Argyfwng olew 1973
Enghraifft o'r canlynol | oil crisis, economic crisis |
---|---|
Dyddiad | 1973 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cychwynnodd argyfwng olew 1973 ar 15 Hydref 1973 pan gyhoeddwyd embargo ar olew gan "Organization of Arab Petroleum Exporting Countries", sef OPEC, fel ymateb i benderfyniad UDA i gyflenwi olewi i fyddin Israel yn ystod Rhyfel Yom Kippur.[1] Penderfynodd y gwledydd Arabaidd beidio ag allforio olew i'r Unol Daleithiau na gwledyd eraill pe taent yn ochri gydag Israel. Gwyddent mai effaith hyn fyddai cynnydd mewn pris olew drwy'r byd. Roedd hyn yn dilyn blynyddoedd o golli incwm ar ôl claddu "Bretton Woods" a negydu gyda'r "Seven Sisters" ar ddechrau'r mis.
Dros y tymor hir, newidiodd yr embargo agwedd a pholisiau gwledydd y Gorllewin ynglŷn â chwilio am olew, cadwraeth ynni a pholisiau economaidd fel arfau yn erbyn chwyddiant.
Roedd system ariannol y byd eisoes o dan bwysau ers dileu cytundeb "Bretton Woods" a pharhaodd cyfres o ddirwasgiadau a chwyddiant uchel hyd at gychwyn yr 1980au. Parhaodd pris olew yn uchel hyd at 1986.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://web.archive.org/web/20071213150629/http://www.state.gov/r/pa/ho/time/dr/96057.htm Second Arab Oil Embargo, 1973-1974
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Alan S. Blinder, Economic Policy and the Great Stagflation (New York: Academic Press, 1979)
- Otto Eckstein, The Great Recession (Amsterdam: North-Holland, 1979)
- Mark E. Rupert and David P. Rapkin, "The Erosion of U.S. Leadership Capabilities"
- Paul M. Johnson and William R. Thompson, eds., Rhythms in Politics and Economics (New York: Praeger, 1985)
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Saudi dove in the oil slick Barn Sheikh Ahmed Zaki Yamani, o Saudi Arabia.
- (Saesneg) Cynrychiolaeth EIA
- (Saesneg) 35 mlynedd wedi'r embargo Archifwyd 2009-03-11 yn y Peiriant Wayback