Neidio i'r cynnwys

Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Camgyhuddiadau

Oddi ar Wicidestun
Prydlondeb Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn

gan Griffith Williams, Talsarnau

Boddlonrwydd

CAMGYHUDDIADAU.

ANHAWDD penderfynu pa un fwyaf tueddol i ddyn syrthiedig ydyw cyhuddo ei gymydog o fai nad yw yn euog o hono mewn gwirionedd, ai ynte esgusodi ei hun mewn bai sydd yn gwbl hysbys iddo ei fod ynddo. Y mae hyn yn dra mynych yn dygwydd: weithiau fe gyhuddir ein cydddyn o fwy o fai nag sydd yn bod, neu o egwyddor adgasach na'r un y gweithredwyd oddiarni; ac yn fynych fynych darnguddir ein bai ein hunain, os bydd yn anmhosibl eu guddio i gyd, gan briodoli i ni ein hunain egwyddor a chalon dda,

"Ac ni chlywir neb yn dadgan
Fawr ei hynod feiau 'i hunan.'

Ni ddichon sant na phechadur ddïanc rhag camgyhuddiadau. Dywed diareb, "Mwyaf cam, cam lleidr." Os bydd un mwy llawflewog na'i gilydd mewn cymydogaeth, cyfrifir pob lledrad iddo ef, pryd mewn gwirionedd fod aml un yn lladrata yn ei gysgod. Clywsom ddyn meddw unwaith yn dywedyd y cyhuddid ef o feddwi ambell dro pan na byddai wedi gweled diod gref, rhagor yfed o honi. Er gwaethed yw yr yspryd drwg, y mae yntau yn cael cam aml waith; nid fod nemawr ddrwg yn cael ei gyflawni heb ei ddylanwad ef, ond y camwri yw, y rhoddir yr holl fai wrth ei ddrws ef, pryd y mae y dyn sydd yn ei gyhuddo yn euog o'r haner. Ni ddianc y rhinwedd mwyaf digymysg ychwaith rhag camgyhuddiadau. Cafodd y diwygwyr Protestanaidd eu rhan yn ehelaeth o hono gan y Pabyddion. Nid oedd fod gwirionedd o'u tu, cywirdeb eu dybenion, a sancteiddrwydd eu hymarweddiad, ond yn eu gwneyd yn fwy agored iddo. Pan oedd Mab y Goruchaf yn rhodio daear, a phob rhinwedd wedi ei bersonoli ynddo, dywedid am dano, "Wele un glwth ac yfwr gwin:" er ei fod trwy fŷs Duw yn bwrw allan gythreuliaid, cyhuddid ef gan ryw fath o ddynion o fod trwy Beelzebub yn eu bwrw hwynt allan. Ie, yn eu angeu, bu farw dan gamgyhuddiad. Ni ddiane y Duw mawr sanctaidd ac ofnadwy, y Brenin tragywyddol ac anfarwol, rhag camgyhuddiadau ei greaduriaid anwybodus. Y mae fod Duw yn goddef i'w greadur wneyd rhyw gyflafan, yn cael ei roddi yn erbyn ei gynghor a'i arfaeth ef. "Paham y mae efe eto yn beïo, canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef?" Nid anfynych y clywir dynion yn rhoi trugareddau Duw yn esgus am bechu yn ei erbyn. "Y wraig (ebe Adda) a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o'r pren, a bwyta a wneuthum;" ac y mae y byd yn llawn o'r un peth er dyddiau Adda hyd yn awr. Côf genym glywed am un, Roli y Wern ddu, fel ei gelwid; yr oedd yn byw yn agos i Lanelltyd yn swydd Feirion; ac yn ol y pwysau a'r mesur cyffredin sydd ymhlith dynolryw, yr oedd Roli dipyn yn fyr; ac eto medrai Roli ddyfod i dŷ y nos, cystal a'r goreu. Treuliai lawer o'i amser yn Abermaw, yn adeiladu ryw fân dai ar ystlys y graig yno. Dygwyddodd i ryw gadben llong ei ddigio yn enbyd; ac er dïal ei gam, aeth Roli âg ebill yn ei law, ac a dyllodd drwy waelod llong y cadben hwnw. Adroddai yr hanes wrth gymydog iddo, gan ddywedyd fod hwn a hwn wedi bod yn gâs iawn wrtho ef, "Ond, wel di, mi dyllais dwll dan waelod ei long ef; ac fel yr oedd Duw yn mynu, mi hitiais rhwng dau goedyn, ac ni chefais fawr drafferth; hi sincith càn gynted ag yr elo i'r môr."

