Môr-hwyaden yr Ewyn
Gwedd
Môr-hwyaden yr Ewyn | |
---|---|
Ceiliog | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Anseriformes |
Teulu: | Anatidae |
Is-deulu: | Merginae |
Genws: | Melanitta |
Rhywogaeth: | M. perspicillata |
Enw deuenwol | |
Melanitta perspicillata (Linnaeus, 1758) | |
Oren: tymor nythu Melyn: gaeaf |
Hwyaden sy'n byw o gwmpas yr arfordir yw Môr-hwyaden yr Ewyn. Mae'n nythu yng Nghanada ac Alaska. Mae'n hwyaden fawr, 44-48 cm o hyd. Dim ond y ceiliog sy'n ddu, tra mae'r iâr yn frown.
Yn y gaeaf, mae rhai yn symud i'r Llynnoedd Mawr. Ceir ambell un ger arfordir Cymru yn y gaeaf, fel rheol gyda heidiau o'r Fôr-hwyaden Ddu, ond mae'n aderyn prin yma. Mae'r gwyn ar y pen yn ei gwahaniaethu oddi wrth y Fôr-hwyaden Ddu.