfaill coleg Llywelyn2000 rhoddais i'r gorau i gyfrannu am ddwy flynedd. Wedi cael deall mae nid feirniadaeth, ond cynnig cymorth i fod yn gyfrannydd gwell i'r safle oedd y sylwadau rwyf bellach wedi gwneud 34,590 o olygiadau ar Wicipedia a 77,649 o olygiadau ar Wicidestun. Paid digalonni, daliwch ati, mae dy gyfraniadau yn cael eu gwerthfawrogi, anogaeth nid beirniadaeth yw'r sylwadau. AlwynapHuw (sgwrs) 04:04, 25 Awst 2024 (UTC)
-
- Dw i'n defnyddio'r Nodyn yma'n aml, pan nad oes gennyf yr amser neu'r amynedd i gywiro erthygl. Ein nod ydy erthyglau cywir, a thydy gweithio tua'r nod honno ddim yn beth drwg! Mi hoffwn fynd drwy'r erthyglau sydd yn y Nodyn:Gwella a'u cywiro, neu eu dileu. Os nad yw'r awdur gwreiddiol yn eu gwella, does ganddo fawr o ddiddordeb yn Wicipedia. Mae'r rhan fwyaf o'r erthyglau hyn yn cael eu creu gan olygyddion nad ydynt yn siarad gair o Gymraeg (hyn i'w weld yn aml gan nad ydynt yn amateb ar eu tudalen Sgwrs!)
- Fodd bynnag, ga i awgrymu fod geiriad y nodyn ychydig yn fwy positif? Yn hytrach na:
- Er bod peth gwybodaeth o werth ar y dudalen hon, nid yw'r erthygl fel y mae yn cyrraedd y safon angenrheidiol i'w chynnwys ar Wicipedia.
- beth am:
- Mae yna wybodaeth gwerthfawr yn yr erthygl hon, diolch yn fawr! Ond i gyrraedd safon arferol, derbyniol Wicipedia, mae angen ei gwella.
- Fel y dywed Alwyn: anogaeth nid beirniadaeth yw'r sylwadau. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:54, 25 Awst 2024 (UTC)
- Mae yna wahaniaeth mawr rhwng 'gwella' erthygl a chywiro gwallau iaith hefyd. O edrych, wela'i fawr o le ar gyfraniadau @Sionk - mae yna wybodaeth dda a ffynonellau. Yr unig beth oedd angen cywiro oedd ychydig o gam-sillafu ac efallai pethau aneglur oherwydd camgymeriad cyfieithu neu teipio/olygu. Mae yna nodyn Nodyn:Angen cywiro iaith sy'n fwy addas ar gyfer y math yma o erthyglau.
- Weithiau mae erthyglau yn cael eu creu gan ddefnyddwyr anhysbys neu rhywwun yn defnyddio'r cyfieithydd ond yn amlwg yn deall dim Cymraeg. Yn aml iawn, defnyddio'r Nodyn gwella/cywiro yw'r peth cyflymaf fan hyn. Ond os yw'r defnyddiwr yn rhywun sy'n amlwg yn gyfrannwr weddol brofiadol ac yn deall natur y Wici, rwy'n awgrymu mai codi'r mater ar eu tudalen sgwrs yw'r peth gorau, yn gyntaf o leia. (rhaid cyfadde mod i wedi peidio gwneud hynny yn ddiweddar oherwydd nad ydw i'n ffyddiog bod rhai cyfrannwyr yn cymeryd sylw!) Dafyddt (sgwrs) 16:06, 25 Awst 2024 (UTC)
- Diolch am bob ymateb eto. Roedd yn edrych ychydig yn llym i'w weld dyddiad targed am ddileu, dim ond 7 diwrnod yn y dyfodol. Efallai mae templed gwell yn bodoli am helpu golygywr eitha newydd, nid rhoi ofn arnyn nhw cymaint. Chwarae teg, dwi'n sylweddoli mod i'n gwneud rhai o camgymeriadau yn dwp (e.e. dweud "roedd Femke Bol wedi'i difrodi", wrth drio i ddweud "she was devasted", nid cael ei dymchwel gyda rhyw fath o wrecking ball, haha) a diofal yn achlysurol. Fel arfer, dw i'n ceisio gwirio mewn nifer o ffyrdd cyn chyhoeddu erthygl newydd. Wel, ga i ystyried sut i barhau ar ol yr wyl banc. Sionk (sgwrs) 12:57, 26 Awst 2024 (UTC)
- Falch o glywed bod @Sionk heb ei ddychryn a Femke Bol yn saff o wrecking balls y byd ;) Dw i'n hoffi'r awgrym uchod ynglŷn â newid geiriad y nodyn i fod yn fwy cadarnhaol. O ran Nodyn:Angen cywiro iaith - grêt os yw'r erthygl yn ddealladwy ond yn cynnwys gwallua tiepo, camddreiglo ac ati, ond dw i ddim yn ei weld yn briodol lle mae gofyn i rywun ddarllen yr erthygl Saesneg er mwyn gallu deall be oedd dan sylw. Dyna pam swn i'n annog pawb i gadw pethau'n syml - "she was devastated..." > roedd hi'n drist. ""Since then, Armenia has been a permanent fixture in EURO and World Cup qualifying tournaments, earning the notable achievement..." > Ers hynny, mae'r tîm yn chwarae ymhob gêm yn rowndiau rhagbrofol... Llygad Ebrill (sgwrs) 17:35, 26 Awst 2024 (UTC)
- Hyfryd cwrdd â thi yn y Steddfod @Sionk a chroeso i'r clwb! Dwi hefyd yn derbyn negeseuon i mi dwtio erthyglau, ac ie, os ydy rhywun yn rhoi amser o'i gwirfodd i sgwennu testun yna mae'n gallu tynnu hwyliau o ysbryd pobl rhywfaint. Ond mae'n bwysig bod y testun yn glir a chywir - dwi wedi derbyn rhyw 4 gofyniad i gywiro fy erthglau dros yr wythnos neu ddwy ddiwetha - felly dwi ti ddim ar ben ei hun! Yn bersonol, dwi'n falch bod pobl eraill yn bwrw golwg dros fy erthyglau, dwi angen hynny gan 'mod i'n airddall erbyn i'r erthygl fynd ar-lein! Dwi'n gwerthfawrogi bod pobl yn cysylltu yn gofyn i mi addasu rhywfaint ar y testun. Yn bersonol dwi'n darllen pob erthgl newydd sy'n dod lan ar y brif dudalen ac yn gwneud mân newidadau, ychwanegiadau neu'n dolennu i erthyglau eraill. Dwi'n meddwl bod ni i gyd yn gweithio fel tîm anffurfiol yn ceisio, gyda'n gilydd, i greu gwefan ac adnodd gwir ddefnyddiol a gwerthfawr yn y Gymraeg. Dal ati - dwi'n mwynhau yr amrywiaeth o erthyglau rwyt ti wedi ysgrifennu! Stefanik (sgwrs) 15:41, 28 Awst 2024 (UTC)
- Falch o glywed bod @Sionk heb ei ddychryn a Femke Bol yn saff o wrecking balls y byd ;) Dw i'n hoffi'r awgrym uchod ynglŷn â newid geiriad y nodyn i fod yn fwy cadarnhaol. O ran Nodyn:Angen cywiro iaith - grêt os yw'r erthygl yn ddealladwy ond yn cynnwys gwallua tiepo, camddreiglo ac ati, ond dw i ddim yn ei weld yn briodol lle mae gofyn i rywun ddarllen yr erthygl Saesneg er mwyn gallu deall be oedd dan sylw. Dyna pam swn i'n annog pawb i gadw pethau'n syml - "she was devastated..." > roedd hi'n drist. ""Since then, Armenia has been a permanent fixture in EURO and World Cup qualifying tournaments, earning the notable achievement..." > Ers hynny, mae'r tîm yn chwarae ymhob gêm yn rowndiau rhagbrofol... Llygad Ebrill (sgwrs) 17:35, 26 Awst 2024 (UTC)
- Diolch am bob ymateb eto. Roedd yn edrych ychydig yn llym i'w weld dyddiad targed am ddileu, dim ond 7 diwrnod yn y dyfodol. Efallai mae templed gwell yn bodoli am helpu golygywr eitha newydd, nid rhoi ofn arnyn nhw cymaint. Chwarae teg, dwi'n sylweddoli mod i'n gwneud rhai o camgymeriadau yn dwp (e.e. dweud "roedd Femke Bol wedi'i difrodi", wrth drio i ddweud "she was devasted", nid cael ei dymchwel gyda rhyw fath o wrecking ball, haha) a diofal yn achlysurol. Fel arfer, dw i'n ceisio gwirio mewn nifer o ffyrdd cyn chyhoeddu erthygl newydd. Wel, ga i ystyried sut i barhau ar ol yr wyl banc. Sionk (sgwrs) 12:57, 26 Awst 2024 (UTC)
- Datrusiad?
Ydy'r awgrym a roddais uchod yn dderbyniol? Hy / ee
Mae yna wybodaeth gwerthfawr yn yr erthygl hon, diolch am eich cyfraniad! Ond i gyrraedd safon arferol, derbyniol Wicipedia, gellir ei gwella ymhellach.
