Marion Wallace Dunlop
Marion Wallace Dunlop | |
---|---|
Ganwyd | 22 Rhagfyr 1865 Inverness |
Bu farw | 12 Medi 1942 Guildford |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, swffragét |
Gwobr/au | Medal y Swffragét |
Ffeminist o'r Alban oedd Marion Wallace Dunlop (22 Rhagfyr 1864 - 12 Medi 1942) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am fod y swffragét cyntaf i fynd ar ympryd (ar 5 Gorffennaf 1909).[1]
Magwraeth a choleg
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn Inverness ar 22 Rhagfyr 1864 a bu farw yn Llundain. Roedd yn ferch i Robert Henry Wallace Dunlop a'i ail wraig, Lucy Wallace Dunlop (née Dowson; 1836–1914).[2]
Symudodd yn ddiweddarach i Loegr ac astudiodd yn Ysgol Celfyddyd Gain Slade, lle by Augustus John. Arddangoswyd ei gwaith yn yr Academi Frenhinol ym 1903, 1905 a 1906. Dyluniodd sawl llyfr, gan gynnwys Fairies, Elves, a Flower Babies a The Magic Fruit Garden.[3][4][5]
Y swffragét
[golygu | golygu cod]Daeth Dunlop yn aelod gweithgar o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod a chafodd ei harestio am y tro cyntaf ym 1908 am "rwystr" ac eto yn 1908 am arwain grŵp o fenywod mewn gorymdaith.[6] Yn 1909 cafodd ei harestio y trydydd tro, yn yr achos hwn am ddychanu darn o'r Bil yr Hawliau (Bill of Rights) ar wal yn Nhŷ'r Cyffredin a oedd yn datgan, "Mae'n hawl gan y person i ddeisebu'r Brenin, ac mae holl ymrwymiadau ac erlyniadau am ddeisebu fel hyn yn anghyfreithlon."[7] Cynorthwyodd i gynllunio llawer o orymdeithiau WSPU i alw am hawl menywod i bleidleisio, gan gynnwys yr orymdaith ar 17 Mehefin 1911.[1][6]
Ymprydio
[golygu | golygu cod]Ni chafwyd unrhyw awgrym erioed i unrhyw un gynghori neu argymell iddi fynd ar streic newyn (neu 'ymprydio'). Credir mai ei syniad hi oedd hyn ac yn fuan wedyn, daeth streic newyn yn boblogaidd i swffragetiaid.
Aeth ati am 91 awr heb fwyd, a gadawyd hi'n rhydd o Garchar Holloway, ar sail ei bod yn wael. Ym Medi 1909, dechreuodd awdurdodau carchardai orfodi bwyd ar yr ymprydwyr, ymarfer poenus iawn.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 The Militant Suffrage Movement : Citizenship and Resistance in Britain, gan Laura E. Nym Mayhall, athro prifysgol History Catholic University of America.
- ↑ "Statutory Birth Record for Dunlop, Marion Wallace". Scotland's People. Scotland's People. Cyrchwyd 15 Hydref 2016.
- ↑ Rhyw: https://rkd.nl/explore/artists/134937. dyddiad cyrchiad: 8 Gorffennaf 2023.
- ↑ Man geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ "Marion Wallace-Dunlop profile". Spartacus Educational. Spartacus Educational. Cyrchwyd 15 Hydref 2016.
- ↑ 6.0 6.1 Women's Suffrage Movement by Elizabeth Crawford
- ↑ Cyfieithwyd o'r gwreiddiol: "It is the right of the subject to petition the King, and all commitments and prosecutions for such petitioning are illegal."