"Gan y gwirion ceir y gwir."

Tybiai Roli iddo gael rhwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddïal ar ei gyd—greadur; y mae llawer eto yn synio yn lled gyffelyb.

Yn awr, gan hyny, gan fod y byd yn llawn o gamgyhuddiadau, ac na ddïanc neb rhagddynt, a ydyw yn rheswm coelio y cyfan a glywir, mal y gwna ambell un? oblegyd os gwneir, teimlwn ein hunain yn nghanol ellyllon ac nid yn mhlith dynion. Y mae cenfigen a malais, bwriad drwg ac anghariadoldeb yn paentio y cwbl càn ddüed a'r cythraul. Os coelir y rhai hyn, y mae yn rhaid coelio nad oes menyw ddiwair yn yr holl wlad, ond y rhai sydd newydd eu geni; fod yr holl grefyddwyr yn rhagrithwyr, fod pob dyn cynil yn gybydd, a phob dyn hael yn afradlawn, bod pawb sydd yn trin y byd yn ei garu â'u holl galon, ac nad oes na doctor na thwrne gonest yn yr holl fyd; o bydd dyn neu ddynes yn gryno a glân eu trwsiad, y maent càn falched a Lucifer; ac os bydd un yn arfer anog ei gymydog yn lled fynych i haelioni gyda ag achos yr Arglwydd, bydd yn dra sicr o gael ei gyhuddo o ariangarwch. Clywsom fod y Dr. Chalmers wedi myned i un o ynysoedd Scotland, yn lled fuan ar ol yr ymraniad, i egluro i flaenoriaid yr Eglwys Rydd yn yr ynys hono ei gynllun tuag at gynal y weinidogaeth, a dangos iddynt y rhwymau oedd arnynt i gyfranu eu hunain, ac arfer eu holl ddylanwad tuag at gael y gwahanol gynulleidfâoedd i wneuthur yr un peth. Ar ol i'r cyfarfod fyned drosodd, gofynwyd i un o'r blaenoriaid hyn, beth oedd ei feddwl am y cyfarfod ac am y Doctor? "Dyn call dysgedig yw y Doctor (meddai), ond y mae yn fydol iawn;" pan mewn gwirionedd nad oes o fewn holl gylch yr eglwys Gristionogol yr un sydd wedi dangos ei hun yn fwy rhydd oddiwrth y bai hwn. Y mae wedi aberthu miloedd o bunau er mwyn cydwybod, ac y mae mor enwog am haelioni a chymwynasau ag ydyw am ei dalentau. Ond gwyddai y blaenor ei fod ef neu y Doctor yn feius; ac yn lle cyfrif y bai yn y lle y dylasai fod, barnai y diniwed yn euog, a gollyngai yr euog yn rhydd. Ac fel y mae gwaetha'r modd, y mae gan y blaenor hwn frodyr lawer yn Nghymru.

Wele, ddarllenwyr y "Traethodydd", gan fod o leiaf haner yr anair a glywn am eraill yn gelwydd, neu o'r hyn goreu yn anwiredd, anhawdd gwybod pa haner i'w goelio. Aroswn, gan hyny, heb goelio dim drwg am frawd neu gymydog oni bydd raid. Gwyddoch yn dda fod mwy na haner y drygair a gawsoch eich hunain yn ffrwyth malais rhywrai; ac nid yw tynged eraill ond lled debyg. Y mae cenfigen fel gwibed yn disgyn ar y briw sydd ar gefn yr asyn, ac mor ddiwyd yn hel yr ysig ag ydyw y gwenyn yn casglu mêl Mawr dda iddynt ar yr ysnafedd!

"Rhyw bwnio bydd rhai beunydd,
A llunio bai lle na bydd."

Nid ydym yn cymeryd arnom gyfiawnhau dynolryw, ond addefwn fod beiau yn bod nid ychydig, a phob un a ddwg ei faich ei hun. Y mae yn dda chwilio am rinwedd, ond nid am fai, canys

"Pawb a'i cenfydd, o bydd bai,
A brawddyn lle ni byddai."

Ond dwbl wfft i genfigen! nis gall hi na gwneyd na dyoddef yr hyn sydd yn dda.

"Ni wna dda, y ddera ddall,
Ni erys a wna arall."

