Irac
| |||||
Arwyddair: Arabeg: الله أكبر | |||||
Anthem: Mawtini | |||||
Prifddinas | Baghdad | ||||
Dinas fwyaf | Baghdad | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Arabeg, Cyrdeg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
- Arlywydd | Fuad Masum | ||||
- Prif Weinidog | Haider al-Abadi | ||||
Annibyniaeth - O'r Ymerodraeth Ottoman - O'r Deyrnas Unedig |
1 Hydref, 1919 3 Hydref, 1932 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
437,072 km² (58fed) 1.1% | ||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2014 - Dwysedd |
32,585,692 (40fed) 75/km² (112fed) | ||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2012 $242,500,000,000 (51ain) $7,100 (114ydd) | ||||
Indecs Datblygiad Dynol (2013) | 0.642 (120fed) – canolig | ||||
Arian cyfred | Dinar Iracaidd (IQD )
| ||||
Cylchfa amser - Haf |
Amser Safonol Arabia (UTC+3) (UTC+3) | ||||
Côd ISO y wlad | .iq | ||||
Côd ffôn | +964
|
Gwlad yn y Dwyrain Canol yn ne-orllewin Asia yw Gweriniaeth Irac neu Irac (Arabeg: العراق al-‘Irāq neu al-Erāq, Cyrdeg: عيَراق), sydd yn cynnwys y rhan fwyaf o Fesopotamia, gogledd-orllewin cadwyn y Zagros a dwyrain Anialwch Syria. Mae'n ffinio â Sawdi Arabia a Kuwait i'r de, Gwlad Iorddonen i'r gorllewin, Twrci i'r gogledd, Syria i'r gogledd-orllewin ac Iran i'r dwyrain. Mae gan y wlad arfordir cyfyng ar Gwlff Persia.
Ystyrir Irac fel y man lle ymddangosodd y gymdeithas sefydlog gyntaf yn y byd gyda holl nodweddion "gwareiddiad" – sef gwareiddiad hynafol Swmeria. Mae Irac wedi bod dan sylw'r byd yn ystod y ddwy ddegawd ddiwethaf oherwydd Rhyfeloedd y Gwlff, dymchweliad yr Arlywydd Saddam Hussein, ffurfio llywodraeth ddemocrataidd newydd a'r gwrthdaro gwleidyddol ac ethnig sydd wedi rhwygo'r wlad byth ers hynny.
Daearyddiaeth
- Prif: Daearyddiaeth Irac
Mae mwyafrif Irac yn ddiffeithdir, ond mae'r ardal rhwng y ddwy brif afon, Afon Ewffrates ac Afon Tigris, yn dir ffrwythlon. Mae gogledd y wlad yn fynyddig yn bennaf, gyda'i phwynt uchaf yn 3 611 metr, a elwir yn lleol yn Cheekah Dar (Pabell Ddu). Mae gan Irac arfordir cyfyng ar Gwlff Persia.
Hanes
- Prif: Hanes Irac
Hen hanes
Mae Gweriniaeth Irac wedi ei sefydlu ar dir a abnabyddir yn hanesyddol fel Mesopotamia, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o fraich ddwyreiniol y Cilgant Ffrwythlon. Dyma oedd cartref nifer o'r gwareiddiadau cynharaf. Oherwydd hyn, gelwir yr ardal yn aml yn Grud Gwareiddiad. Roedd yn gartref i ymerodraeth Akkad yn y gogledd a Swmeria ac yna Babilonia yn y de. Ymhlith ei dinasoedd enwog yn y cyfnod hwnnw gellid crybwyll Ur y Caldeiaid (dinas enedigol Abraham), Babilon (lle codwyd y Gerddi Crog enwog), Erek a Nimrwd.
Y cyfnod Helenistaidd a chlasurol
Yn sgîl cwymp Babilonia bu Mesopotamia dan reolaeth ymerodron Persia. Am gyfnod Babilon oedd prifddinas ymerodraeth fyrhoedlog Alecsander Mawr.
Yr Oesoedd Canol
Dan y califfiaid Abassid roedd Baghdad yn brifddinas y byd Mwslemaidd a blodeuai diwylliant unigryw a chyfoethog. Noddid llneorion, athronwyr ac athrawon. Newidiwyd hynny i gyda gyda chwymp Baghdad i luoedd y Mongoliaid yn y 13eg ganrif a'r gyflafan a distryw a ddilynodd.
Y cyfnod trefedigaethol
Hanes diweddar
Pan enillodd Irac ei hannibyniaeth yn sgîl yr Ail Ryfel Byd daeth y Ba'athiaid i rym a chychwynwyd cyfnod o foderneiddio a seciwlareiddio. Daeth Saddam Hussein i rym yng Ngorffennaf 1979 a gwelwyd cyfnod o orthrwm i lawer, yn arbennig y Cyrdiaid yn y gogledd a'r Shiaid yn y de, a byd cymharol da i eraill. Bu mewn grym drwy gyfnod y rhyfel yn erbyn Iran pan ymosodwyd ar filwyr a phobl Iran âg arfau cemegol. Yn y cyfnod hwn yr oedd Saddam Hussein yn cael cefnogaeth Prydain ac U.D.A. Parhaodd Irac i fod yn wlad seciwlar a roddai addysg a statws cydraddoldeb a chyfle i ferched y wlad fwynhau rhyddid sy'n cymharu'n dda â'u sefyllfa yn y Gorllewin.
Yn dilyn ei threchu yn Rhyfel y Gwlff, bu rhaid i fyddin yr Arlywydd Saddam Hussein dynnu allan o Kuwait. Ond er fod 14 o 18 y wlad yn gwrthrefyla yn ei erbyn, ni chafodd ei ddisodli.[1]
Achosion Rhyfel Irac
Pan ymosododd Iraq ar Kuwait yn ystod rhyfel y Gwlff mabwysiadodd Cyngor Diogelwch y Cenedloedd Unedig gynnig 678 dan bennod VII o Siarter y Cenhedloedd Unedig, gan roddi i'r gwledydd yr hawl i ddefnyddio "pob modd posibl" i "adfer heddwch rhyngwladol a diogelwch yr ardal" Ar ôl i Iraq gael ei bwrw allan o Kuwait derbyniwyd cynnig o ymatal 687 gan y Cenedloedd Unedig. Roedd hyn yn cynnwys rheidrwydd ar Iraq i derfynnu ei rhaglen o arfau niwclear.
Taleithiau
- Prif: Taleithiau Irac
Rhennir Irac yn 18 talaith (muhafazah):
|
|
Demograffeg
- Prif: Demograffeg Irac
Mae tua 79% o boblogaeth Irac yn Arabiaid, 16% yn Cyrdiaid, 3% yn Persiaid a 2% yn Twrcmaniaid. Mae 62% o'r wlad yn Mwslemiaid Shi'a ithna, 33% yn Mwslemiaid Sunni a 5% o grefyddau eraill (yn cynnwys Cristnogaeth).[2] Roedd arfer bod nifer o Iddewon yn byw yn y wlad, ond ers heddiw mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi ymfudo i Israel.[2]
Iaith a diwylliant
Yr ieithoedd swyddogol yw Arabeg a Chyrdeg.[2]
Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn Fwslemiaid, yn Sunni neu'n Shia, ond ceir lleiafrif bychan ond dylanwadol o Gristnogion yn ogystal, yn arbennig yn y gorllewin. Mae rhai o gysegrfeydd pwysicaf y Shia i'w cael yn ne Irac, e.e. yn ninas sanctaidd Najaf.
Economi
- Prif: Economi Irac
Dioddefai economi Irac yn y 1990au gan nad oedd hi'n cael prynu a gwerthu gyda gwledydd eraill yn dilyn Rhyfel y Gwlff.[3] Gwelwyd peth gwelliant yn y sefyllfa am gyfnod byr yn dilyn rhyfel 2003, ond dirywio mae'r economi ers hynny diolch i ansefydlogrwydd y wlad. Prif allforyn y wlad yw olew.
Cyferiadau
- ↑ "Saddam Hussein: Tu ôl i'r masg cyhoeddus", BBC, 13 Chwefror, 2003.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Financial Times World Desk Reference (Dorling Kindersley, 2004)
- ↑ BBC Cymru'r Byd – Ffeil – Rhyfel Irac
Cysylltiadau allanol
- (Arabeg) Gwefan swyddogol y lywodraeth
- (Saesneg) CIA - The World Factbook - Iraq
|