Jack Lynch
Jack Lynch | |
---|---|
Taoiseach | |
Yn ei swydd 5 Gorffennaf 1977 – 11 Rhagfyr 1979 | |
Arlywydd | Patrick Hillery |
Tánaiste | George Colley |
Rhagflaenwyd gan | Liam Cosgrave |
Dilynwyd gan | Charles Haughey |
Yn ei swydd 10 Tachwedd 1966 – 14 Mawrth 1973 | |
Arlywydd | Éamon de Valera |
Tánaiste | |
Rhagflaenwyd gan | Seán Lemass |
Dilynwyd gan | Liam Cosgrave |
Arweinydd yr Wrthblaid | |
Yn ei swydd 14 Mawrth 1973 – 5 Gorffennaf 1977 | |
Arlywydd | Éamon de Valera Erskine H. Childers Cearbhall Ó Dálaigh Patrick Hillery |
Taoiseach | Liam Cosgrave |
Rhagflaenwyd gan | Liam Cosgrave |
Dilynwyd gan | Garret FitzGerald |
Leader of Fianna Fáil | |
Yn ei swydd 10 Tachwedd 1966 – 7 Rhagfyr 1979 | |
Dirprwy | Joseph Brennan George Colley |
Rhagflaenwyd gan | Seán Lemass |
Dilynwyd gan | Charles Haughey |
Minister for Finance | |
Yn ei swydd 21 Ebrill 1965 – 10 Tachwedd 1966 | |
Taoiseach | Seán Lemass |
Rhagflaenwyd gan | James Ryan |
Dilynwyd gan | Charles Haughey |
Minister for Industry and Commerce | |
Yn ei swydd 23 Mehefin 1959 – 21 Ebrill 1965 | |
Taoiseach | Seán Lemass |
Rhagflaenwyd gan | Patrick Hillery |
Dilynwyd gan | Charles Haughey |
Minister for Education | |
Yn ei swydd 20 Mawrth 1957 – 23 Mehefin 1959 | |
Taoiseach | Éamon de Valera |
Rhagflaenwyd gan | Richard Mulcahy |
Dilynwyd gan | Patrick Hillery |
Minister for Gaeltacht Affairs | |
Yn ei swydd 20 Mawrth 1957 – 26 Mehefin 1957 | |
Taoiseach | Seán Lemass |
Rhagflaenwyd gan | Patrick Lindsay |
Dilynwyd gan | Mícheál Ó Móráin |
Parliamentary Secretary to the Minister for Lands | |
Yn ei swydd 13 Mehefin 1951 – 2 Mehefin 1954 | |
Taoiseach | Éamon de Valera |
Rhagflaenwyd gan | Eamonn Kissane |
Dilynwyd gan | Brian Lenihan Snr |
Parliamentary Secretary to the Taoiseach | |
Yn ei swydd 26 Gorffennaf 1951 – 2 Mehefin 1954 | |
Taoiseach | Éamon de Valera |
Rhagflaenwyd gan | New office |
Dilynwyd gan | John O'Donovan |
Teachta Dála | |
Yn ei swydd Mehefin 1977 – Mehefin 1981 | |
Etholaeth | Cork City |
Yn ei swydd Mehefin 1969 – Mehefin 1977 | |
Etholaeth | Cork City North-West |
Yn ei swydd Chwefror 1948 – Mehefin 1969 | |
Etholaeth | Cork Borough |
Manylion personol | |
Ganwyd | John Mary Lynch 15 Awst 1917 Shandon, Cork, Ireland |
Bu farw | 20 Hydref 1999 Royal Hospital, Donnybrook, Dublin, Ireland | (82 oed)
Man gorffwys | St. Finbarr's Cemetery, Cork, Ireland |
Cenedligrwydd | Irish |
Plaid wleidyddol | Fianna Fáil |
Priod | Máirín O'Connor (m. 1946) |
Rhieni |
|
Addysg | |
Alma mater | University College Cork |
Roedd John Mary Lynch (15 Awst 1917 – 20 Hydref 1999), a elwir yn Jack Lynch, yn wleidydd Gwyddelig Fianna Fáil a wasanaethai fel Taoiseach o 1966 i 1973 a 1977 i 1979, Arweinydd Fianna Fáil o 1966 i 1979, Arweinydd yr Wrthblaid o 1973 i 1977, y Gweinidog dros Gyllid rhwng 1965 a 1966, y Gweinidog dros Ddiwydiant a Masnach o 1959 i 1965, y Gweinidog dros Addysg 1957 i 1959, y Gweinidog dros Faterion y Gaeltacht o fis Mawrth 1957 hyd at fis Mehefin 1957, Ysgrifennydd Seneddol y Gweinidog dros Diroedd a Senedd Ysgrifennydd y Taoiseach o 1951 i 1954. Bu'n wasanaethu fel Teacht Dala (TD) o 1948 i 1981.[1]
Ef oedd trydydd arweinydd Fianna Fáil o 1966 hyd 1979, gan ddilyn Seán Lemass hynod ddylanwadol. Lynch oedd arweinydd olaf Fianna Fáil i sicrhau (yn 1977) fwyafrif cyffredinol yn y Dáil. Mae'r hanesydd a'r newyddiadurwr T. Ryle Dwyer wedi ei alw ef "y gwleidydd mwyaf poblogaidd Gwyddelig ers Daniel O'Connell."[2]
Cyn ei yrfa wleidyddol roedd Lynch yn chwaraewr hurling a phêl-droed Gwyddelig nodedig ac enwog.