Ystyrier yn gyntaf fod dyweyd a chredu y gwaethaf am eraill yn fai yn ngwyneb yr holl ddeddf—yn wrthwyneb i yspryd y gyfraith sydd yn dywedyd, "Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, a'th gymydog fel tydi dy hun." Cariad ni feddwl ddrwg." Lle y mae un yn meddwl drwg i'w gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn ei ymyl, y mae ynddo ddiffyg cariad.

Yn ail, y mae yn peri teimlad drwg mewn cymydogaeth, ac yn achosi niwed. Gwreiddyn chwerwedd ydyw ag sydd yn llygru llawer, ac yn peri blinder. Os câ hwn wreiddio, fe wywa pob rhinwedd fyddo yn agos ato. Crea anffyddlondeb ac anymddiried, a drygau eraill y pallai amser i'w henwi.

Yn drydydd, y mae yn annhraethol ei niwed yn yr eglwys. Gwnaeth yr hyn y methodd tân a ffagodau ei wneuthur, sef dinystrio eglwysi Crist. Am hyny y dywed Paul," Eithr os cnoi a thraflyngcu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddifether chwi gan eich gilydd." Y mae camgyhuddo brawd wedi bod yn dra niweidiol ei ganlyniadau. Odid y coelia pawb y camgyhuddiad; bob yn dipyn daw y gwirionedd allan (y mae rhywbeth yn natur pethau, fel pe mynai gwir a chelwydd ddyfod o'u tyllau, a'u gwneyd ei hun yn amlwg i bawb); a'r canlyniad fydd, pleidia rhai yr ochr hyn, ac eraill yr ochr arall; glŷn rhai wrth yr hen bwnc, a'r lleill wedi ildio i nerth gwirionedd ydynt yn synu nad ildiai pawb iddo. Fel hyn y mae teimladau anfrawdol nid ychydig yn cael eu cynnyrchu.

Yn bedwerydd, nis gall lai nag archolli y camgyhuddedig yn ddirfawr. Y mae pob brawd neu chwaer fo dan ddysgyblaeth yn hysbys o'u hanes eu hunain, a gwyddant pa faint o'r cyhuddiad sydd wirionedd, a pha faint sydd heb fod; ac os delir yn dyn ar yr hyn sydd gam yn y cyhuddiad, y mae yn chwanog i'r cyfryw feddwl ei fod yn wrthddrych rhagfarn y swyddogion eglwysig yn y man y bo. Cyll yn ebrwydd bob parch iddynt, a phob ymddiried yn nghywirdeb eu dybenion; pa faint bynag oedd eu bri o'r blaen yn ei olwg, y mae yn ymado fel cwmwl y boreu. I wneuthur hyn yn fwy amlwg, adroddwn hen hanesyn. Clywsom am ferch ieuangc (o ran priodi) a ddaeth yn yr hen amser gynt o sir Fôn i wasanaethu i Glynnog, yn Arfon; ac wedi trigo yno am dro, meddyliodd rhyw ŵr ieuangc am wneuthur gwraig o honi, ond yr oedd yn arafu am na wyddai ei hanes, ac yn betrusgar am ei nodweddiad. Gwyddai y byddai yn arferedig y pryd hyny fyned o lawer o bobl at fedd St. Beuno, i gyfaddef eu pechodau, a byddai hithau yn arfer myned; a deallodd yntau pa noswaith yr âi, ac aeth i eglwys y bedd o'i blaen, ac ymguddiodd. Yn mhen enyd, dyma hithau yno; a chan ddechreu ar ei defosiynau, a chyfaddef rhyw fân feiau, dywedai yntau mewn llais gwanaidd, megys o wlad angeu, "Fe fu genyt blentyn ordderch." Hithau, gan dybied mai St. Beuno oedd, a addefai fod hyny yn wir. "Mi welaf, Beuno, y gwyddost ti bob peth." "Bu genyt ddau," meddai llais gwanaidd. "Do, St. Beuno, fe fu genyf ddau; ni chymerais rybudd y tro cyntaf, fel y mae mwyaf fy nghywilydd; fe fu genyf ddau." "Bu genyt dri," meddai y llais. Ar hyn cyfododd y gyffes—ferch yn dra ffyrnig, ac a ddywedodd, "Celwydd Seintyn, yn dy feintyn; ni bu genyf ond dau, a dau fu genyf." Gwelwn yn yr hanesyn hwn fod y ddynes wedi colli pob hyder yn sanctiolwch Beuno wrth gael ei chamgyhuddo ganddo yn ol ei thyb. Cynhyrfodd y ddeddf o hunanamddiffyn, yr hon sydd ddeddf gref yn y natur ddynol, pa un bynag fyddo y dyn ai Protestant, Pabydd, Cristion, ai pagan. Gweithredodd y ddeddf hon ynddi mor rymus fel na theimlai ar y pryd oddiwrth ddim arall. Ac onid fel hyn y mae yn naturiol iddi fod mewn dysgyblaeth eglwysig, os bydd yr aelod yn cael cam? Y mae natur, pa mor ddiniwed bynag y bo, yn teimlo yn gynhyrfus. Dywedodd aml un a gafodd ei gamgyhuddo, y buasai yn well ganddo gael profi ei fater yn y llys gwladol na chan swyddogion eglwysig sydd fel yr ehud yn coelio pob gair. Rheol euraidd yr Ysgrythyr yw, "Ymofyned y barnwyr yn dda. A'r henuriad na dderbyn achwyn oddieithr dan ddau neu dri o dystion, fel y byddo safadwy pob gair." Nid digon yw dywedyd fod y bobl yn siarad y wlad yn cablu yn enbyd—yr achos yn cael cam, a'r ddysgyblaeth yn myned i lawr. Y cwestiwn yw, A ydyw y brawd yn euog? ac os ydyw, i ba raddau y mae? ac wedi cael hyny allan, trinier ei fater yn ddidderbyn wyneb, ond nid yn haerllug, eithr mewn yspryd addfwynder. Gwaith llednais yw trin dysgyblaeth tŷ Dduw. Y mae ysprydoedd archolledig y cyfryw ag a oddiweddir gan ryw fai yn fynych yn galw am ffyddlondeb a thynerwch wedi eu cydgymysgu gyda doethineb. Cyfraith trugaredd sydd i fod ar wefusau yr eglwys a'i swyddogion. Nid ydym yn darllen yn y Testament Newydd am ddiarddeliad ond am bechodau ysgeler; ond yn rhywfodd, yn eglwysi Cymru, y mae dysgyblaeth mewn amgylchiadau amheus yn gwneyd mwy o niwed na phan byddo y bai yn amlwg ac yn warthus. Tardd hyn, y mae yn debyg, o eisieu mwy o'r "yspryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw yn werthfawr." "Na fernwch fel na'ch barner, canys â pha fesur y mesur och, yr adfesurir i chwithau.'

