ar ei ol, a dorodd ymaith ei ben, ac a'i gosododd ar bawl yn y gadlys. A chymerasant feddiant o'i eiddo, ei gastell, a'i drysorau. Y dydd hwnw y daeth. Olwen yn wraig briod i Cilhwch, a hi a fu yn wraig iddo dra y bu fyw. Lluoedd Arthur a ymwasgarasant, pob un i'w fan. Ac felly y cafodd Cilhwch Olwen ferch Yspaddaden Pencawr.
FFRAE FARDDOL YN YR HEN AMSER.
DAU LYTHYR A FU RHWNG SION MAWDDWY A MEIRUG DAFYDD OBLEGID BARDDONIAETH.
(O'r Greal)
Atoch, Meurig Dafydd, hyn o lythyr, i'ch gwybyddu fy mod yn rhyfeddu yn fawr iawn eich bod yn beio ar fy ngherdd cybelled ag y clywaf eich bod. Mi a gaf foneddigion, a chyffredin Cymru, a ddyweto yn amgenach, heblaw dysgyblion a phencerddiaid; eto nid mor rhyfedd hyny a'ch bod yn dywedyd bod eich cerdd chwi cystal a'm heiddo i. Os felly, Meurig, chwi a wyddoch iawn farnu ac iawn ddysgu, trwy gyflawn gydgordiadau ymadroddion, niydr, a sillafau, a chyfoethogrwydd y gerddoriaeth; nid amgen mesurau, cywyddau, awdlau, ag englynion; a chanu y rhai hyny yn awenyddgar yn marn pencerdd, fal y mae yn rhaid iwch, cyn bod yn brydydd wrth fraint a defawd yr hen Brydeiniaid. Ond myfì a welais ŵr fal chwi, a gafas fenthyg pum' llyfr barddoniaeth tros ddwy flynedd; ac a fum fy hunan yn ceisio ei ddysgu, pe yd fuasai dysg yn myned yw ben; ond yr oedd ef mor ddwl at ddysg â gŵydd wyllt, mor falch-ffol â Satan, mor genfigenus â Lucifer, can galled â Ieuan Grod Hen, cyhawsed i ddyn ymddiried iddo ag i Iddawc Cam Brydain; a chantho ben mawr a synwyr bychan i ddysgu canu cerdd blethedig, gysylltiedig, gyfochredig, ddiadwyau, a synwyrau godidawg, ystyriaethawl; er hyny yr oedd ef yn gall i gasglu da'r byd, yn llawn lloriau fal hen gastell, cymaint ei gywilydd a'r afr, cyn daered a'r âb, un wên a Suddas, cybaeled a'r llyffant am y pridd, cymaint ei gariad a'r iar at yr halen, a llawn cymaint ei weniaith â charn putain: a mêl ar ei fin a bustyl yn ei galon, a'r wlad o'r bron yn adrodd ei gampau