480 CC
Gwedd
6g CC - 5g CC - 4g CC
530au CC 520au CC 510au CC 500au CC 490au CC - 480au CC - 470au CC 460au CC 450au CC 440au CC 430au CC
485 CC 484 CC 483 CC 482 CC 481 CC - 480 CC - 479 CC 478 CC 477 CC 476 CC 475 CC
Digwyddiadau
- Mis Mai — Xerxes I, brenin Ymerodraeth Persia a byddin enfawr yn cychwyn o Sardis trwy Thrace a Macedonia i ddechrau ei ymgyrch yn erbyn Gwlad Groeg.
- 11 Awst — Brwydr Thermopylae. Wedi ymladd caled yn erbyn llu bychan o Spartiaid, Thespiaid a Thebiaid dan Leonidas I, brenin Sparta, sy'n amddiffyn bwlch Thermopylae, mae'r Persiaid yn llwyr ddinistrio'r amddiffynwyr. Lleddir Leonidas a bron y cyfan o'i wŷr wedi iddynt wrthod ffoi.
- Daw mab Leonidas, Pleistarchus, yn frenin Sparta yn ei le, ond gan ei fod yn dal yn blentyn, rheolir y deyrnas ar ei ran gan Pausanias.
- Yr Atheniaid yn galw arweinwyr oedd wedi eu halltudio yn ôl i gynorthwyo yn yr ymgyrch yn erbyn y Persiaid dan arweiniad Themistocles , yn cynnwys Aristides a Xanthippus.
- Awst — Brwydr Artemisium rhwng llynges Persia a llynges y Groegiaid ger arfordir gogleddol Euboea. Mae'r Persiaid yn dioddef colledion trwm, ond gorfodir y Groegiaid i encilio pan ddaw'r newyddion am Thermopylae.
- 21 Medi — Y Persiaid yn cipio Athen. Mae trigolion Athen yn ffoi i ynys Salamis
- 28 Medi — Brwydr Salamis. Gorchfygir y llynges Bersaidd yn llwyr gan lynges y cyngheiriaid Groegaidd dan Themistocles, gyda tua 200 o longau Persaidd yn cael eu suddo. * Wedi colli'r rhan fwyaf o'i lynges, mae Xerxes yn dychwelyd i Bersia, gan adael byddin dan Mardonius ar ôl yn Thessalia.
Genedigaethau
Marwolaethau
- 11 Awst - Leonidas I, brenin Sparta.