Bellach, frawd cyhuddedig, bydd ddyoddefgar. Nid tydi yw y cyntaf fu yn dyoddef cam: felly y cafodd Moses a'r prophwydi eu trin; a phe byddai Noah, Daniel, a Job, yn dyfod eto i breswylio y ddaear hon, caent ei bod yn lled gyffelyb i'r hyn oedd pan y buont ynddi gyntaf. Dywedai dynolryw y pryd hwnw, "Ein tafod sydd eiddom ni," ac felly eto. Os na ddiangodd yr Athraw mawr ei hunan, pa fodd y gall y dysgybl ddianc? Onid digon i'r gwas fod fel ei Arglwydd? Y mae y Barnwr wrth y drws; ger ei fron ef nid oes ond gwirionedd yn sefyll; ti elli fod yn gwbl ddibetrusgar y cei gyfiawnder ganddo ef, oblegyd nid yw ef yn gweled yn dda wneuthur cam à neb yn ei fater."

Chwithau, y camgyhuddwyr, y mae diwrnod eich prawf chwithau yn agos. Nid rhoi barn ehud ar eraill fydd eich gwaith yn dra hir; cewch ddeall rywbryd, os na wnewch gyfiawnder âg eraill, na wna Duw drugaredd â chwithau yn y dydd hwnw. Efallai fod llawer o honoch, heb fod yn llunwyr celwyddau, ac eto yn euog o dderbyn enllib yn erbyn eich cymydogion: cofiwch fod derbyn eiddo anonest (trwy wybod) cynddrwg a lladrata. Byddwch ofalus am wirionedd pob peth a gredoch. Cofiwch "am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant gyfrif." Meithrinwch gariad ac ewyllys da tuag at eich cyd—ddynion. Ni ddichon neb ddringo yn uchel mewn gwirionedd ar gôst tynu eraill i lawr trwy gelwydd. Er cynddrwg yw y byd, y dyn sydd yn parchu eraill sydd fwyaf ei barch ynddo. Nid oes un ffordd i fyned yn îs ein hunain nag wrth iselu eraill. Bydded i'ch gweddi gyffredin gynwys y deisyfiad yma, "Rhag pob deisyfiad drwg ac anghariadoldeb, gwared ni, Arglwydd daionus."—Traethodydd, Gorph.,1847.

Nodiadau

[golygu]