Neidio i'r cynnwys

Baner Pacistan

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Baner Pacistan a ddiwygiwyd gan Minorax (sgwrs | cyfraniadau) am 04:13, 30 Hydref 2021. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Baner Pakistan

Maes gwyrdd tywyll gyda stribed fertigol gwyn yn yr hoist a seren a chilgant gwyn yn y canol yw baner Pacistan. Mae'n seiliedig ar faner y Cynghrair Mwslemaidd, baner werdd (lliw Islam) tywyll gyda seren a chilgant (symbol Islam) gwyn yn ei chanol. Ychwanegwyd y stribed gwyn (i gynrychioli lleiafrifoedd y wlad) pan fabwysiadwyd fel baner genedlaethol yn sgîl Rhaniad India ac annibyniaeth ar Brydain ar 14 Awst, 1947. Yn ogystal â'r symbolaeth Islamaidd, mae gwyrdd yn cynrychioli ffyniant a gwyn yn cynrychioli heddwch, ac mae'r cilgant yn symbol o welliant a'r seren yn golygu golau a gwybodaeth.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Eginyn erthygl sydd uchod am Bacistan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.