James Dickson Innes
Gwedd
James Dickson Innes | |
---|---|
Ganwyd | 27 Chwefror 1887 Llanelli |
Bu farw | 22 Awst 1914 Caint |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd |
Arlunydd o Gymru oedd James Dickson Innes (27 Chwefror 1887 – 22 Awst 1914) a beintiodd tirluniau yn bennaf.
Ganed Innes yn Llanelli, yn fab i Albanwr a weithiai yn y gweithfeydd tun lleol. Addysgwyd ef yng Ngholeg Crist, Brycheiniog, Ysgol Gelf Caerfyrddin, ac Ysgol Gelf y Slade. Ym 1911 treuliodd llawer o amser yn peintio gydag Augustus John yng Ngogledd Cymru, ond gwnaed llawer o'i waith mewn gwedydd tramor megis Ffrainc a Sbaen. Bu farw o'r diciâu yn Swanley, Caint.