Llywelyn2000 (sgwrs) 11:23, 30 Awst 2024 (UTC)
- Rwy'n cytuno bod y newid hwn yn rhoi neges mwy anogol a chadarnhaol. Dafyddt (sgwrs) 23:46, 31 Awst 2024 (UTC)
- Ardderchog! Efallai y byddai'n syniad da hefyd tasen ni'n cynnwys maes dewisol (tebyg i'r un yn Nodyn:Dileu) lle gallai rhywun roi ychydig eiriau am ba fath o beth sydd angen ei drwsio. Craigysgafn (sgwrs) 09:05, 1 Medi 2024 (UTC)
- Diolch! Mae na ddrafft, sy'n dilyn eich cyngor doeth, rwan yn y Nodyn:Gwella, i'ch sylw caredig. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:51, 2 Medi 2024 (UTC)
- Gwych! Mae hynny'n taro'r nodyn cywir yn fy marn i! Diolch! Craigysgafn (sgwrs) 15:01, 2 Medi 2024 (UTC)
- Diolch! Mae na ddrafft, sy'n dilyn eich cyngor doeth, rwan yn y Nodyn:Gwella, i'ch sylw caredig. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:51, 2 Medi 2024 (UTC)
- Ardderchog! Efallai y byddai'n syniad da hefyd tasen ni'n cynnwys maes dewisol (tebyg i'r un yn Nodyn:Dileu) lle gallai rhywun roi ychydig eiriau am ba fath o beth sydd angen ei drwsio. Craigysgafn (sgwrs) 09:05, 1 Medi 2024 (UTC)
- Dw i newydd fod yn pori yn hanes y nodyn ac wedi adfer fersiwn @Llywelyn2000 o ddechrau mis Medi. Roedd @Xxglennxx wedi'i newid i gynnwys y gair "ehangu" a dw i ddim yn teimlo bod hynny'n addas - wrth gwrs, mae diffyg cynnwys yn broblem weithiau, ond weithiau mae angen cwtogi - yn amlach na pheidio, "cyfieithu" peirianyddol carbwl ydy'r broblem. Llygad Ebrill (sgwrs) 16:10, 15 Tachwedd 2024 (UTC)
Ein polisi Wicipedia:Arddull
[golygu cod]Gan ddilyn y ffasiwn ddiweddaraf gan hanesyddion ee John Davies (Hanes Cymru) a'r BBC, dw i wedi symud y Cymreigiad artiffisial 'Siarl' i'r 'Charles' brodorol gw. Charles III, brenin y Deyrnas Unedig. Mae cyfieithu 'William' i 'Nedw' yn hurt ac i 'Wiliam' yn ddiangen, ac mae defnyddio'r enw brodorol yn llawer mwy cywir o ran y cyfeiriadau. Carwn gynnig fod hyn yn troi'n bolisi. Hefyd, unwaith eto, gan ddilyn esiampl J.D., dylid cyfeirio at aelodau brenhinol pob gwlad gyda'r ardal maent yn argwyddiaethu arno ac nid eu teitl gwleidyddol ee 'Edward II, brenin Lloegr' neu 'Edward II' yn hytrach nag 'Edward II, Tywysog Cymru' ayb, ac yng nghorff yr erthygl, awgrymir defnyddir yr enw cyntaf 'Edward', fel a wneir ar bob Wici-iaith arall, gan gynnwys y Saesneg. Yn ddiweddar cafwyd un golygydd a ddaeth atom o en-wici a geisiai ychwanegu 'Tywysog Cymru' drwy'r erthygl gyfan, yn gwbwl ddiangen. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:19, 30 Awst 2024 (UTC)
- Rwy wedi meddwl bod angen gwneud hyn ers sbel fawr, ond ddim yn gwybod hanes y penderfyniad gwreiddiol. Oes yna le addas i ni gofnodi polisi/confensiwn fel hyn? Dafyddt (sgwrs) 23:36, 31 Awst 2024 (UTC)
- Anghytuno bod enwau Brenhinoedd Lloegr fel Iorweth I, Gwilym y Fastard, Harri VIII, Bess yn ffals. Maent yn britho hen lyfrau a chaniadau Cymru. Mantais lle ar y we yw y gallu i greu doleni rhwng y wahanol deitlau, pa bynag un yw prif benawd erthygl. Pwy sy'n chwilio Wicipedia am Ellis Humphrey Evans, Albert Jones nu Henry VIII? AlwynapHuw (sgwrs) 04:53, 1 Medi 2024 (UTC)
- Da byddai polisi gyda rhagor o enghreifftiau i gael deall y rhesymeg yn well - onid "Guillaume" oedd enw brodorol Gwilym y Concwerwr yn hytrach na Wil(l)iam? Cytuno efo pwynt @AlwynapHuw wedyn, mae digon o le yma ac er bod defnyddio e.e. Charles yn y teitl ac yn gyson o fewn yr erthygl yn ddigon rhesymol, lle mae ffurfiau eraill yn cael eu defnyddio, neu wedi cael eu defnyddio yn Gymraeg (neu enwau brodorol eraill lle maen nhw'n teyrnasu dros sawl gwlad), byddai cynnwys yr enwau hynny'n glir yn cyfoethogi'r erthygl, e.e. Charles III (Cymreigiad: Siarl, Llys-enw: Carlo, Māori: Tiāre te Tuatoru) Llygad Ebrill (sgwrs) 06:46, 2 Medi 2024 (UTC)
- Y dull symlaf i ni ei fabwysiadu, efallai, fyddai defnyddio'r un sillafiad ag a ddefnyddia John Davies, Bwlchllan, yn ei gyfrol Hanes Cymru. Fel hyn, byddai gennym bolisi cyson gan y meistr ei hun. Dydy JD ddim yn defnyddio'r sillafiad Saesneg yn slafaidd, os yw'r enw Cymraeg wedi'i fabwysiadu yn y cyfnod hwnnw. Felly, Harri VII sydd ganddo, nid Harry VII, ac wrth gwrs mae gennym yr ailgyfeiriad i ychwanegu faint fynom o lysenwau, enwau ffurfiol, barddol, cyffredin a ballu. Efallai mai'r ffordd orau i nodi sillafiad JD fyddai i mi restru enwau'r brenhinwyr sydd a fesiwn Gymraeg yn Hanes Cymru, lleied sydd. Yn ddiddorol iawn, mae'n defnyddio Gwilym 1 a Gwilym II (gan mai dyma'r enwau Cymraeg y dydd ar y ddau yma), ond William III (gan mai fel hyn y'i gelwid yntau yn ei gyfnod gan y Cymru).
-
- Yr unig enwau Cymraeg eraill yn y gyfrol Hanes Cymru yw: Catrin (Ymerodres Rwsia); Ceredic, brenin Elfed, Elinor o Gastîl; Harri I - VIII, brenhinoedd Lloegr; Harri o Drefynwy; Iwl Cesar; Mari I a II, breninesau Lloegr; Mari, brenhines yr Alban ac Oswy, brenin Northumbria.
-
- Sillafiad Saesneg / gwreiddiol sydd i'r gweddill, gan gynnwys: Augustus, Ymerawdwr Rhufain; 'Bonnie Prince Charlie'; Isabella de Breos; Catherine (gwraig Owain Tudur); Charles VI, brenin Ffrainc; Charles I, II a III, breninoedd Lloegr; David I, brenin yr Alban; Elizabeth I, brenhines Lloegr; George I - III, brenhinoedd Lloegr; Edward I-VIII, brenin Lloegr; Henry, tywysog Cymru (mab James I); James I a II, brenhinoedd Lloegr; John, brenin Lloegr; Louis VII ayb, brenin Ffrainc, Richard i - III, brenhinoedd Lloegr; Stephen, brenin Lloegr a William I, II a III, brenhinoedd Lloegr [cynsail i ddefnyddio'r sillafiad Saesneg i'r tywysog William sy'n fyw heddiw].
-
- Y telu brenhinol, presennol: carwn gynnig ein bod yn dilyn patrwm JD (a'r sillafiad yn ein cylchgronau, llyfrau...) sef y fersiwn Saesneg: Harry, Charles, William a ballu, gan gyfeirio at yr enw llys/swyddogol/llawn unwaith yn unig ar frig y dudalen fel y nodir gan Defnyddiwr:Llygadebrill, uchod. O dderbyn hyn, neu amrywiad ar hyn, byddai'r polisi yma'n cael ei ychwanegu i'r fan priodol yn: Wicipedia:Arddull. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:37, 2 Medi 2024 (UTC)
- O wario gormod o amser efo hen lyfrau, mae'n ymddangos i mi fod yr arfer o gyfieithu enwau teyrnoedd Lloegr (a gweddill y byd) i'r Gymraeg yn dod i ben ym 1901 ar ôl farwolaeth Victoria / Fictoria / Buddug (gyda'r eithriad o "Garlo" am resymau gwleidyddol cyfnod, a "Charlo yw ei enw EF" nid enw ei gyndeidiau Siarl I a II). Mae'n debyg bod digon o enghreifftiau o ddefnydd cyfieithiad a sillafiad amgen Cymraeg ar Wicidestun am bob un o'r diawliaid. Y peth pwysig yw bod unrhyw drefn yn cynnwys dolen i, a chyfeiriadau at yr enwau amgen. Wedi pennu rheol, mi af ati i sicrhau bod dolenni, ailgyfeiriadau a chyfeiriadau ar gael o drawsgrifiadau Wicidestun. Dyna pam fod Wicidestun yn bod! AlwynapHuw (sgwrs) 02:38, 5 Medi 2024 (UTC)
- Y telu brenhinol, presennol: carwn gynnig ein bod yn dilyn patrwm JD (a'r sillafiad yn ein cylchgronau, llyfrau...) sef y fersiwn Saesneg: Harry, Charles, William a ballu, gan gyfeirio at yr enw llys/swyddogol/llawn unwaith yn unig ar frig y dudalen fel y nodir gan Defnyddiwr:Llygadebrill, uchod. O dderbyn hyn, neu amrywiad ar hyn, byddai'r polisi yma'n cael ei ychwanegu i'r fan priodol yn: Wicipedia:Arddull. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:37, 2 Medi 2024 (UTC)
-
- Byddai hynny'n wych. Rho restr o bethau i ni ei wneud, i'th helpu. Defnyddio rhestr JD? Llywelyn2000 (sgwrs) 18:31, 6 Medi 2024 (UTC)
- ie, dilyn cynsail John Davies. Mae'n gyfarwydd i bobl sy'n darllen Cymraeg ac yn resymegol. Stefanik (sgwrs) 14:09, 13 Medi 2024 (UTC)
- Diolch Stefanik. Gan nad oes neb yn gwrthwynebu defnyddio sillafiad John Davies, mi af ati i ychwanegu hyn i'n polisi ar arddull, yn y man. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:10, 27 Medi 2024 (UTC)
- ie, dilyn cynsail John Davies. Mae'n gyfarwydd i bobl sy'n darllen Cymraeg ac yn resymegol. Stefanik (sgwrs) 14:09, 13 Medi 2024 (UTC)
- Byddai hynny'n wych. Rho restr o bethau i ni ei wneud, i'th helpu. Defnyddio rhestr JD? Llywelyn2000 (sgwrs) 18:31, 6 Medi 2024 (UTC)
Coup d'Etat - newid?
[golygu cod]Eich barn gyfeillion. Dwi wedi sgwennu cofnod ar Coup d'État, ond wrth ddolennu ar WikiData gweld bod ffilm o'r un enw wedi ei gofnodi ganddom. Felly, mae'r cofnod ar y weithred o Coup d'État (https://cy.wikipedia.org/wiki/Coup_d%27%C3%A9tat_(gwleidyddiaeth)) efo'r cromfach (gwleidyddiaeth) ar ei ôl. A fyddai'n gwneud synnwyr i newid y ffilm CdE gyda cronfach (ffilm) wrth ei enw, a bod y weithred CdE heb gromfach. Beth yw'ch barn? Jyst meddwl bod y term yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio na'r ffilm.Stefanik (sgwrs) 09:08, 6 Medi 2024 (UTC)
- Gadewch ef i mi. ... Craigysgafn (sgwrs) 09:02, 6 Medi 2024 (UTC)
- ... Rwy'n meddwl bod yr holl ddolenni'n gweithio'n gywir nawr. Rwyf hefyd wedi cysylltu llu o gyfeiriadau at coups d'état ar dudalennau eraill i'th erthygl newydd. --Craigysgafn (sgwrs) 20:32, 6 Medi 2024 (UTC)
- gwych! Diolch o galon! Stefanik (sgwrs) 15:27, 11 Medi 2024 (UTC)
Problem arall gydag erthyglau ffilmiau bot
[golygu cod]Dw i newydd sbotio nifer o erthyglau sydd yn amlwg gyda'r teitl anghywir:
- Blau ist eine warme Farbe (ffilm, 2013)
- Liebe ist das perfekte Verbrechen
- Begegnungen nach Mitternacht
Ac yn y blaen. Ffrangeg yw iaith wreiddiol y ffilmiau yma, felly does dim rheswm i ddefnyddio cyfieithiad Almaeneg fel teitl yr erthygl, ond dyna mae'r bot wedi ei wneud! Bydd angen i fod dynol gywiro hyn dw i'n cymryd, ond mae'n anodd gwybod lle i ddechrau wrth geisio ffeindio'r teitlau Almaeneg a Saesneg sy'n cuddio ymysg 7,045 o ffilmiau Ffrangeg (a dw i'n amau bod yr un broblem wedi codi gyda ffilmiau mewn ieithoedd eraill). Llygad Ebrill (sgwrs) 23:40, 13 Medi 2024 (UTC)
- Ie'n wir! Rwy'n credu bod hyn wedi digwydd oherwydd y set ddata roedd y bot yn ei defnyddio. Mwy llechwraidd yw'r duedd i gronfeydd data ddefnyddio teitlau Saesneg ar gyfer ffilmiau Ewropeaidd. Rwyf wedi bod yn cywiro pethau o'r math hwn fesul tipyn ers amser maith. Rwy'n amau'n fawr a oes modd gwneud y cywiriadau hyn yn awtomatig, neu hyd yn oed a allai'r bot fod wedi gweld y broblem yn y lle cyntaf. Felly mae'n debyg bod yn rhaid i ni gadw llygaid ar agor am y broblem hon. Craigysgafn (sgwrs) 06:49, 14 Medi 2024 (UTC)
- Fy mai i, dw i'n siwr. Mi af drwy'r set ddata wreiddiol i weld a oes patrwm. A diolch am eich amynedd, ill dau! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:08, 5 Hydref 2024 (UTC)
- Diolch! Ro'n i wedi dechrau mynd trwy'r rhai "Ffrangeg" yn nhrefn yr wyddor ac wedi cyrraedd "G" - wna i adael y dasg honno am y tro, gan obeithio bydd ffordd o gyflymu'r gwaith. Mae tipyn un ai ef teitl y fersiwn Almaeneg, neu gyfieithiad otomatig i'r Gymraeg (o'r teitl Saesneg) yn lle teitl gwreiddiol yn Ffrangeg. Rhai o'r rheini - lleiafrif - yn gopïau dyblyg, gydag erthygl eisoes yn bodoli efo'r teitl gwreiddiol. Ambell achos mwy cymhleth lle mae'r ffilm mewn sawl categori iaith, neu hyd yn oed yn y categori iaith anghywir - fel arfer mae'r wybodaeth i'w gael ar IMDB. Llygad Ebrill (sgwrs) 14:07, 17 Hydref 2024 (UTC)
- Fy mai i, dw i'n siwr. Mi af drwy'r set ddata wreiddiol i weld a oes patrwm. A diolch am eich amynedd, ill dau! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:08, 5 Hydref 2024 (UTC)
Dathliad Cymunedol Wikimedia UK 2024
[golygu cod]Helo bawb, Arbed y dyddiad yn eich calendr! Ar Ddydd Sadwrn 23 Tachwedd, 11am - 1pm, bydd WMUK yn cynnal Dathliad Cymunedol Wikimedia UK 2024. Rydym yn anelu at y digwyddiad ar-lein hwn i fod yn ddathliad o'r hyn y mae ein cymuned wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac yn gyfle i arddangos rhywfaint o'r gwaith anhygoel ar brosiectau Wiki sydd wedi bod yn digwydd ledled y DU.
Yn y digwyddiad, hoffem arddangos gwaith y mae aelodau'r gymuned wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar trwy gyfres o sgyrsiau mellt. Byddem yn wirioneddol hoffi clywed am yr hyn nad ydym ni, neu aelodau eraill o’r gymuned efallai wedi clywed amdano. Mae'n aml fod llawer iawn o waith yn cael ei wneud gan Wicimediwr nad yw eraill yn ei weld. Felly dyma wahoddiad i rannu’r hyn rydych wedi bod yn ei wneud mewn cyflwyniad byr o 5 munud neu lai.
Ydych chi wedi gwneud rhywbeth diddorol gyda set ddata ar Wikidata? Efallai bod chi wedi llwyddo i ddod o hyd i ffynhonnell o'r diwedd i drwsio'r erthygl yna rydych chi wedi bod yn sbïo arni am y ddau fis diwethaf? A wnaeth eich gwaith ar erthygl Wicipedia arwain at ddarganfod stori ddiddorol iawn? A wnaethoch chi lwyddo i gael delwedd â thrwydded agored sydd wedi trawsnewid erthygl? …ac yn hollbwysig, a hoffech chi rannu eich stori? Defnyddiwr:Rupal Karia WMUK
Wicipedia a Wicidestun
[golygu cod]Rwyf newydd osod Tri Wyr o Sodom a'r Aipht ar Wicidestun, oherwydd bod y testun yn cael ei grybwyll yn yr erthygl wych am Y nofel Gymraeg. Rwy'n gobeithio ategu trawsgrifiadau o bob llyfr arall, sydd o fewn fy ngafael, i gefnogi'r erthygl. Nid prosiect ar wahân i Wicipedia yw Wicidestun, ond chwarel ffynonellau i erthyglau. One liner yw erthygl Ebenezer Richard ar hyn o bryd, mae llyfr a ddau erthygl amdano ar gael yn [[s:Categori:Ebenezer Richard|Categori:Ebenezer Richard]], cyfoeth i wella'r erthygl! Oni bai bod erthyglau Wicidestun yn cael eu defnyddio i greu a gwella erthyglau Wicipedia, gwe pry cop mewn ystafell wag ydynt. Da chwi olygyddion, defnyddiwch hwy! AlwynapHuw (sgwrs) 03:17, 28 Medi 2024 (UTC)
- Diolch Alwyn am dy holl waith diflino, a'th ddyfalbarhad. Duda mod i'n defnyddio gwybodaeth o'r dudalen hon, yna sut mae cyfeirio at y ffynhonnell yma? Mi faswn yn disgwyl botwm bach (fel sydd gan y Bywgraffiadur ar eu safle nhw); neu ddefnyddio'r cyfeiriad llawn at y dudalen?
