Neidio i'r cynnwys

rhisgl

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Amryw fathau o risglau (1) y coed

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /r̥ɪsɡl/, [ˈr̥ɪskl̩]
  • yn y De: /r̥ɪsɡl/, [ˈr̥ɪskl̩]
    • ar lafar: /ˈr̥ɪsɡɪl/, [ˈr̥ɪskɪl], /ˈr̥ɪʃɡɪl/, [ˈr̥ɪʃkɪl]

Geirdarddiad

Bachigyn y Gelteg *rūskos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *h₃reuk- ‘datgloddio, datgladdu’ a welir hefyd yn y Lladin runcēre ‘chwynnu’, yr Hen Roeg orýssō (ὀρύσσω) ‘turio, palu’ a'r Sansgrit luñcati (लुञ्चति) ‘tynnu, plycio’. Cymharer â'r Gernyweg a'r Llydaweg rusk a'r Wyddeleg rúsc.

Enw

rhisgl g (lluosog: rhisglau; unigolynnol: rhisglyn)

  1. (botaneg) Gorchudd allanol gwydn boncyff a changhennau coeden.
    Mae rhisgl y goeden yn ei amddiffyn rhag yr elfennau.

Amrywiadau

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau