Alldafliad niwclear
Math | sbwriel |
---|---|
Achos | Nuclear explosion |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Alldafliad niwclear, neu alldafliad, yw gwaddod y deunydd ymbelydrol sy'n cael ei daflu i'r uwch atmosffer yn dilyn ffrwydriad niwclear. Mae'r deunydd fel petae'n cael ei daflu allan o'r awyr yn dilyn y ffrwydriad a'r siocdon.[1] Mae'n aml yn cyfeirio at y llwch ac ulw ymbelydrol sy'n cael ei greu pan mae arf niwclear yn ffrwydro. Mae maint a gwasgariad yr alldafliad yn dibynnu ar faint yr arf ac ar ba uchder mae'n cael ei danio. Gall yr alldafliad gael ei gario gan gynnyrch cwmwl pyrocumulus a disgyn fel glaw du[2] (glaw sydd wedi'i dduo gan yr huddygl gronynnau eraill).
Mae'r llwch ymbelydrol hwn, sydd fel arfer yn cynnwys cynhyrchion ymhollti wedi'u cymysgu ag atomau cyfagos sydd wedi'u troi'r niwtron-weithredol o ganlyniad i datguddiad, yn fath hynod beryglus o halogiad ymbelydrol.
Ceir dau fath o alldafliad. Mae'r cyntaf yn ychydig o ddeunydd carsinogenig gyda hanner-oes hir. Mae'r ail, sy'n dibynnu ar uchder y taniad, yn faint enfawr o lwch a thywod ymbelydrol gyda hanner-oes byr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Radioactive Fallout | Effects of Nuclear Weapons | atomicarchive.com". www.atomicarchive.com. Cyrchwyd 2016-12-31.
- ↑ "AtomicBombMuseum.org - Destructive Effects". atomicbombmuseum.org. Cyrchwyd 2016-12-31.