Cefn-llys
Math | anghyfannedd, bwrdeistref, eglwys blwyf |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.2438°N 3.3354°W |
Cod OS | SO0893061480 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | RD150 |
Roedd Cefn-llys (hefyd Llanfihangel Cefn-llys) yn dref ganoloesol yng nghwmwd Dinieithon, yng nghantref Maelienydd, de Powys, yng nghanolbarth Cymru.
Hanes a hynafiaethau
[golygu | golygu cod]Erbyn heddiw dim ond Eglwys Sant Fihangel sy'n dal i sefyll yno, gyda thwmpathau gerllaw yn dynodi safleoedd adeiladau eraill yn y dref fechan, a barhaodd yn breswylfa hyd y 1800au. Gerllaw ar ben y graig a adwaenir fel Craig y Castell ceir adfeilion Castell Cefn-llys. Mae'r castell a'i graig, a'r dref wrth ei gwaelod, yn cael eu amgylchunu bron yn llwyr gan ddolen ar afon Ieithon, sy'n llifo heibio ar ei ffordd i Landrindod, tua milltir i lawr yr afon.
Er mai Castell Cefn-llys yw'r enw, mewn gwirionedd ceir adfeilion dau gastell ar ddau ben y graig. Cawsant eu codi y naill ar ôl y llall gan yr arglwydd Eingl-Normanaidd lleol Roger Mortimer o Wigmore yn ystod ei frwydro â Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, am reolaeth ar gantref Maelienydd. Codwyd y castell cyntaf, ar ben gogleddol y graig, yn 1242 a chafodd ei ddifetha yn 1262 gan Gymry Maelienydd yn enw Llywelyn ap Gruffudd ac er mwyn tanseilio awdurdod Mortimer yn yr ardal. Codwyd yr ail gastell, ar ben deheuol y graig, yn 1268 ; goroesodd helbulion y cyfnod ond roedd yn adfail erbyn 1588.
Chwedl Draig Fforest Clud
[golygu | golygu cod]Yn ôl traddodiad llên gwerin lleol, bu draig yn byw yn Fforest Clud ers talwm. Am ei bod yn aflonyddu cymaint ar y trogolion, codasant cylch o bedair eglwys i'w hamgylchynnu. Cysegrwyd y pedair eglwys hynny, sef eglwysi Llanfihangel Cefn-llys, Llanfihangel Rhydieithon, Llanfihangel Nant Melan a Llanfihangel Cascob, i'r archangel Sant Mihangel, sy'n gorchfygu'r ddraig yn y Beibl. Credid y byddai'r ddraig yn deffro eto pe dinistrid unrhyw un o'r pedair eglwys[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- R. R. Davies, The Age of Conquest : Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1987)
- J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://web.archive.org/web/20070430204832/http://www.churchinwales.org.uk/swanbrec/churches/trails/dragons.htm Archifwyd 2007-04-30 yn y Peiriant Wayback "St Michael and the Dragon of Radnor Forest" ar wefan yr Eglwys yng Nghymru (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu).