Titw tomos las
Titw Tomos Las | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Paridae |
Genws: | Cyanistes |
Rhywogaeth: | C. caeruleus |
Enw deuenwol | |
Cyanistes caeruleus (Linnaeus, 1758) | |
Cyfystyron | |
Parus caeruleus |
Mae'r Titw Tomos Las (Cyanistes caeruleus[1]) yn aelod o deulu'r Paridae, y titwod. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gorllewin Asia.
Yn y gaeaf mae'n aml yn ffurfio heidiau gydag adar eraill megis y Titw mawr. Pryfed o wahanol fathau yw eu prif fwyd, yn enwedig lindys.
Ar un adeg yr oedd y Titw tomos las yn enwog am wneud tyllau yng nghaead poteli llefrith oedd wedi'u gadael o flaen y drws ac yfed peth o'r cynnwys. Mae hyn yn esiampl o un aderyn yn darganfod rhywbeth newydd ac eraill yn dysgu ganddo nes i'r arferiad ledu trwy'r boblogaeth. Gan fod y botel lefrith draddodiadol yn awr yn llawer prinnach, nid yw hyn yn digwydd mor aml.
Fel rheol mae'r titw yma'n byw mewn ardaloedd lle mae coed llydanddail. Nid yw'n aderyn mudol, er y gall rhai adar yn y gwledydd oeraf symud tua'r de yn y gaeaf. Mae'n aderyn hawdd ei adnabod, gyda glas ar y pen a llinell o las tywyll yn rhedeg trwy'r llygad, glas ar y gwegil, y cefn a'r gynffon, gwyrdd-felyn ar y cefn a melyn ar y bol.
Mae'n gyffredin iawn mewn gerddi, ac os rhoir bwyd allan i'r adar mae'r Titw tomos las fel arfer yn un o'r rhai cyntaf i ymddangos. Mae'n nythu mewn tyllau mewn coed, ond hefyd yn barod iawn i gymryd at flychau nythu.
Isrywogaethau
- C. c. caeruleus – (Linnaeus, 1758): y prif isrywogaeth; fe'i ceir yn Ewrop Gyfandirol hyd at Ogledd Sbaen, Gogledd Twrci, a gogledd Mynyddoedd yr Wral.
- C. c. obscurus – (Pražák, 1894): Iwerddon, gwledydd Prydain ac Ynysoedd y Sianel.
- C. c. ogliastrae – (Hartert, 1905): Portiwgal, De Sbaen, Corsica a Sardinia
- C. c. balearicus – (von Jordans, 1913): Majorca (Ynysoedd Balearig)
- C. c. calamensis – (Parrot, 1908): De Groeg, Peloponnesos, Cyclades, Creta a Rhodes
- C. c. orientalis – Zarudny & Loudon, 1905: de Rwsia Ewropeaidd (o Afon Volga hyd at ganol a de Mynyddoedd yr Wral.
- C. c. satunini – Zarudny, 1908: Penrhyn y Crimea, y Cawcasws, Transcaucasia a gogledd-orllewin Iran hyd at Twrci
- C. c. raddei – Zarudny, 1908: gogledd Iran
- C. c. persicus – (Blanford, 1873): Zagros
Cyfeiriadau
- ↑ Gill, Frank; Wright, Minturn (2006). Birds of the World: Recommended English Names (arg. 1st). Princeton University Press. tt. ix, 259. ISBN 0-691-12827-8.