Bywyd Cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed Lynch yn ninas Corc yn un o bump o feibion gyda dwy chwaer yn ei olynu. Bu farw ei fam pan oedd ond 13 oed a cafodd ei fagu gan ei fodryb. Roedd Lynch yn agos i'w fam a chafodd hyn ddylanwad fawr arno.
Cafodd Lynch swydd yn gweithio i Bwrdd Llaeth ardal Dulyn cyn dychwelyd i Corc i weithio gyda'r Swyddfa Llys Cylchol. Cyfarfu â'i wraig, Máirín O'Connor, tra roedd ar wyliau yn Glengariff, Gorllewin Corc. Roedd hi'n ferch i farnwr yn Nulyn.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Etholwyd Lynch i Dáil Éireann ar ran Fianna Fáil yn Etholiad Cyffredinol 1948 ar gyfer Bwrdeisdref Corc. Er i FF golli grym am y tro cyntaf mewn 16 mlynedd, cafodd Lynch brofiad fel ymchwilydd ac awdur areithiau i Éamon de Valera.
Yn 39 oed, daeth Lynch yn aelod ifancaf llywodraeth newydd Fianna Fail, fel Gweinidog Addysg a dal portffolio'r Gaeltacht hefyd am gyfnod. Cyflwynodd Lynch sawl deddf blaengar gan gynnwys codi oed gadael ysgol, lleihau meintiau dosbarthiadau, gwaredu ar y ban ar menywod priod yn gweithio fel athrawon, a chaniatáu i Iddewon wisgo'r kippa o 12 oed neu hŷn.
Taoiseach, 1966-73
[golygu | golygu cod]Ymddiswyddodd Seán Lemass fel Taoiseach yn 1966 gan arwain at ymgiprys am ei swydd. Yn y pendraw etholwyd Lynch fel 'ymgeisydd cyfaddawd' fel arweinydd y blaid ac felly Toaiseach ar 10 Tachwedd 1966.
Gwnaeth Lynch ymdrech i gymodi a magu perthynas gyda llywodraeth Gogledd Iwerddon. Teithiodd i ymweld â Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, Terrence O'Neill yn Stormont yn Rhagfyr 1967 ac yna yn Nulyn yn Chwefror 1968.[3] Dywedodd O'Neill amdanno, "I do not believe one could have a better Taoiseach than Mr. Lynch. It is not for nothing that he is known in the South as "Honest Jack". I do not know many other politicians who have that little prefix put in front of their names."[4]
Ysgytwyd ei lywodraeth a'r wlad ym mis Awst 1969, gan gwrthdaro gwaedlyd ar strydoedd Derry, Gogledd Iwerddon rhwng yr heddlu Protestannaidd a'r gymuned Catholig cenedlaetholgar Wyddelig. Gwnaeth Lynch gyhoeddiad i'r genedl oedd i gael effaith o greu ansicrwydd a chodi tymheredd y sefyllfa:
It is clear now that the present situation cannot be allowed to continue. It is evident also that the Stormont government is no longer in control of the situation. Indeed, the present situation is the inevitable outcome of the policies pursued for decades by successive Stormont governments. It is clear also that the Irish Government can no longer stand by and see innocent people injured and perhaps worse. It is obvious that the RUC is no longer accepted as an impartial police force. Neither would the employment of British troops be acceptable nor would they be likely to restore peaceful conditions, certainly not in the long term. The Irish Government have, therefore, requested the British Government to apply immediately to the United Nations for the urgent dispatch of a Peace-Keeping Force to the Six Counties of Northern Ireland and have instructed the Permanent Representative to the United Nations to inform the Secretary General of this request. We have also asked the British Government to see to it that police attacks on the people of Derry should cease immediately.
Very many people have been injured and some of them seriously. We know that many of these do not wish to be treated in Six County hospitals. We have, therefore, directed the Irish Army authorities to have field hospitals established in County Donegal adjacent to Derry and at other points along the Border where they may be necessary.
Recognising, however, that the re-unification of the national territory can provide the only permanent solution for the problem, it is our intention to request the British Government to enter into early negotiations with the Irish Government to review the present constitutional position of the Six Counties of Northern Ireland.[5]
Fodd bynnag, disgwyl mewn ofer wnaeth y gymuned Catholig am iachawdwriaeth gan fyddin fechan Iwerddon. Yn 1970 cafwyd argyfwng wrth i Weinidog Cyllid Charles Haughey a'r Gweinidog Amaethyddiaeth Neil Blaney gael eu cyhuddo o ddanfon arian ymlaen i'r IRA ac wedi gwneud yn bosibl prynu arfau. Ar 6 Mai 1970, diswyddwyd Haughey a Blaney gan Lynch.
Refferendwm Ewrop
[golygu | golygu cod]Ym 1972, pasiwyd refferendwm i'r Iwerddon ymuno â'r Gymuned Ewropeaidd ar 1 Ionawr 1973 ar yr un pryd â Phrydain a Denmarc. Dyma wireddu breuddwyd a strategaeth ers cyfnod Seán Lynch.
Newid cymdeithasol
[golygu | golygu cod]Gwelodd tymor cyntaf Lynch fel Taoiseach felly amryw ddiwygiadau mewn meysydd megis lles ac addysg. Ym 1967, cyflwynwyd cynllun taliadau diswyddo, ac ym 1970, gwnaed amryw o welliannau er enghraifft, budd-dal mamolaeth sylfaenol [9]. Yn 1967, cyflwynwyd addysg uwchradd am ddim, ynghyd â chludiant am ddim i'r ysgol "ar gyfer y rhai sy'n byw dros dair milltir o'r ysgol agosaf." Ym 1972, cyflwynwyd hawl i deithio am ddim i bob person o oedran pensiwn, tra bod pobl oedd yn gymwys i gael gofal ysbyty am ddim sydd â'r hawl i ragnodi ad-daliad cyffuriau dros swm penodol y mis.[6]
Fodd bynnag, trechwyd Fianna Fáil trechwyd yn yr etholiadau seneddol gan Fine Gael yn 1973 a disodlwyd Lynch ar 14 Mawrth yn 1973 gan Liam Cosgrave a ddaeth yn toaiseach newydd y wlad.
Tymor 1977-1979
[golygu | golygu cod]Bedair blynedd yn ddiweddarach, enillodd y Fianna Fail buddugoliaeth cofnod o dan ei gadeirydd Lynch, felly roedd yn 1977 llwyddodd Cosgrave fel prif weinidog ar 5 Gorffennaf. Yn ail hanner 1979 roedd hefyd yn Llywydd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd.
Fodd bynnag, yn cynyddu gwariant gwastraffus gan y gyllideb yn 1978 wedi arwain at ffrwydrad mewn dyled a chwyddiant. Arweiniodd yr ymgais i wrthbwyso'r diffyg hwn trwy drethi uwch i brotestiadau ar unwaith yn erbyn pleidleiswyr. Ar 11 Rhagfyr 1979 ymddiswyddodd Lynch fel cadeirydd y blaid a Phrif Weinidog a daeth y Gweinidog dros Iechyd a Lles Cymdeithasol, Charles Haughey, yn Taoiseach newydd y wlad.
Diwedd
[golygu | golygu cod]Galwyd Lynch yn "the most popular Irish politician since Daniel O'Connell" gan ei wrthwynebydd gwleidyddol, Liam Cosgrave. Gwrthododd gynigion i sefyll am Arlywyddiaeth y wlad. Torrodd ei iechyd yn 1992. Yn 1999 enwyd twnnel o dan yr afon Lee yn ei ddinas enedigol, Corc, yn Jack Lynch Tunnel. Bu farw yn Nulyn ym mis Hydref 1999 a cafodd angladd wladwriaethol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Mr. Jack Lynch". Oireachtas Members Database. Cyrchwyd 1 Mehefin 2009.
- ↑ Dwyer, T. Ryle (2005). Haughey's Forty Years of Controversy. Cork: Mercier. t. 240. ISBN 978-1-85635-426-4.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-06. Cyrchwyd 2018-09-03.
- ↑ https://api.parliament.uk/historic-hansard/lords/1972/dec/05/future-of-northern-ireland#S5LV0337P0_19721205_HOL_83
- ↑ ft01061990 (31 October 2009). "Jack Lynch On The Situation In North - 13 August 1969". YouTube. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2017.
- ↑ Growth to Limits: The Western European Welfare States..., Cyf 2, Gol Peter Flora