Celf tir
Math o gelf weledol yw Celf Tir lle gwneir defnydd o goed, carreg, traethau a'r tiriogaeth yn gyffredinol i roi mynegiant gelfydyddol. Caiff ei adnabod hefyd dan enwau Celf Daear, celf amgylcheddol a gwaith daear (eathworks). Bydd y gwaith yn aml mewn ardaloedd gwledig a gwneir defnydd o ffotograffiaeth a ffilm i gofnodi a hysbysu'r celf a grëwyd.[1]
Cyd-destun
Daeth celf tir i'r amlwg yn ystod yr 1960-70au yn UDA a Phrydain.[2] Tyfodd y gelfyddyd gyda'r mudiad gwyrdd ac ecolegol ac mae'n rhan o bryder dros ddyfodol trefol a masnachol celfyddyd a bywyd cyfoes.[3]
Yn y 1960au a'r 1970au, datblygodd celf tir fel protest yn erbyn "masnacheiddio difrïol" o gelf yn America.[4] Yn ystod y cyfnod hwn, gwrthododd lladmeryddion celf tir yr amgueddfa neu'r oriel fel lleoliad ar gyfer gweithgaredd artistig. Datblygwyd prosietctau tirlun cofiadwy a ddatblygodd y tu hwnt i gyrraedd cerflunio traddodiadol a'r farchnad gelf fasnachol. Serch hynny, defnyddiwyd ffotograffau i ddogfennu'r celf tir a byddai rheini'n cael eu harddangos mewn orielau confensiynol neu manau cyhoeddus eraill.
Dylanwadau
Ysbrydolwyd celf tir gan y celf minimal a chelf gysyniadol a hefyd gan symudiadau celf Avant-garde megis De Stijl, Ciwbiaeth, Minimaliaeth (Minimalism) a gwaith Constantin Brâncuşi a Joseph Beuys. Roedd llawer o'r artistiaid bu'n gysylltiedig â chelf tir hefyd yn gysylltiedig â chelf minimal a chysyniadol. Mae dyluniad Isamu Noguchi yn 1941 ar gyfer Contoured Playgroud yn Efrog Newydd weithiau'n cael ei ddehongli fel darn cynnar o gelfyddyd tir er nad yw'r artist ei hun wedi galw'n "gelf tir" ond yn hytrach fel "cerflunwaith".
Mae ei ddylanwad ar gelfyddyd tir cyfoes, pensaernïaeth tirwedd a cherfluniau amgylcheddol yn amlwg mewn llawer o weithiau heddiw.
Celf Tir Cymreig
Efallai un o'r gweithiau celf tir Cymreig gwleidyddol mwyaf enwog oedd gwaith yr artists Paul Davies yn greu 'map' o Gymru allan o fwd mewn Eisteddfod genedlaethol.
Ceir enghraifft o ddyluniau o gerbyd Land Rover ar Traeth Coch, Ynys Môn [5] er, efallai nad yw hwn yn ysbryd amgylcheddol a gwrth-fasnachol yr artistiaid cynharaf.
Oriel
-
Robert Smithson
-
Raktres FlugRost
Dolenni
Cyfeiriadau
- ↑ mymodernmet.com; adalwyd 30 Awst 2018.
- ↑ theartstory.org theartstory.org; adalwyd 30 Awst 2018.
- ↑ artandantiquesmag.com adalwyd 30 Awst 2018.
- ↑ Natural Art. PediaPress.
- ↑ https://www.sandinyoureye.co.uk/gallery/sand-drawings
[{Categori:Celf]]