Rheged
Roedd Rheged yn deyrnas Frythonig yn Yr Hen Ogledd oddeutu’r 6ed ganrif. Ymddengys mai Caerliwelydd oedd canolfan y deyrnas, ac roedd yn ymestyn dros ran sylweddol o’r hyn sy’n awr yn ogledd-orllewin Lloegr ac efallai dros ran o dde-orllewin Yr Alban.
Mae cyfeiriadau at Rheged ym marddoniaeth Taliesin, sy’n cynnwys cerddi i frenin Rheged, Urien Rheged, ac i’w fab Owain fab Urien. Disgrifir Urien fel arglwydd Llwyfenydd (dyffryn Afon Lyvennet heddiw), ac hefyd fel arglwydd Catraeth.
Roedd brenhinoedd Rheged yn cynnwys:
- Meirchion Gul
- Cynfarch Oer –
- Urien Rheged neu Urien ap Cynfarch
- Owain fab Urien
Yn ôl yr achau traddodiadol, roedd llinach arall yn disgyn o frawd Cynfarch, Elidir Lydanwyn; ei fab ef oedd Llywarch Hen.
Wedi i deynasoedd Eingl-Sacsoniaid Brynaich a Deifr uno I ddod yn deyrnas Northumbria, meddiannwyd Rheged gan Northumbria rywbryd cyn 730. Cofnodir priodas rhwng Oswiu, brenin Northumbria a thywysoges o Rheged tua 638, ac efallai iddo etifeddu’r deyrnas o ganlyniad I’r briodas yma.
Rhoddwyd enw’r deyrnas I’r Rheged Discovery Centre gerllaw Penrith, Cumbria. Mae’r enw Cumbria ei hun yn dod o’r un gwreiddyn a Cymry.