gwiwer
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ˈɡwɪu̯.ɛr/
- ar lafar: /ˈɡwɪu̯.ar/
- yn y De: /ˈɡwɪu̯.ɛr/
Geirdarddiad
O'r Gelteg *wiweros o'r ffurf ddyddyblyg *h₂i-h₂u̯er- ar y gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *h₂u̯er- a welir hefyd yn y Lladin vīverra ‘ffured’, y Latfieg vāvere ‘gwiwer’ a'r Tsieceg veverka ‘gwiwer’. Cymharer â'r Gernyweg gwiwer, y Llydaweg gwiñver a'r Wyddeleg iora.
Enw
gwiwer b (lluosog: gwiwerod)
- (swoleg) Unrhyw gnofil prendrig grawnysol o deulu'r Sciuridae a nodweddir gan ei gynffon fawr drwchus a chroesau ôl cryfion, ac sy'n hynod am ei gelcio cnau ar gyfer bwyd yn y gaeaf.
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: gwiweraidd
- cyfansoddeiriau: gwiwerbysg, gwiwerfwnci
- cyfuniadau: gwalch gwiwerod, gwiwer ddaer, gwiwer dorgoch, gwiwer hedegog, gwiwer resog, ŷd gwiwerod
- brwsh blew gwiwer
Cyfieithiadau
|
|