ALGOL
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | iaith raglennu, procedural programming language, imperative programming language, structured programming language |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1958 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Teulu o ieithoedd rhaglennu cyfrifiadurol yw ALGOL. (Mae'r enw'n tarddu o ALGOrithmic Language.) Datblygwyd ALGOL yn wreiddiol yn 1958.[1] Er nad yw'r iaith wreiddiol honno'n cael ei defnyddio mwyach, cafodd ddylanwad mawr ar lawer o ieithoedd eraill a ddatblygwyd wedyn. Mewn gwirionedd mae cystrawen y mwyafrif o ieithoedd rhaglennu modern yn debyg i gystrawen ALGOL i ryw raddau.
Roedd tair prif fanyleb, a enwyd ar ôl y blynyddoedd y cawsant eu cyhoeddi gyntaf:
- ALGOL 58
- ALGOL 60
- ALGOL 68
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "History of ALGOL — Software Preservation Group". www.softwarepreservation.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Mawrth 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am gyfrifiaduron neu gyfrifiadureg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.