- Mae'r hyn sydd ar Wicidestun yn sail gadarn i erthyglau Wicipedia, ac efallai fod angen tudalen syml yn dangos sut i ddefnyddio'r testun cyfoethog yma a sut i gyfeirio at y ffynhonnell. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:04, 5 Hydref 2024 (UTC)
- Ffordd cymleth: defnyddio y nodyn cyfeirio at lyfr <ref>{{Cite book|title=Bywyd y Parch. Ebenezer Richard|last=Richard|first=Henry|publisher=W. Clowes a'i feibion|year=1839|location=Llundain|pages=28|last2=Richard|first2=Edward|chapter=[[s:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen III|Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III ar Wicidestun]]}}</ref>
::
Ffordd syml - defnyddio dolen fewnol Wici gan ddefnyddio s: ar ei ddechrau i ddynodi source <ref>[[s:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen III|Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III]]</ref> [[s:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen III|Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III]]Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III (at y tudalen wedi ei drawsysgrifio) neu [[s:Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/39|Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III tud 28 ]] Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III tud 28 (i'r tudalen indecs). Noder mai 39 yw rhif y tudalen indecs ar Wicidestun a 28 y rif tudalen y llyfr — sef yr hyn sydd ei angen mewn cyfeirnod - AlwynapHuw (sgwrs) 20:12, 5 Hydref 2024 (UTC)
- Wel, mae hwnna'n newydd i mi! <ref>[[s:Bywyd... Byddai copio a gludo'r dull syml yma yn yr adran Cymorth yn beth da. Diolch eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:53, 9 Hydref 2024 (UTC)
- Angen tudalen cymorth ar bob un o'r prif brosiectau Wici Cymraeg, gan fod yr un drefn yn gweithio ar bob un ohonynt. Dyma fraslun o'r drefn:
- Dolen fewnol yn yr un prosiect— [[ ]] . . . [[Owen Morgan Edwards]] Owen Morgan Edwards
- Dolen rhyng-brosiect i Wicipedia —[[w:]]: . . .[[w:Llywelyn ap Gruffudd Fychan]] w:Llywelyn ap Gruffudd Fychan
- Dolen rhyng-brosiect i Widestun—[[s:]]: . . .[[s:Yr Efengyl yn ôl Sant Matthew/Pennod I]] s:Yr Efengyl yn ôl Sant Matthew/Pennod I
- Dolen rhyng-brosiect i Wiciddyfynu—[[q:]] . . . [[q:William Jones (nofel)]] q:William Jones (nofel)
- Dolen rhyng-brosiect i Wiciadur—[[wikt:]] . . . [[wikt:Ymerodraeth Otomanaidd]] wikt:Ymerodraeth Otomanaidd
- I Wicidata—[[d:]] . . .[[d:Glyn Nant-y-glo]] [[d:Q70568087]] d:Glyn Nant-y-glo d:Q70568087
- I Comin—[[c:]] . . . [[c:Category:Amlwch]] c:Category:Amlwch
- Saesneg yw iaith Comin ond gellir defnyddio | i roi testun Cymraeg amgen [[c:Category:Barmouth|Categori:Abermaw]] Categori:Abermaw
- Dolenni i gofnodion Wici mewn ieithoedd eraill [[cod prosiect:cod iaith:]]
- [[w:en:Universal Postal Union]] w:en:Universal Postal Union
- [[q:it:Barack Obama]] q:it:Barack Obama
- [[s:br:Geotenn ar Werc’hez]] s:br:Geotenn ar Werc’hez
- Gan fod William Jones (nofel); William Jones (nofel) a William Jones (nofel) i gyd yn ymddangos yr un fath, hwyrach bod angen rheol neu arferiad i wahaniaethu rhyngddynt ee William Jones (nofel) ar Wicidestun
- Gweler w:en:Help:Interwiki linking am ragor o wybodaeth AlwynapHuw (sgwrs) 19:06, 9 Hydref 2024 (UTC)
- Angen tudalen cymorth ar bob un o'r prif brosiectau Wici Cymraeg, gan fod yr un drefn yn gweithio ar bob un ohonynt. Dyma fraslun o'r drefn:
- Wel, mae hwnna'n newydd i mi! <ref>[[s:Bywyd... Byddai copio a gludo'r dull syml yma yn yr adran Cymorth yn beth da. Diolch eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:53, 9 Hydref 2024 (UTC)
- Ffordd cymleth: defnyddio y nodyn cyfeirio at lyfr <ref>{{Cite book|title=Bywyd y Parch. Ebenezer Richard|last=Richard|first=Henry|publisher=W. Clowes a'i feibion|year=1839|location=Llundain|pages=28|last2=Richard|first2=Edward|chapter=[[s:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen III|Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III ar Wicidestun]]}}</ref>
::
- Diolch am dy sylwad ar "Y Nofel Gymraeg" Alwyn :) Figaro (sgwrs) 20:59, 9 Hydref 2024 (UTC)
- @AlwynapHuw:Yn fy marn i byddai'n well, yn hytrach na rhoi dolenni i'r tudallenau Wicidestun ar yr erthygl, creu erthyglau newydd ar gyfer y testunau, wedyn rhoi dolen i Wicidestun o fana. O ddarllen erthygl mae rhywun yn disgwyl i'r in-text citations", y cyfeiriadau hynny yw, gefnogi'r datganiadau a wneir; yn hytrach na bod yn ddolenni at rywbeth gwahanol. Figaro (sgwrs) 13:01, 10 Hydref 2024 (UTC)
- Dim yn sicr be wyt ti'n golygu wrth "greu erthyglau newydd ar gyfer y testunau". Copi o'r llyfr sy'n cael ei drafod yn yr erthygl William Jones (nofel) yw'r testun ar Wicidestun. Sefydliad Wikimedia sydd wedi creu'r modd o ddolenni mewnol uchod rhwng y gwahanol brosiectau, gan eu bod yn credu bod defnydd iddynt, am wn i. Mae modd eu defnyddio fel dolenni mewn brawddeg heb beri dryswch ee "Un o lyfrau mwyaf poblogaidd T. Rowland Hughes yw William Jones; (trawsgrifiad ar gael ar Wicidestun)," neu fel cyfeirnod "Un o lyfrau mwyaf poblogaidd T. Rowland Hughes yw William Jones
- <ref.>Trawsgrifiad o William Jones ar Wicidestun</ref.> AlwynapHuw (sgwrs) 18:09, 10 Hydref 2024 (UTC)
- Baswn i'n disgwyl i'r cyfeiriad ar ddiwedd y frawddeg "Un o lyfrau mwyaf poblogaidd T. Rowland Hughes yw William Jones" fod at waith ysgolheigaidd (neu ffynhonnell arall) yn cefnogi'r datganiad mai WJ yw un o'i weithiau mwyaf poblogaidd - nid yn gyfeiriad at destun y llyfr, nad yw'n cefnogi'r datganiad y naill ffordd neu'r llall. Figaro (sgwrs) 22:20, 12 Hydref 2024 (UTC)
- Nid ddatganiad o ffaith, na dyfyniad o'r erthygl yw "Un o lyfrau mwyaf poblogaidd T. Rowland Hughes yw William Jones". Brawddeg ddychmygol ydyw, peg dillad ar gyfer creu enghraifft o sut i ddefnyddio rhan o gystrawen fewnol Wici fel dolen neu gyfeirnod i wybodaeth ar ran arall o'r Wici Cymraeg. AlwynapHuw (sgwrs) 23:29, 12 Hydref 2024 (UTC)
- Ie ond fy mhwynt yw y baswn i'n disgwyl i bob gyfeiriad fod at ffynhonell i gefnogi'r hyn mae'r frawddeg dan sylw newydd ei ddatgan. Figaro (sgwrs) 21:43, 13 Hydref 2024 (UTC)
- Pe bai hwn yn edefyn am rinweddau T Rowland Hughes fel llenor, mi fyddai gen ti bwynt, ond tydi o ddim, mae'n edefyn am ddefnyddio a chysylltu rhwng y gwahanol ganghennau o Wici. Mae William Jones, boed yma, ar Wiciddyfynu, Wicidestun, Comin, Wiciddata ac ati ddim yn berthnasol. Yr hyn sydd yn berthnasol yw bod y gystrawen dolennu enghreifftiol (pwnc yr edefyn) yn berffaith gywir. Pe bawn wedi dweud Ganwyd Lloyd George yng Nghaerdydd<ref>[[s:Drych yr Amseroedd]]</ref>, mi fyddwn yn 100% cywir o ran rhoi enghraifft o sut i ddefnyddio'r gystrawen dolen fewnol. AlwynapHuw (sgwrs) 00:50, 14 Hydref 2024 (UTC)
- Yr hyn rwy'n ceisio'i ddweud yw na ddylir defnyddio cyfeirnodau o fewn tesun i roi gwybod i'r darllenydd bod rhywbeth ar gael ar wicidestun (er enghraifft, fel rydych chi wedi gwneud yn yr erthygl ar y Nofel Gymraeg yn achos y Bardd Cwsg a Tri Wyr o Sodom). Nid dyna beth mae cyfeirnodau i fod i'w wneud. Pwrpas cyfeirnod yw cynnig ffynhonell i gefnogi datganiad. Figaro (sgwrs) 08:47, 14 Hydref 2024 (UTC)
- Os felly mae dy farn di a barn Sefydliad Wici rhyngwladol yn wahanol, ac yn wir byddai y rhan fwyaf o sefydliadau academaidd yn anghytuno efo ti hefyd.
Os wyt ti'n sôn am lyfr, dylid rhoi gwybodaeth ddigonol i alluogi dy ddarllenydd caffael ar y llyfr i'w darllen ei hun.
Mae cyfeiriad at gopi ar Wicidestun, Google Books, Internet Archive ac ati yn frith ym mhob iaith.
Rwy't yn sôn yn dy erthygl Y nofel Gymraeg am "Llyfr y Tri Aderyn (1653) gan Morgan Llwyd a Gweledigaethau y Bardd Cwsc (1703) gan Ellis Wynne, a rhai o weithiau rhyddiaith Williams Pantycelyn fel Tri Wŷr o Sodom (1768). "Fel enghreifftiau o lyfrau crefyddol allgarol Cymraeg, sydd ddim fel arfer yn cael eu hystyried yn nofelau yn yr ystyr fodern", heb gyfeiriad i gefnogi dy haeriad. Gan fy mod i wedi darllen y tri, rwy'n cydsynio efo dy osodiad. Ond sut wyddost ti? Mae'n ymddangos dy fod yn dibynnu a'r farn 'Y Nofel Gymraeg Gynnar' gan Gerwyn Williams, (1999), sydd yn dyfynnu o gyflwyniad Dafydd Jenkins i Helyntion Hen deiliwr (Y Clwb Llyfrau Cymraeg 1940), gwybodaeth trydedd law!
Be sydd well, rhoi cyfle i bobl darllen y gweithiau gwreiddiol, neu ddibynnu ar dy honiad trydydd dosbarth di?
Mae Wikisource ar gael mewn 78 o ieithoedd, fel modd i gadw testunau ar gyfer eu defnyddio fel cyfeiriadau i erthyglau pynciol ar Wicipedia.
Mae pob erthygl yn gynllun cydweithredol, does dim "erthygl fi" yn bodoli yma. Mae bod yn biwis bod eraill wedi ymyrred ag "erthygl fi" yn wrthyn i ethos Wici
Mae gennyf gopiau o nifer o'r llyfrau rwyt yn cyferio atynt, mi fyddwyf yn eu defnyddio fel cyfeiriadau yn dy erthygl AlwynapHuw (sgwrs) 02:28, 15 Hydref 2024 (UTC)- Mae yna lawer o haeriadau a beirniadaethau personol cwbl anheg a di-sail yn y sylw uchod.
