Leighton Rees
Leighton Rees | |
---|---|
Ganwyd | 17 Ionawr 1940 Ynys-y-bwl |
Bu farw | 8 Mehefin 2003 Llantrisant |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr dartiau |
Chwaraeon |
Chwaraewr dartiau o Gymru oedd Leighton Thomas Rees (17 Ionawr 1940 - 8 Mehefin 2003) a oedd y Pencampwr Dartiau Proffesiynol Byd-eang cyntaf erioed a chwaraewr Rhif 1 y Byd am gyfnod.[1]
Bywyd cynnar
Ganwyd Rees ym mhentref Ynysybŵl, Morgannwg, lle treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd Roedd yn fab i Ivor Thomas Rees, gyrrwr loriau ac Olwen, née Holt ei wraig [2]. Mynychodd Ysgol leol Mill Street ym Mhontypridd lle datganodd un o'i athrawon adroddiad diwedd blwyddyn y byddai'n "dda i ddim ond darllen tudalennau chwaraeon y South Wales Echo". Ar ôl gadael yr ysgol, cafodd waith yn ystafell storio cwmni sbarion modur, swydd a wnaeth am dros ugain mlynedd hyd iddo droi'n chwaraewr dartiau proffesiynol ym 1976.
Yn ystod ei gyfnod yn gweithio fel dyn storfa daeth Leighton o hyd i'r gêm dartiau, gan ddod yn chwaraewr rheolaidd i'r timau ei dafarn leol a'i sir. Ni chafwyd unrhyw sylw cenedlaethol go iawn i'r gamp tan 1972. Roedd Sid Waddell, a ddaeth yn sylwebydd yn ddiweddarach ar gyfer y BBC a Sky Sports, yn gynhyrchydd rhaglen o'r enw The Indoor League gan Yorkshire Television ar y pryd - sioe oedd yn dangos twrnameintiau gemau tafarn. Roedd Waddell a'i ymchwilwyr wedi clywed adroddiadau am driawd o chwaraewyr dartiau gwych yng nghymoedd De Cymru, ardal a oedd yn prysur ddatblygu'n maes magu talent ar gyfer y gamp. Roedd Waddell eisoes wedi gweld Alan Evans o'r Rhondda yn chwarae ym Mhalas Alexandra yn ystod Pencampwriaeth News of the World 1972, y twrnamaint dartiau cyntaf a ddarlledwyd ledled Prydain. Y ddau enw arall a grybwyllwyd oedd Tony Ridler o Gasnewydd a Leighton Rees o Ynysybwl.
Yn fuan iawn, cynigiodd Waddell cyfle i'r tri i chwarae yn The Indoor League, a ddechreuodd gael ei darlledu ar draws Prydain o 1973. Ni fu iddynt siomi, sgoriodd Ridler ac Evans nifer o 180au yn eu gemau, ond er nad oedd wedi perfformio cystal ym 1973, Leighton Rees wnaeth dwyn y sioe. Dros lager a sigâr dywedodd wrth y cyflwynydd Fred Trueman, yn ei frand o hiwmor sych nodweddiadol, straeon amdano'i hun ac Evans yn cael y gorau ar Saeson. Aeth Rees ymlaen i gael y llwyddiant mwyaf o unrhyw chwaraewr dartiau yn y Gynghrair Dan Do, gan ddod yr unig chwaraewr i ennill y twrnamaint dartiau ddwywaith.
Gyrfa dartiau
Ar ôl ennill y twrnamaint dartiau ddwywaith yn y Gynghrair Dan Do ym 1974 a 1976, trodd Rees yn broffesiynol ym 1976 a chyrhaeddodd rownd derfynol Pencampwriaeth Dartiau'r Byd y flwyddyn honno, gan golli i Bill Lennard o Fanceinion. Roedd Rees hefyd yn rhan o dîm Cymru 1977 a enillodd Gwpan Ffederasiwn Darts y Byd cyntaf ochr yn ochr ag Alan Evans a David "Rocky" Jones.
Daeth awr fawr Rees ym 1978 ym Mhencampwriaeth Dartiau Proffesiynol y Byd, yn Nottingham. Yn drydydd ymysg y detholion trechodd Barry Atkinson o Awstralia yn hawdd yn y rownd gyntaf gyda sgôr o 6-0. Yn yr ail rownd bu'n chware yn erbyn ei gyfaill agos, a'i gyd-aelod o dîm Gymru a'r pumed detholyn Alan Evans.[3] Fe drodd y gêm yn glasur gyda'r ddau chwaraewr yn cael cyfartaledd o dros 90 pwynt gyda phob tair darten (digwyddiad prin iawn yn y cyfnod). Cymerodd Evans arweiniad cynnar gan sgorio ambell i 180 cyn i Rees cael y cwblhad deg darten gyntaf erioed y bencampwriaeth (a'r cyntaf erioed i'w ddarlledu ar y teledu) cyn diweddu'n fuddugol ar 6-3. Ar y pryd, cyhoeddodd cynhyrchydd gweithredol y BBC, Nick Hunter, mai dyma'r gêm a wnaeth i ddartiau cyrraedd gwir botensial ei holl ddisgwyliadau gan gadarnhau'r gamp fel eitem deledu genedlaethol am flynyddoedd i ddod.
Yn y rownd gynderfynol, roedd Rees yn ei chael hi'n anodd curo'r Americaniad penderfynol, Nicky Virachkul gan grafu buddugoliaeth 8-7. Roedd y rownd derfynol yn erbyn John Lowe un o fawrion y gamp. Unwaith eto, roedd cyfartaledd Rees yn 90 gyda Lowe dim yn bell ar ei ôl mewn rownd derfynol wych. Bu Rees yn fuddugol 11-7 yn y pen draw ac yn ennill ei unig Bencampwriaeth y Byd.[4]
Wrth amddiffyn ei deitl ym 1979, dychwelodd Rees i'r rownd derfynol, gan guro Evans ar y ffordd cyn colli i Lowe o 5 set i 0. Aeth i'r rownd derfynol eto ym 1980. Aeth allan yn un o'r 16 olaf y 1981 ac wedi hynny, fe'i trechwyd yn y rownd gyntaf ym 1982, 1983, 1985 a 1990. Er gwaethaf hyn, roedd ei gemau bron bob amser yn llenwi neuaddau ac arhosodd yn un o'r cystadleuwyr mwyaf poblogaidd dartiau am weddill ei yrfa.
Dyma pam ei fod yn cael ei gredydu ochr yn ochr â Lowe, Eric Bristow, Bob Anderson, Jocky Wilson, Cliff Lazarenko a bellach Phil Taylor am ddod â dartiau i'r lluoedd ar y sgriniau teledu. Roedd ganddo record dda ar y rhaglen cwis/dartiau Bullseye hefyd, gan sgorio mwy na 301 gyda naw dart ar o leiaf ddau ymddangosiad gan ddyblu arian elusen y cystadleuwyr.
Ysgrifennodd Rees hunangofiant ym 1979, o'r enw "On Darts" a oedd hefyd yn cynnwys awgrymiadau ar sut i chwarae'r gêm.[5]
Tu allan i ddartiau
Yn 1980 priododd Rees â Debbie, hogan o Galiffornia, yn Las Vegas tra oedd yn cystadlu mewn twrnamaint yno. Eric Bristow oedd y gwas briodas. Mae stryd yn Ynysybwl wedi'i henwi ar ei ôl, Clôs Leighton Rees. Er mai Rees oedd pencampwr cyntaf y byd, collodd allan ar flynyddoedd gogoniant y byd dartiau. Y wobr am ei deitl oedd £ 3,000 ac wrth i'r arian gwobrwyo godi a thwrnameintiau ddechrau ymddangos ar draws sianelau teledu'r DU, dechreuodd dawn Rees lithro ac ni lwyddodd i i ennill yr un llwyddiant parhaus cafodd Lowe, Bristow a Wilson. Gorfodwyd Rees i wneud ei fywoliaeth o chwarae gemau arddangosfa gyda'i gyfaill mawr Evans.
Marwolaeth
Rhoddodd Rees y gorau i'w waith arddangos ar ôl cael rheolydd calon wedi'i ffitio; roedd hefyd wedi cael llawdriniaeth i osgoi'r galon yn niweddarach. Dychwelodd i lwyfan Pencampwriaethau'r Byd i dynnu enwau ar gyfer y digwyddiad yn y flwyddyn cyn ei farwolaeth. Bu farw yn Ynysybwl, yn 2003, yn 63 oed.[6]
Ystadegau
Safle Rhyngwladol | |||||||||||||||||||
Blwyddyn | 1975 | 1976 | 1977 | 1978 | 1979 | 1980 | 1981 | 1982 | 1983 | 1984 | 1985 | 1986 | 1987 | 1988 | 1989 | 1990 | 1991 | 1992 | 1995 |
Safle | 15 | 17 | 5 | 1 | 2 | 12 | 10 | 8 | 42 | 42 | 33 | 47 | 70 | 7 | 27 | 41 | 69 | 48 | 135 |
Dyddiad | Twrnamaint | Categori | Rownd | Gwobr |
15/05/1994 | Pencampwriaeth agored Cymru | WDF 1 | chwarteri | Anhysbys |
06/04/1991 | Her Pencampwyr y Byd | WDF U | 11 olaf | £400 |
30/03/1990 | Her Pencampwyr y Byd | WDF U | 7 olaf | £500 |
13/01/1990 | Pencampwriaeth y Byd BDO | WDF WC | 32 olaf | £1,400 |
23/09/1988 | Pencampwriaeth Proffesiynol Prydain | WDF U | Chwarteri | £1,250 |
26/06/1988 | Grand Prix Dartiau'r Byd Tokyo | WDF U | 16 olaf | YEN 1,000,000 |
01/01/1988 | British Open | WDF 2 | 16 olaf | £75 |
23/09/1987 | Pencampwriaeth Proffesiynol Prydain | WDF U | Ffeinal | £5,000 |
