Arfbais Coweit
Gwedd
Hebog melyn gydag adenydd ar led sy'n cynnal cylch sy'n dangos dhow Arabaidd ar donnau gwyn a glas, gydag enw llawn y wladwriaeth (Gwladwriaeth Kuwait) mewn Arabeg (دولة الكويت) ar frig y cylch yw arfbais Kuwait. Gosodir y dhow yn erbyn cwmwl gwyn ac awyr las; mae'r faner genedlaethol yn cael ei chwifio o'r cwch. O dan y hebog mae tarian yn y lliwiau cenedlaethol (du, coch, gwyn, a gwyrdd) ar ffurf y faner genedlaethol.
Ffynonellau
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)