Neidio i'r cynnwys

Robert G. Ingersoll

Oddi ar Wicipedia
Robert G. Ingersoll
GanwydRobert Green Ingersoll Edit this on Wikidata
11 Awst 1833 Edit this on Wikidata
Dresden Edit this on Wikidata
Bu farw21 Gorffennaf 1899 Edit this on Wikidata
Dobbs Ferry Edit this on Wikidata
Man preswylRobert Ingersoll Birthplace Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd, llenor, awdur ysgrifau, areithydd, darlithydd, athronydd Edit this on Wikidata
SwyddUnited States Attorney Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
MudiadAgnosticiaeth Edit this on Wikidata
TadJohn Ingersoll Edit this on Wikidata
PriodEva Parker Ingersoll Edit this on Wikidata
PlantEva Ingersoll Brown, Maud Ingersoll Probasco Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd, areithydd a rhyddfeddyliwr o'r Unol Daleithiau oedd Robert Green Ingersoll (11 Awst 183321 Gorffennaf 1899). Enillodd yr enw "yr Agnostig Mawr" am iddo siarad yn gyhoeddus am ei sgeptigiaeth grefyddol, arddel athroniaeth ddyneiddiol a rhesymoliaeth wyddonol, a phoblogeiddio uwchfeirniadaeth y Beibl. Roedd yn ddarlithydd hynod o boblogaidd yn niwedd y 19g ac yn enwog ar draws yr Unol Daleithiau am ei rethreg a'i ffraethineb.

Ganwyd yn Dresden, Talaith Efrog Newydd, a chafodd ychydig o addysg ffurfiol. Cafodd ei dderbyn i'r bar yn Illinois ym 1854, ac aeth i drin y gyfraith yn Peoria, Illinois, Dinas Efrog Newydd, a Washington, D.C. Gwasanaethodd yn Rhyfel Cartref America. Ymunodd â'r Blaid Weriniaethol a daeth yn weithredol yn y byd gwleidyddol, er na ymgeisiodd am yr un swydd etholedig. Gwasanaethodd fel Twrnai Cyffredinol Illinois (1867–69) a gweithiodd fel llefarydd y Gweriniaethwyr mewn ymgyrchoedd arlywyddol. Er yr oedd yn Weriniaethwr pybyr, ni chafodd ei apwyntio i'r un benodiad diplomyddol neu swydd y Cabinet oherwydd ei farnau crefyddol.

Cyhoeddwyd ei brif ddarlithoedd ac areithiau yn y cyfrolau Some Mistakes of Moses (1879) ac Why I Am Agnostic (1896). Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd ei weithiau cyfan mewn 12 cyfrol dan olygyddiaeth Clinton P. Farrell, The Works of Robert G. Ingersoll (1902).[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Robert G. Ingersoll. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Ebrill 2017.