14/01/1987 | Pencampwriaeth y Byd BDO | WDF WC | 32 olaf | £700 |
23/09/1985 | Pencampwriaeth Proffesiynol Prydain | WDF U | 32 olaf | £450 |
14/01/1985 | Pencampwriaeth y Byd BDO | WDF WC | 32 olaf | £500 |
23/09/1984 | WDF Cwpan Ewrop i unigolion | WDF 2 | Ffeinal | £0 |
23/09/1984 | Pencampwriaeth Proffesiynol Prydain | WDF U | 32 olaf | £350 |
23/09/1983 | Pencampwriaeth Proffesiynol Prydain | WDF U | 16 olaf | Anhysbys |
14/01/1983 | Pencampwriaeth y Byd BDO | WDF WC | 32 olaf | £400 |
23/09/1982 | Pencampwriaeth Proffesiynol Prydain | WDF U | 32 olaf | £300 |
14/01/1982 | Pencampwriaeth y Byd BDO | WDF WC | 32 olaf | £350 |
26/10/1981 | Matchplay Prydain | WDF U | Chwarteri | £300 |
23/10/1981 | Meistri'r byd | WDF Major | Chwarteri | £125 |
23/09/1981 | Pencampwriaeth Proffesiynol Prydain | WDF U | Chwarteri | Anhysbys |
30/06/1981 | Bullseye Darts Championship | WDF U | Chwarteri | Anhysbys |
14/01/1981 | Pencampwriaeth y Byd BDO | WDF WC | 16 olaf | £500 |
04/01/1981 | British Open | WDF 2 | Ffeinal | £750 |
23/09/1980 | WDF Cwpan Ewrop i unigolion | WDF 2 | 16 olaf | £0 |
30/06/1980 | Butlins Grand Masters | WDF U | Ffeinal | Anhysbys |
30/06/1980 | Matchplay Prydain | WDF U | Ffeinal | Anhysbys |
30/06/1980 | Bullseye Darts Championship | WDF U | 16 olaf | Anhysbys |
14/01/1980 | Pencampwriaeth y Byd BDO | WDF WC | Chwarteri | £500 |
30/06/1979 | Matchplay Prydain | WDF U | Chwarteri | Anhysbys |
30/06/1979 | Bullseye Darts Championship | WDF U | Chwarteri | Anhysbys |
14/01/1979 | Pencampwriaeth y Byd BDO | WDF WC | Ffeinal | £1,750 |
30/06/1978 | Matchplay Prydain | WDF U | Chwarteri | Anhysbys |
30/06/1978 | Butlins Grand Masters | WDF U | Pencampwr | Anhysbys |
14/01/1978 | Pencampwriaeth y Byd BDO | WDF WC | Pencampwr | £3,000 |
23/10/1977 | Meistri'r Byd | WDF Major | 32 olaf | £0 |
01/10/1977 | WDF Cwpan y byd unigolion | WDF 1 | Pencampwr | £0 |
01/10/1977 | WDF Cwpan y byd tîm | WDF U | Pencampwr | Anhysbys |
30/06/1977 | Matchplay Prydain | WDF U | Semi Ffeinal | Anhysbys |
30/06/1976 | Matchplay Prydain | WDF U | Semi Ffeinal | Anhysbys |
30/06/1976 | Indoor League | WDF U | Pencampwr | Anhysbys |
21/06/1976 | British Pentathlon | BDO 0 | Ffeinal | Anhysbys |
16/06/1976 | Twrnamaint News of the World | WDF U | Ffeinal | Anhysbys |
04/01/1976 | British Open | WDF 2 | Chwarteri | £25 |
30/06/1974 | Indoor League | WDF U | Pencampwr | Anhysbys |
Cyfeiriadau
- ↑ Rees, D. B., (2013). REES, LEIGHTON THOMAS (1940-2003), pencampwr dartiau'r byd. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 14 Awst 2019
- ↑ Chaplin, P. (2011, January 06). Rees, Leighton Thomas (1940–2003), darts player. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 14 Awst 2019
- ↑ Independent 16 Ebrill 1999 Darts: The legend of `Evans the Arrow' Archifwyd 2019-05-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 14 Awst 2019
- ↑ Darts Database Leighton Rees Archifwyd 2020-08-06 yn y Peiriant Wayback adalwyd 14 Awst 2019
- ↑ Rees, Leighton, On Darts, Cassell; 1 Medi 1979. ISBN 978-0304304493
- ↑ Wales On Line 9 Mehefin 2003 Darts legend Rees dies, 63, after long illness adalwyd 14 Awst 2019