Afon Biryusa
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Oblast Irkutsk |
Gwlad | Rwsia |
Uwch y môr | 101 metr |
Cyfesurynnau | 53.865673°N 97.426461°E, 57.721517°N 95.421031°E |
Tarddiad | Mynyddoedd Sayan |
Aber | Afon Taseyeva |
Llednentydd | Afon Tagul, Poyma, Tumanshet, Toporok, Malaya Biryusa |
Dalgylch | 55,800 cilometr sgwâr |
Hyd | 1,012 cilometr |
Arllwysiad | 349.7 metr ciwbic yr eiliad |
Afon yn Oblast Irkutsk, Rwsia, yw Afon Biryusa (Rwseg: Бирюса). Yn ei rhan isaf fe'i gelwir yn Ona hefyd. Ei hyd yw 1,012 km, gyda basn 55,800 km².
Cwrs
Mae tarddleoedd yr afon yn gorwedd yn ne-orllewin Oblast Irkutsk yn Siberia, 2,500 meter i fyny ar lethrau gogleddol Mynyddoedd Sayan. Oddi yno mae'r afon yn llifo ar gwrs gogleddol i Lwyfandir Canol Siberia. Mae'r Rheilffordd Traws-Siberia yn ei chroesi yn Biryusinsk, ger Tayshet lle mae Rheilffordd Baikal Amur yn cychwyn. Wedyn mae Afon Biryusa yn troi i'r gogledd-orllewin i ymuno yn y pen draw ag Afon Chuna i ffurfio Afon Taseyeva, sy'n un o lednentydd Afon Angara.
Llên gwerin
Yn llên gwerin Rwsia ceir sawl cerdd am yr afon hon, er enghraifft "Biryusinka".[1]
Cyfeiriadau
- ↑ "Biryusinka" (Rwseg)