Liam Cosgrave
Gwedd
Liam Cosgrave | |
| |
Cyfnod yn y swydd 14 Mawrth 1973 – 5 Gorffennaf 1977 | |
Rhagflaenydd | Jack Lynch |
---|---|
Olynydd | Jack Lynch |
Geni | 13 Ebrill 1920 Castleknock, Dulyn |
Marw | 4 Hydref 2017 Dún Laoghaire, Sir Dulyn |
Plaid wleidyddol | Fine Gael |
Priod | Vera Cosgrave |
Taoiseach Iwerddon rhwng 1973 a 1977 oedd William Michael Cosgrave (neu Liam Cosgrave; 13 Ebrill 1920 – 4 Hydref 2017). Roedd yn aelod ac yn Taoiseach yn enw plaid Fine Gael, plaid mwy asgell dde, a thraddodiadol mwy cymodlon â Phrydain a'r blaid â'i wreiddiau ymysg rheini a gefnogai'r Cytundeb Eingl-Wyddelig 1921.
Roedd yn fab i W.T. Cosgrave, Arlywydd cyntaf Cyngor Deddfwrfol (Executive Council) Gwladwriaeth Rydd Iwerddon wedi'r Rhyfel Annibyniaeth ac yn dad i Liam T. Cosgrave, Cathaoirleach (cadeirydd) Seanad Éireann (ail siambr y Weriniaeth) rhwng 1996 a 1997.
|