- Os felly mae dy farn di a barn Sefydliad Wici rhyngwladol yn wahanol, ac yn wir byddai y rhan fwyaf o sefydliadau academaidd yn anghytuno efo ti hefyd.
- Yr hyn rwy'n ceisio'i ddweud yw na ddylir defnyddio cyfeirnodau o fewn tesun i roi gwybod i'r darllenydd bod rhywbeth ar gael ar wicidestun (er enghraifft, fel rydych chi wedi gwneud yn yr erthygl ar y Nofel Gymraeg yn achos y Bardd Cwsg a Tri Wyr o Sodom). Nid dyna beth mae cyfeirnodau i fod i'w wneud. Pwrpas cyfeirnod yw cynnig ffynhonell i gefnogi datganiad. Figaro (sgwrs) 08:47, 14 Hydref 2024 (UTC)
- Pe bai hwn yn edefyn am rinweddau T Rowland Hughes fel llenor, mi fyddai gen ti bwynt, ond tydi o ddim, mae'n edefyn am ddefnyddio a chysylltu rhwng y gwahanol ganghennau o Wici. Mae William Jones, boed yma, ar Wiciddyfynu, Wicidestun, Comin, Wiciddata ac ati ddim yn berthnasol. Yr hyn sydd yn berthnasol yw bod y gystrawen dolennu enghreifftiol (pwnc yr edefyn) yn berffaith gywir. Pe bawn wedi dweud Ganwyd Lloyd George yng Nghaerdydd<ref>[[s:Drych yr Amseroedd]]</ref>, mi fyddwn yn 100% cywir o ran rhoi enghraifft o sut i ddefnyddio'r gystrawen dolen fewnol. AlwynapHuw (sgwrs) 00:50, 14 Hydref 2024 (UTC)
- Baswn i'n disgwyl i'r cyfeiriad ar ddiwedd y frawddeg "Un o lyfrau mwyaf poblogaidd T. Rowland Hughes yw William Jones" fod at waith ysgolheigaidd (neu ffynhonnell arall) yn cefnogi'r datganiad mai WJ yw un o'i weithiau mwyaf poblogaidd - nid yn gyfeiriad at destun y llyfr, nad yw'n cefnogi'r datganiad y naill ffordd neu'r llall. Figaro (sgwrs) 22:20, 12 Hydref 2024 (UTC)
Dydy testun "Tri wyr o Sodom" (er enghraifft) ddim yn dystiolaeth cefnogol i ddatganiad am natur y testun hwnnw (er enghraifft "nid nofel yw'r testun yma"). Pe bai e, gellid ei ddefnyddio i gefnogi bron iawn unrhywbeth am y testun. Rwy'n methu â chyfleu'r pwynt yn symlach na hynny. Does dim yn academydd yn y byd fyddai'n derbyn "tystiolaeth" felly.
Os ydych chi'n dymuno camddeall a bod yn bersonol drwy wneud honiadau anheg (e.e. fy mod in sôn am "erthygl fi" - rhywbeth nad ydw i wedi'i ddweud o gwbl!) yna dydw i ddim yn dymuno parhau a'r drafodaeth. Figaro (sgwrs) 09:14, 15 Hydref 2024 (UTC)
- Gyda llaw, baswn i'n dweud bod eich dull a'ch dadl chi yn yr achos hwn yn mynd yn erbyn egwyddor "No Original Research" -
- "Even with well-sourced material, if you use it out of context, or to state or imply a conclusion not directly and explicitly supported by the source, you are engaging in original research... Drawing conclusions not evident in the reference is original research regardless of the type of source." (Ymddiheuriadau am y Saesneg, methu cael hyd I fersiwn Cymraeg o'r dudalen).
- Cydnabod y dyliwn I wedi cefnogi'r datganiad am natur y gweithiau alegorïol gyda ffynhonnell - ond dydy'ch newidiadau chi heb wneud hynny. Figaro (sgwrs) 10:02, 15 Hydref 2024 (UTC)
- Sut yn y byd yw cyfeiriad at destun gwreiddiol llyfr yn groes i'r rheol no original research? Sut mae dweud Dyma'r Llyfr yn gyfystyr a Drawing conclusions?. Os yw awdur traethawd neu erthygl yn crybwyll gwaith (llyfr, llawysgrif, erthygl, cerdd ac ati) rhaid rhoi gwybodaeth i'r darllenydd sut mae modd caffael ar y gwaith dan sylw. Diwerth yw cyfeiriadau at adolygiadau, barn academaidd, erthyglau ac ati am natur neu werth gwaith heb fod modd eu gwirio yn erbyn copi o'r gwaith. Ti'n hollol gywir wrth ddweud "Dydy testun "Tri ŵyr o Sodom" (er enghraifft) ddim yn dystiolaeth gefnogol i ddatganiad am natur y testun hwnnw, mae'n fwy sylfaenol na hynny, mae'n brawf bod y gwaith yn bodoli. Heb y prawf sylfaenol hwn, mae fy marn i dy farn di, barn Gerwyn Williams, barn Dafydd Jenkins a barn unrhyw un arall am y gwaith megis rhech mewn corwynt. Nid wyf wedi darllen Y Nofel Gymraeg Cynnar gan Gerwyn Williams, (1999), ond mae cyflwyniad Dafydd Jenkins i Fywyd Hen Deiliwr o'm mlaen i nawr. Yn unol ag arfer academaidd da mae Dafydd yn cynnwys llyfryddiaeth lawn, sydd yn galluogi ei ddarllenwyr i ymofyn copi o bob nofel a lled nofel mae'n crybwyll yn ei ragymadrodd. Mae ei lyfryddiaeth hefyd yn fy ngalluogi i i chwilio fy silffoedd llyfrau, chwilota mewn llyfrgelloedd a phori siopau llyfrau ail law i gael gafael ar y llyfrau mae'n cyfeirio atynt er mwyn i mi gael eu gosod ar Wicidestun fel nad oes raid i neb arall tagu ar lwch yr oesoedd er mwyn cael gafael arnynt.
Os nad wyt am gael dolenni mewnol neu gyfeirnodau waelod y tudalen i'r llyfrau rwyt yn eu crybwyll yn yr erthygl fel esiamplau gai awgrymu dy fod yn ychwanegu adran llyfryddiaeth ar waelod yr erthygl gyda Nodyn:Cite book wicipedia ar gyfer pob un <ref>{{Cite book|title=teitl|last=Cyfenw|first=Enw bedydd|publisher=cyhoeddwr|year=blwyddyn|isbn=|location=lleoliad cyhoeddi|url=URL mewnosod URL fersiwn ar-lein o'r llyfr neu ddetholiad, os yw ar gael}}</ref> AlwynapHuw (sgwrs) 16:17, 15 Hydref 2024 (UTC)- Mae'n "drawing conclusions" oherwydd nid yw'r peth mae'r cyfeirnod yn cyfeirio ato (Tri wŷr o Sodom ar wicidestun) yn cefnogi'r honiad yn y frawddeg (na fyddai pobl yn ystyried alegorïau crefyddol cynnar yn nofelau yn yr ystyr fodern).
- Baswn i ddim yn erbyn rhestr ar waelod y dudalen fel math o lyfryddiaeth, ond mewn gwirionedd onid y ffordd arferol ar wicipedia o "brofi bod rhywbeth yn bodoli" - mewn erthygl ar bwnc llawer ehangach - yw dolen at dudalen wicipedia y "rhywbeth" hynny? Sef, hynny yw, beth mae'r erthygl eisoes yn ei wneud. Cofiwch hefyd bod dwsinau o nofelau'n cael eu crybwyll yn yr erthygl - byddai rhaid rhoi pob un ohonynt yn y llyfryddiaeth er mwyn cysondeb, fyddai'n waith eitha mawr a dibwrpas gan fod dolenni eisoes at y dudalennau'r llyfrau penodol.
- Yr lle mwyaf priodol ar wicipedia i ddolen at Wicidestun Tri Wŷr yw ar y dudalen Tri Wŷr o Sodom. Os nad yw'r dudalen honno'n bodoli yna yr ateb yw ei chreu - dyna beth oeddwn i'n cyfeirio ati wrth sôn am greu tudalennau newydd. Figaro (sgwrs) 21:52, 15 Hydref 2024 (UTC)
- Dydy cyfeiriad at lyfr ar Wicidestun, Google Books, Internet Archive ac ati, dim yn "drawing conclusions" gan gyfrannydd i'r erthygl, mae'n rhoi cyfle i'r darllenydd cael gaffael ar y llyfr er mwyn iddo greu ei farn ei hun tu allan i faes Wicipedia. Mae'n gyfeiriad at ffynhonnell dibynadwy gellid gwirio yr erthygl Wici, adolygiadau, beirniadaethau, ac ati yn ei erbyn.
Mae'n tu hwnt i'n nirnadaeth i pam dy fod am greu erthygl am y "Nofel Gymraeg" heb creu modd i dy ddarllenwyr darllen yn nofelau rwyt yn sôn amdanynt, ac yn gwrthwynebu cysylltiadau iddynt AlwynapHuw (sgwrs) 00:40, 17 Hydref 2024 (UTC)- Yr lle mwyaf priodol ar wicipedia i ddolen at Wicidestun Tri Wŷr o Sodom
- Na! rheol aur Wicipedia yw na ddylid defnyddio Wicipedia fel ffynhonnell. Mae ffynhonnell dibynadwy at y testun ar gael yma Tri Wyr o Sodom a'r Aipht AlwynapHuw (sgwrs) 01:02, 17 Hydref 2024 (UTC)
- Ni'n mynd mewn cylchoedd yma.
