Alun Wyn Jones
Alun Wyn Jones | |
---|---|
Ganwyd | 19 Medi 1985 Caerffili |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 198 centimetr |
Pwysau | 117 cilogram |
Gwobr/au | OBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Gweilch, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed |
Safle | Clo |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymro yw Alun Wyn Jones, OBE[1] (ganed 19 Medi 1985). Mae'n chwarae i'r Gweilch ac yn gapten ar dîm Cymru ers 2017.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ar ôl chwarae dros Gymru ar lefel dan-21, enillodd ei gap gyntaf dros Gymru yn erbyn yr Ariannin.
Mae wedi chwarae dros Gymru fel blaenwr mewn nifer o safleoedd; yn ystod gemau'r Chwe Gwlad yn 2007 roedd yn safle clo.
Ef oedd capten tîm Cymru a enillodd y Gamp Lawn 2019 ac fe'i enwyd yn 'Chwaraewr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019'.[2]
Ar 29 Medi 2019, mewn gêm yn erbyn Awstralia yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2019, enillodd ei 130eg cap dros Gymru gan ddod y chwaraewr gyda'r mwyaf o gapiau, yn curo record Gethin Jenkins.[3]
Ar 24 Hydref 2020, daeth Jones yn gyfartal gyda record Richie McCaw am y nifer mwyaf o ymddangosiadau yn rygbi rhyngwladol, sef 148 cap, yng ngêm Cymru yn erbyn Ffrainc, a gollwyd 38-21.[4] Curodd y record yr wythnos ganlynol gyda 149 cap, wrth i Gymru chwarae yng ngêm olaf pencampwriaeth y Chwe Gwlad ym Mharc y Scarlets. Collodd Cymru y gêm 10–14 wrth i'r Albanwyr sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref yn erbyn Cymru ers 2002.[5]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae'n briod a Dr Anwen Jones ac mae ganddynt ddwy ferch.[6]
Astudiodd yn rhan amser ar gyfer gradd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, gan raddio yng Ngorffennaf 2010. Derbyniodd radd er anrhydedd gan y Brifysgol yng Ngorffennaf 2014[7]
Derbyniodd OBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2020, am ei wasanaeth i Rygbi'r Undeb yng Nghymru.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Katie-Ann Gupwell; Lydia Stephens (9 Hydref 2020). "The full list of Welsh people honoured in Queen's Birthday Honours". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Hydref 2020.
- ↑ Enwi Alun Wyn Jones yn ‘Chwaraewr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019’ , Golwg360, 22 Mawrth 2019.
- ↑ Australia 25-29 Wales: Gatland's men hold out to win World Cup thriller (en) , BBC Sport, 29 Medi 2019. Cyrchwyd ar 24 Hydref 2020.
- ↑ Bywater, Alex (2020-10-24). "Jones admits need for improvement after France leave Wales beaten again". The Observer (yn Saesneg). ISSN 0029-7712. Cyrchwyd 2020-10-25.
- ↑ Cymru 10–14 Yr Alban , Golwg360, 31 Hydref 2020.
- ↑ Sands, Katie (17 Mawrth 2019). "The beautiful pictures of Wales' players celebrating Grand Slam with their families". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mawrth 2019.
- ↑ Law graduate Alun Wyn Jones to get honorary degree , ITV Wales News, 17 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd ar 24 Hydref 2020.
- ↑ Anrhydeddau'r Frenhines am ymdrechion i atal Covid , BBC Cymru Fyw, 10 Hydref 2020.
Rhagflaenydd: Sam Warburton |
Capten tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru 2017 – |
Olynydd: presennol |