- Unwaith eto dach chi'n fy nghyhuddo i o bethau gwirion ac anheg; gan ddweud nad ydw i eisiau cysylltiadau at wicidestun o dan esboniad o ble dwi'n meddwl dylai'r union gysylltiadau hynny fod. A dwi erioed wedi awgrymru defnyddio wicipedia fel ffynhonnell ar wicipedia. Fi'n methu deall sut allech chi wedi neidio i gasgliad hurt o'r fath.
- Mae gwahaniaeth (yn amlwg) rhwng dolen a chyfeiriad<ref>fel hwn.</ref>
- Dadlau ydw i mai'r lle priodol i gyswllt at wicidestun yw ar yr erthygl am y testun hwnnw. Byddai hynny'n rhoi pob testun ar wicidestun a grywbyllir yn yr erthygl 2 glic i ffwrdd o'r darllennydd gan bod yr erthyglau ar y llyfrau dan sylw eisoes un glic i ffwrdd (diolch i'r dolenni atynt sydd eisoes yma). Sut yn y byd ydy hynny'n golygu nad ydw i eisiau i bobl allu cael mynediad at y testunau?
- O ddilyn eich awgrym (rhyfedd ac ansafonol) chi - sef y dylid rhoi cyfeirnod bob tro y crywbyllir llyfr ar wicipedia - byddai'r erthygl yn frith o gyfeiriadau; 3-4 gwaith yn fwy na sydd yno eisoes a'r mwyafrif helaeht ohonyn nhw ddim at ffynhonellau o gwbl ond dim ond yn "dangos bod testun yn bodoli".
- Edrychwch ar yr erthygl yma [[2]] - yn yr adran gynta yn unig sonir am 18 o nofelau yn y parth cyhoeddus heb deimlo'r angen i roi dolenni i brofi eu bod yn bodoli (Ond sylwch! O glicio trwodd at erthyglau'r 18 nofel mae pob un yn cynnig dolenni i Project Gutenberg, Standard eBooks ac ati ar dudalennau'r erhyglau hynny). Figaro (sgwrs) 19:45, 18 Hydref 2024 (UTC)
- Mae'n ddrwg gennyf, ond nid ydwyf i yn troi mewn cylchoedd; rwyf yn sefyll yn fy unfan tra yr wyt ti yn troelli. Mae dadlau bod angen "lle priodol i gyswllt at wicidestun yw ar yr erthygl am y testun hwnnw, yn nonsens". Nid "erthyglau" yw'r hyn sydd ar Wicidestun ond "testunau". Nid erthyglau am "Tri Ŵyr o Sodom a'r Aipht" na "William Jones (Nofel)" sydd ar Wicidestun ond trawsysgrifau triw i'r testunau gwreiddiol. Sut mae modd creu erthygl ar wahân rhwng William Jones Wicipedia a William Jones Wicidestun?. Os caf amser mi ysgrifennaf erthygl am "Tri Ŵyr o Sodom a'r Aipht", os na chaf amser mae'r cyfeiriad at y testun yn gywir a dibynol.
Barn Wikimedia Foundation, nid fy marn i, yw bod cyfraniadau teg prosiect Wicidestun yn dderbyniol fel cyfeiriadau
Does dim o'r fath beth ag "erthygl fi" ar Wikipedia, does dim mo'r hawl gen ti i wrthwynebu cyfeiriadau rhwng wici Cymraeg parthed erthyglau a chychwyned gennyt AlwynapHuw (sgwrs) 05:04, 26 Hydref 2024 (UTC)- Rwyn methu deall pam nad ydych chi'n deall beth dwi'n ei esbonio. Mae gan bawb hawl i anghydsynio, wrth gwrs; ond ym mhob neges rydych chi'n dangos nad ydych chi wedi deall fy nadl ac wedyn yn mynd ati i ymosod ar safbwynt nad ydyw i wedi'i fynegi.
- Ar wicipedia mae erthygl X am lyfr (neu gall fod).
- Mae erthygl erall, erthygl Y (er enghraifft am gysyniad fel "y nofel") gyda dolenni i'r erthygl am y llyfr.
- Yn fy marn i, ar erthygl X dylai'r ddolen i'r llyfr ar wicidestun fod; *nid* ar erthygl Y, ymhlith cyfeiriadau at ffynhonellau academaidd ac ati. Does dim angen cyfeiriad i "brofi bod rhywbeth yn bodoli" os yw'r rhywbeth hynny'n destun erthygl ar wicipedia. O ddilyn eich rhesymeg i'w gasgliad abswrd, byddai angen cyfeirnod bob un tro y crybwyllir unrhyw lyfr yn rhoi manylion bywgraffiadol y llyfr hwnnw, sy'n amlwg yn hurt - ydych chi'n bwriadu mynd drwy'r chwarter miliwn o erthyglau i weithredu hynny?
- Croeso i chi anghytuno wrth gwrs a gwneud fel y mynnoch. Dwi ddim yn ystyried dim byd y gwnaf ar wicipedia yn "erthygl fi" (eich geiriau chi erioed; nid fi); y cwbl dwi'n ei wneud yw mynegi fy marn bersonol i am sut a pham y dylir strwythuro pethau. Onid pwrpas y lle hwn yw penderfynu ar weithdrefnau i'w dilyn? Awgrymaf felly'n bod ni'n dau bellach yn gadael i eraill benderfynu eu barn, gan nad yw'n ymddangos y byddwn yn cydweld.
- Rhaid i mi ddweud gyda llaw bod y ffordd rydych chi'n ymateb i bobl eraill yn mynegi eu barn - drwy eu cyhuddo o bob math o nonsens - yn awgrymu'r gwrthwyneb; ac mai chi yw'r un sy'n cael trafferth delio â phobl sydd eisiau gwneud pethau fel arall i chi. Figaro (sgwrs) 20:50, 26 Hydref 2024 (UTC)
- Mae'n amlwg nad wyt ti yn ddeallt natur Wicidestun. Does dim erthyglau ar y safle, dim ond testynau. Yr unig modd i greu "erthygl" am Tri Wyr o Sodom a'r Aipht yw trwy greu erthygl am y testun ei hun, nid trwy greu erthyglau at y tesun ar Wicidestun, nac erthygl eraill am yr un destun ar safle'r Llyfrgell Genedlaethol, ac eto byth at y dau fersiwn ar Google Books, ac erthygl eraill ar brosiect Guttenburg a'r Hithu Trust ac ati. Mi fyddai'n braf cael erthygl am Tri Wyr o Sodom a'r Aipht, efo cysylltiadau at y manau lle mae ar gael, ond erthygl am "Tri Wyr o Sodom" gan Pantycelyn byddai hynny, nid erthygl am y copiau o'r testun, lle mae'r testun ar gael.
- Mae Wicidestu yn rhan o deulu y Wici Cymraeg AlwynapHuw (sgwrs) 04:07, 28 Hydref 2024 (UTC)
- Iesu grist. Dwi'n rhoi'r gorau. Rhywbeth hwyl i fy niddanu mae golygu Wicipedia i fod. Figaro (sgwrs) 09:00, 31 Hydref 2024 (UTC)
- Mae'n ddrwg gennyf, ond nid ydwyf i yn troi mewn cylchoedd; rwyf yn sefyll yn fy unfan tra yr wyt ti yn troelli. Mae dadlau bod angen "lle priodol i gyswllt at wicidestun yw ar yr erthygl am y testun hwnnw, yn nonsens". Nid "erthyglau" yw'r hyn sydd ar Wicidestun ond "testunau". Nid erthyglau am "Tri Ŵyr o Sodom a'r Aipht" na "William Jones (Nofel)" sydd ar Wicidestun ond trawsysgrifau triw i'r testunau gwreiddiol. Sut mae modd creu erthygl ar wahân rhwng William Jones Wicipedia a William Jones Wicidestun?. Os caf amser mi ysgrifennaf erthygl am "Tri Ŵyr o Sodom a'r Aipht", os na chaf amser mae'r cyfeiriad at y testun yn gywir a dibynol.
- Yr lle mwyaf priodol ar wicipedia i ddolen at Wicidestun Tri Wŷr o Sodom
- Dydy cyfeiriad at lyfr ar Wicidestun, Google Books, Internet Archive ac ati, dim yn "drawing conclusions" gan gyfrannydd i'r erthygl, mae'n rhoi cyfle i'r darllenydd cael gaffael ar y llyfr er mwyn iddo greu ei farn ei hun tu allan i faes Wicipedia. Mae'n gyfeiriad at ffynhonnell dibynadwy gellid gwirio yr erthygl Wici, adolygiadau, beirniadaethau, ac ati yn ei erbyn.
- Sut yn y byd yw cyfeiriad at destun gwreiddiol llyfr yn groes i'r rheol no original research? Sut mae dweud Dyma'r Llyfr yn gyfystyr a Drawing conclusions?. Os yw awdur traethawd neu erthygl yn crybwyll gwaith (llyfr, llawysgrif, erthygl, cerdd ac ati) rhaid rhoi gwybodaeth i'r darllenydd sut mae modd caffael ar y gwaith dan sylw. Diwerth yw cyfeiriadau at adolygiadau, barn academaidd, erthyglau ac ati am natur neu werth gwaith heb fod modd eu gwirio yn erbyn copi o'r gwaith. Ti'n hollol gywir wrth ddweud "Dydy testun "Tri ŵyr o Sodom" (er enghraifft) ddim yn dystiolaeth gefnogol i ddatganiad am natur y testun hwnnw, mae'n fwy sylfaenol na hynny, mae'n brawf bod y gwaith yn bodoli. Heb y prawf sylfaenol hwn, mae fy marn i dy farn di, barn Gerwyn Williams, barn Dafydd Jenkins a barn unrhyw un arall am y gwaith megis rhech mewn corwynt. Nid wyf wedi darllen Y Nofel Gymraeg Cynnar gan Gerwyn Williams, (1999), ond mae cyflwyniad Dafydd Jenkins i Fywyd Hen Deiliwr o'm mlaen i nawr. Yn unol ag arfer academaidd da mae Dafydd yn cynnwys llyfryddiaeth lawn, sydd yn galluogi ei ddarllenwyr i ymofyn copi o bob nofel a lled nofel mae'n crybwyll yn ei ragymadrodd. Mae ei lyfryddiaeth hefyd yn fy ngalluogi i i chwilio fy silffoedd llyfrau, chwilota mewn llyfrgelloedd a phori siopau llyfrau ail law i gael gafael ar y llyfrau mae'n cyfeirio atynt er mwyn i mi gael eu gosod ar Wicidestun fel nad oes raid i neb arall tagu ar lwch yr oesoedd er mwyn cael gafael arnynt.
Y Beibl mewn cyfeiriadau
[golygu cod]Os ydych chi'n defnyddio'r peiriant cyfieithu i greu erthyglau sy'n defnyddio'r Beibl fel cyfeiriadau, cofiwch newid y cyfeiriad o KJV NIV NEB ac ati i un o'r fersiynau Cymraeg o'r llyfr mawr Beibl William Morgan Y Beibl Cymraeg Newydd Beibl NetAlwynapHuw (sgwrs) 16:40, 28 Medi 2024 (UTC)
- Diolch Alwyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:43, 5 Hydref 2024 (UTC)
Wici ar y Chase
[golygu cod]Welodd rywun y cwestiwn hwn ar y Chase? (4 Hydref 2024) - fideo 30 eiliad [3]
Chwarae teg i Bradley am ei ynganiad perffaith. Roedd Clive o Gaerdydd yn ateb yn dda iawn ond fei neidiodd yn rhy gyflym i'r ateb penodol hwn! Dafyddt (sgwrs) 19:26, 5 Hydref 2024 (UTC)
- Gwych! Diolch Dafydd! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:47, 9 Hydref 2024 (UTC)
Clwb Golff Llanisien
[golygu cod]Helo gyfeillion, dwi wedi sgwennu rhai cofnodion ar glybiau golff Caerdydd - er nad oes gen i ddim diddordeb mewn golff ond teimlo y byddai'n werthfawr i'r math o bobl sy'n ymuno gyda'r clybiau yma weld y Gymraeg am eu clwb. Dwi wedi cael neges i ymhelaethu ar yr erthygl ar Clwb Golff Llanisien - mae'r erthygl yn hwy na'r un Saesneg, ac ar filoedd o erthyglau (bid siŵr) ar y Wicipedia. Does dim llawer mwy i'w ddweud am y clwb. Ydw i wedi methu rhywbeth? Beth yw'r broblem? Stefanik (sgwrs) 11:53, 8 Hydref 2024 (UTC)
- Sori am y neges aneglur ar y dudalen sgwrs - i'r gwrthwyneb, dw i'n teimlo'n bersonol bod yr erthygl yn rhy hir. Mae angen ei phrawfddarllen yn ofalus ar ei hud (gw. cymalau od dw i'n eu dyfynnu ar y dudalen sgwrs) neu ei chwtogi er mwyn gwneud y dasg honno'n haws. Mae gen i hyd yn oed yn llai o ddiddordeb mewn golff na ti, felly nid fi yw'r un ar gyfer y gwaith! Llygad Ebrill (sgwrs) 12:53, 8 Hydref 2024 (UTC)
- Haia Stefanik - Sion. Mae Llygadebrill wedi awgrymu ar y dudalen sgwrs rhai cywiriadau i ti. Dw i'n meddwl mai gofyn i ti ddenyddio idiomau Cymraeg yn hytrach na chyfieithu'r rhai Saesneg yw byrdwn ei neges. Byddai hynny'n beth da. Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 10:51, 9 Hydref 2024 (UTC)
- iawn, dwi'n deall nawr. Wedi gwneud bach o dwtio, gobeithio ei fod yn lân nawr. Dwi'm yn meddel ei fod yn rhyw hir - mae'n braf cael erthygl hwy na'r un Saesneg i ddangos unrhyw snobs Cambroffobig y clwb golff (a'r Cymry Cymraeg sydd yno hefyd) o werth y Gymraeg. Stefanik (sgwrs) 13:41, 9 Hydref 2024 (UTC)
- Haia Stefanik - Sion. Mae Llygadebrill wedi awgrymu ar y dudalen sgwrs rhai cywiriadau i ti. Dw i'n meddwl mai gofyn i ti ddenyddio idiomau Cymraeg yn hytrach na chyfieithu'r rhai Saesneg yw byrdwn ei neges. Byddai hynny'n beth da. Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 10:51, 9 Hydref 2024 (UTC)
Creu tudalennau newydd
[golygu cod]- Symudwyd yma o Sgwrs:Gwylan (drama)
@Llywelyn2000 @Llygadebrill yn dilyn y drafodaeth am Wrth aros Godot, credaf mai dyma'r adeg i godi'r pwynt ynglŷn â'r patrwm / rheol o enwi erthyglau Cymraeg, sy'n trafod [neu yn gyfieithiad (i fod)] o ddrama mewn iaith arall, gyda'r teitl Gymraeg yn hytrach na'r gwreiddiol. Mae Rhianedd Jewell yn dadlau yn ei chyfrol Her a Hawl Cyfieithu Dramâu SL bod y "cyfieithiadau" yma, sydd weithiau yn fwy o "addasiadau" yn haeddu cael eu trin fel dramâu newydd. Mae hyn yn mynd yn groes i'r patrwm / rheol? yma ar Wicipedia. Beth yw'r peth calla' a mwya derbyniol i'w wneud, gan bod hyn am godi dro ar ôl tro. Beth ddywed y Sanhedrin Wicipediaidd am hyn? Paulpesda (sgwrs) 07:24, 8 Hydref 2024 (UTC)
- Gofynner yn Wicipedia:Y_Caffi (wedi i saga Godot dawelu efallai;). Yn bersonol dw i'n cefnogi dy resymeg, belled bod werth cwpl o baragraffau (paragraffau go iawn, dim rhai bas-data!) i'w ddweud am y ddrama Gymraeg dan sylw - ond yn y Caffi mae'r Sanhedrin yn cwrdd! Llygad Ebrill (sgwrs) 12:46, 8 Hydref 2024 (UTC)
- Diolch.Llygad Ebrill (sgwrs) Beth yw ystyr "paragraffau go iawn, dim rhai bas-data!"? Paulpesda (sgwrs) 20:15, 8 Hydref 2024 (UTC)
- @Paulpesda, Llygadebrill, Figaro-ahp: Ia, sgwrs ddiddorol. Dwi'n cofio rhywun yn dweud, ryw dro, fod pob cyfieithiad gwerth ei halen yn greadigaeth / yn waith newydd! Bid a fo am hynny: fel pob erthygl ar Wicipedia, mae'n rhaid mesur a phwyso'r gwaith gyda'r llinyn mesur hollbwysig o: - pa mor nodedig yw'r gwaith hy defnyddio'r criteria amlygrwydd (notability)? Yn gyffredinol, mae un erthygl sy'n cynnwys yr holl gyfieithiadau'n well na thameidiau fan hyn, fan draw. Ond os oes tystiolaeth fod y cyfieithiad / addasiad yn un nodedig, unigryw, gyda'r beirniaid llenyddol yn ei godi i'r cymylau fel gwaith newydd, yna fe ddywedwn i ei fod yn haeddu erthygl gyfan ar ei liwt ei hun. Os yw Rhianedd Jewell ac un arall yn nodi hyn am ddrama/au SL, yna mae'n ateb gofynion ein polisi Wicipedia:Amlygrwydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:16, 9 Hydref 2024 (UTC)
- Cytuno yn gyffredinol efo'r sylw uchod. Does ddim angen dwsinau o erthyglau ar wahân am bob cyfieithiad neu addasiad o Romeo and Juliet ac ati. Ond pan fo un o'n llenorion amlycaf wedi cyfieithu un o ddramâu mawr y byd i'n hiaith ni, ac mae wedi ei berfformio gan ein cwmnïau drama flaenllaw, mae 'na stori fach arall i'w hadrodd yma ar wahân i stori'r prif waith. Rwy'n credu'n sicr bod lle am erthyglau am Wrth Aros Godot, Y Claf Di Glefyd, Tan y Wennallt ac ati; cyn belled â'u bod yn erthyglau annibynnol sydd ddim yn ail bobi gormod o'r hyn sydd yn y brif erthygl. AlwynapHuw (sgwrs) 00:05, 10 Hydref 2024 (UTC)
- Credu mai dyna'r pwynt- prin bod unrhyw wybodaeth ar y dudalen Wrth aros Godot na fyddai'n berthnasol i'r erthygl Waiting for Godot. Figaro (sgwrs) 13:44, 10 Hydref 2024 (UTC)
- Gormod o ail adrodd o ran fy chwaeth i, ond yn sicr digon o wybodaeth Cymreig unugryw i gyfiawnhau'r erthygl Cymraeg am Wrth Aros Godot! Cynnig cyngor a chymorth sydd ei angen, nid beirniadaeth flin! AlwynapHuw (sgwrs) 01:42, 17 Hydref 2024 (UTC)
- Ie, a'r cwbl wedi'i ychwanegu ar ol i mi wneud y sylwad gwreiddiol ar 3ydd hydref yn cwestiynu pwrpas cael dwy erthygl ar wahan! Doedd dim beirniadaeth yn y sylwad; dim ond dsgrifiad teg o'r dudalen Wrth aros Godot fel ag yr oedd hi pan ymwelais i â'r dudalen ar ddechrau'r mis. Rwy'n dal i gredu y byddai un erthygl fawr gyda'r holl wybodaeth yn well, yn bersonol; ond yn sicr mae llai o wrthwynebiad gen i os yw'r ddwy erthygl yn ddigon gwahanol i'w gilydd. Figaro (sgwrs) 19:53, 18 Hydref 2024 (UTC)
- Gormod o ail adrodd o ran fy chwaeth i, ond yn sicr digon o wybodaeth Cymreig unugryw i gyfiawnhau'r erthygl Cymraeg am Wrth Aros Godot! Cynnig cyngor a chymorth sydd ei angen, nid beirniadaeth flin! AlwynapHuw (sgwrs) 01:42, 17 Hydref 2024 (UTC)
- Credu mai dyna'r pwynt- prin bod unrhyw wybodaeth ar y dudalen Wrth aros Godot na fyddai'n berthnasol i'r erthygl Waiting for Godot. Figaro (sgwrs) 13:44, 10 Hydref 2024 (UTC)
- Cytuno yn gyffredinol efo'r sylw uchod. Does ddim angen dwsinau o erthyglau ar wahân am bob cyfieithiad neu addasiad o Romeo and Juliet ac ati. Ond pan fo un o'n llenorion amlycaf wedi cyfieithu un o ddramâu mawr y byd i'n hiaith ni, ac mae wedi ei berfformio gan ein cwmnïau drama flaenllaw, mae 'na stori fach arall i'w hadrodd yma ar wahân i stori'r prif waith. Rwy'n credu'n sicr bod lle am erthyglau am Wrth Aros Godot, Y Claf Di Glefyd, Tan y Wennallt ac ati; cyn belled â'u bod yn erthyglau annibynnol sydd ddim yn ail bobi gormod o'r hyn sydd yn y brif erthygl. AlwynapHuw (sgwrs) 00:05, 10 Hydref 2024 (UTC)
- @Paulpesda, Llygadebrill, Figaro-ahp: Ia, sgwrs ddiddorol. Dwi'n cofio rhywun yn dweud, ryw dro, fod pob cyfieithiad gwerth ei halen yn greadigaeth / yn waith newydd! Bid a fo am hynny: fel pob erthygl ar Wicipedia, mae'n rhaid mesur a phwyso'r gwaith gyda'r llinyn mesur hollbwysig o: - pa mor nodedig yw'r gwaith hy defnyddio'r criteria amlygrwydd (notability)? Yn gyffredinol, mae un erthygl sy'n cynnwys yr holl gyfieithiadau'n well na thameidiau fan hyn, fan draw. Ond os oes tystiolaeth fod y cyfieithiad / addasiad yn un nodedig, unigryw, gyda'r beirniaid llenyddol yn ei godi i'r cymylau fel gwaith newydd, yna fe ddywedwn i ei fod yn haeddu erthygl gyfan ar ei liwt ei hun. Os yw Rhianedd Jewell ac un arall yn nodi hyn am ddrama/au SL, yna mae'n ateb gofynion ein polisi Wicipedia:Amlygrwydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:16, 9 Hydref 2024 (UTC)
- Diolch.Llygad Ebrill (sgwrs) Beth yw ystyr "paragraffau go iawn, dim rhai bas-data!"? Paulpesda (sgwrs) 20:15, 8 Hydref 2024 (UTC)
Rhestrau cynyrchiadau actorion / dramodwyr
[golygu cod]Ymholiad sydyn [ymddiheuriadau os yw'r ateb eisioes ynghanol y môr o gyngor - methu ei ganfod o sgota sydyn]. Wrth nodi'r cynyrchiadau drama neu deledu mae'r actor wedi bod yn rhan ohonynt, beth yw'r ffordd mwya derbyniol o wneud hynny. Eu rhestru fel hyn mewn paragraff Romeo a Juliet (2004), Plas Drycin (2005), Hen Rebel (2005), Dominos (2006) ta mewn rhestr fel hyn:
- Romeo a Juliet (2004)
- Plas Drycin (2005)
- Hen Rebel (2005)
- Dominos (2006)
Diolch @PaulpesdaPaulpesda (sgwrs) 10:53, 10 Hydref 2024 (UTC)
- Actor Sgrin yn hytrach na llwyfan ond mae'r drefn yn debyg; edrycha ar waelod erthygl Roddy Hughes adrannau Ffilmyddiaeth a Theledu. AlwynapHuw (sgwrs) 18:42, 10 Hydref 2024 (UTC)
- diolch Paulpesda (sgwrs) 21:13, 10 Hydref 2024 (UTC)
Gwobrau Wicimediwr y Flwyddyn 2024 - Galwad am enwebiadau
[golygu cod]Helo bawb. Neges isod gan WMUK - Bydd e'n wych gweld enwau o'n gymuned ni yn y mix!
Mae WMUK yn hapus i gyhoeddi bod enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Wicimediwr y Flwyddyn y DU 2024. Rydym yn gofyn i chi enwebu unigolion a sefydliadau sydd wedi bod yn rhan o ymdrechion Wikimedia UK i hybu gwybodaeth agored yn 2023/24. Y categorïau ar gyfer eleni yw:
- Wicimediwr y Flwyddyn y DU (Unigolyn)
- Partneriaeth y Flwyddyn (Sefydliad)
- Wikimediwr Neywdd (Up and coming) (Unigolyn)
Rydym yn chwilio am bobl a phartneriaethau o fewn cymuned Wikimedia UK sydd wedi gwneud argraff fawr arnoch gyda'u gwaith gwybodaeth agored, yn 2023/24. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed am bobl a sefydliadau a gyflawnodd brosiectau sy'n mynd i'r afael â'n themâu strategol, sef Tegwch Gwybodaeth, Llythrennedd Gwybodaeth, a'r Hinsawdd a'r Amgylchedd. Bydd enwebiadau'n cael eu beirniadu gan aelodau'r Pwyllgor Datblygu Cymunedol a chyhoeddir yr enillwyr yn y Dathliad Cymunedol ar Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024.
Cliciwch i darllen mwy ac i enwebu.
Jason.nlw (sgwrs) 09:08, 14 Hydref 2024 (UTC)
Swydd Wici!
[golygu cod]Helo pawb. Mae Wicimedia UK newydd hysbysebu swydd am rheolwr newydd dros Cymru. Felly ewch amdanu a/neu rhannu yn eich rhwydweithiau. Jason.nlw (sgwrs) 13:34, 24 Hydref 2024 (UTC)
- Braidd yn siomedig bod y cymhwyster iaith ar gyfer y swydd yw "Cymraeg ar lefel dysgwyr". Oni ddylai cymhwyster ar gyfer "rheolwr" prosiectau Wici yn yr iaith Gymraeg bod a galluoedd Cymraeg uwch na rhuglder cyffredinol? AlwynapHuw (sgwrs) 03:56, 30 Hydref 2024 (UTC)
- Cytuno, Alwyn. Synnu hefyd na hysbysebwyd y swydd ar wefanau / cylchgronnau Cymraeg fel y gwnaethom y tro diwethaf. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:30, 12 Tachwedd 2024 (UTC)
Gaeltacht Corca Dhuibhne
[golygu cod]Helo ffrindiau (eto). Iawn, dwi di sgwennu cofnod ar https://cy.wikipedia.org/wiki/Gaeltacht_Corca_Dhuibhne ... ac er mod i wedi defnyddio rhannau o'r erhtyglau Saesneg a Chatalaneg anghofies i ddolenni gyda nhw ar wikidata wrth gyhoeddi, ac yn hytrach nag hynny, creu cofnod wikidata newydd fy hun! Dwi'n ceisio 'mergio' ond, o ddilyn y cyfarwyddid yma: https://www.wikidata.org/wiki/Help:Merge/cy#/media/File:Merge_and_RequestDeletion.png dwi methu gweld lle mae'r tab 'more' ac yna 'merge with'. Oes Samariad trugarog, sori. Stefanik (sgwrs) 12:25, 12 Tachwedd 2024 (UTC)
- Haia Sion! Cyn dod at y cyfuno: dw i wedi ffeirio dwy wybodlen. Mae na fwy o eitemau perthnasol i lefydd yn y Nodyn:Lle. Tri / Tair prif nodyn sydd i gyd: Lle, Person a Phethau.
- O ran y cyfuno, mae na ffordd haws - sef jyst dileu'r hyn sydd weddill! Dw i wedi methu, fel ti, cyfuno yn y gorffennol, a rhyw wali yn bygwth fy nhaflu allan o WD am nad oeddwn wedi gadael nodyn yn y Caffi / y gymuned yn nodi hynny! Tydy'r ffordd dw i'n ei awgyrmu ddim yn cael ei argymell, ond mae'n llawer haws! Unwaith y mae'r dudalen yn wag, fe ddaw bot heibio fel rhyw jac codi baw a'i ddileu. Cofion fil... Llywelyn2000 (sgwrs) 13:19, 12 Tachwedd 2024 (UTC)
- Diolch Robin. Wnes i geisio dileu y gwahanol sydd yn y gwahanol is-fylchau 'mynegiadau' yn y Wikidata (e.e. lle) ai dyna sydd angen dileu? Neu oes modd dileu y dudalen WD i gyd h.y. y cofnod Q131152713? Beth bynnag, wedi dileu y mynegiadau i ddechrau! Stefanik ({{Sgwrs Defnyddiwr:Stefanik|sgwrs) 13:35, 12 Tachwedd 2024 (UTC)]]
- Ia - y Mynegiadau, yr Identifiers a'r teitl ar y brig. Gan i ti wneud hynny, mae'r bot wedi dileu'r 'dudalen i gyd'. Gwira fod y wybodlen bellach yn mynd i'r dudalen gywir (efo'r ddwy iaith arall). Mae o ar fy nghyfrifiadur i. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:06, 12 Tachwedd 2024 (UTC)
Goresgyniad Llain Gaza gan Israel (2023‒24)
[golygu cod]Ar y Dudalen Sgwrs, dw i wedi awgrymu newid y teitl i Hil-laddiad y Palesteiniaid gan Wladwriaeth Israel, 2023‒24. Unrhyw deimladau am hyn? Mae llawer o wledydd y byd bellach yn defnyddio'r gair hil-laddiad am yr hil-laddiad sy'n digwydd yno. Diolch. ON Ymateb ar y Dudalen Sgwrs yn hytrach nag yn fama, os gwelwch yn dda. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:26, 12 Tachwedd 2024 (UTC)