Bailey Davies
Bailey Davies | |
---|---|
Ganwyd | 3 Rhagfyr 1884 Llanwenog |
Bu farw | 24 Awst 1968 Hendon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Clwb Rygbi Llanelli |
Safle | Cefnwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cefnwr rygbi'r undeb o Gymru oedd David Bailey "Beili" Davies (3 Rhagfyr 1884 - 24 Awst 1968).[1] Chwaraeodd rygbi clwb dros Brifysgol Rhydychen, Llanelli a Chymru Llundain a rygbi rhyngwladol dros Gymru.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Davies yn Llanwenog, Sir Gaerfyrddin [2] yn ail fab Mr Thomas Davies, o Fferm Baileycoch, ger Llanbedr Pont Steffan.[3] Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, a Choleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. O Lanbedr fe aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen lle bu'n astudio mathemateg cyn graddio ym 1908. Chwaraeodd yn safle'r cefnwr yn nhîm rygbi'r brifysgol ym 1905, 1906 a 1907 a chafodd ei gapio dros Gymru yn erbyn Lloegr ym 1907. [4] Bu ei frawd Austin Davies hefyd yn chware rygbi dros Lanelli
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ar ôl gadael y Brifysgol ym 1908, cafodd ei dderbyn fel meistr cynorthwyol yng Ngholeg Llanymddyfri. Y flwyddyn ganlynol symudodd i Loegr, gan ddod yn feistr cynorthwyol yn Ysgol Merchant Taylors, Llundain, lle bu'n bennaeth ar y Corfflu Hyfforddi Swyddogion [5] ac yn gweithredu fel hyfforddwr Rygbi'r Ysgol.
Cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, penodwyd Davies yn 2il Is gapten yn y Corfflu Hyfforddi Swyddogion. Ym 1917 gwirfoddolodd am wasanaeth gweithredol a chafodd ei bostio i 13eg Catrawd Llundain. Gwasanaethodd yn Ffrainc ac ym 1918 dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo am ddewrder wedi iddo achub milwyr clwyfedig yn ystod patrôl nos chipio 27 o Almaenwyr a dau wn peiriant.[6]
Ar ddiwedd y Rhyfel dychwelodd Davies i Merchant Taylors gan barhau i arwain y Corfflu Hyfforddi Swyddogion. Ym1926 cafodd ei ordeinio yn offeiriad Eglwys Loegr ond parhaodd yn ei swydd fel athro. Pan symudodd yr Ysgol Merchant Taylors o Lundain i Northwood ym 1933 penodwyd Davies yn feistri un o dai preswyl yr Ysgol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n rhedeg uned Gwarchodlu Cartref yr ysgol. Ym 1946 gadawodd Merchant Taylors a aeth yn Rheithor yn Sutton ac Eyeworth, Swydd Bedford, gan barhau yn y swydd hyd 1957.[7] Roedd ei adloniant ar ôl ymddeol yn cynnwys golff a hyfforddi'r tîm rygbi lleol, gan weithredu fel dyfarnwr mewn sawl gêm.
Ymddeolodd i Seer Green yn Swydd Buckingham ac yn ddiweddarach i Hendon,
Gyrfa rygbi
[golygu | golygu cod]Brifysgol Rhydychen, gan ennill tri Chrys Glas chwaraeon ym 1905, 1906 a 1907[8] bu'n rhan o'r tîm rhyng golegol a gurodd Caergrawnt ym 1907. [9] Chwaraeodd yn erbyn y Crysau Duon yn ystod eu taith ym 1905 a chafodd ei gapio i Gymru fel cefnwr pan guron nhw Loegr ar 12 Ionawr, yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1907 . [10]
Gemau rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Cymru
- Lloegr 1907,
Teulu
[golygu | golygu cod]Ym 1914 priododd Davies â Elsie Mary (née Pullinger) [11] merch William Henry Russell Pullinger YH , bu iddynt pedair merch
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn Hendon yn 83 mlwydd oed amlosgwyd ei weddillion a gwasgarwyd ei ludw ym mynwent ei gyn eglwys yn Sutton. Gosodwyd llechen goffa yn yr eglwys ym 1978, er cof am Davies a’i wraig
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Jenkins, John M.; et al. (1991). Who's Who of Welsh International Rugby Players. Wrexham: Bridge Books. ISBN 1-872424-10-4.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ David Davies player profile Scrum.com
- ↑ "Statsguru / Players & Officials / Bailey Davies". ESPN Scrum. 2009. Cyrchwyd 3 March 2009.
- ↑ Pearce, Walter Alfred (1907-01-12). "The Welsh Fullback". Papurau Cymru LlGC. Evening Express. Cyrchwyd 2021-04-22.
- ↑ "MC FOR OLD LLANELLY PLAYERI - Llanelly Star". Brinley R. Jones. 1918-07-20. Cyrchwyd 2021-04-22.
- ↑ Jenkins (1991), p. 37.
- ↑ "FOOTBALLERMC - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1918-07-17. Cyrchwyd 2021-04-22.
- ↑ Jenkins (1991), p. 37.
- ↑ Pearce, Walter Alfred (1905-12-06). "WELSHMAN GETS HIS "BLUE."". Papurau Cymru LlGC. Evening Express. Cyrchwyd 2021-04-22.
- ↑ Jenkinson, Leonard (1994-1995). "Jesus College's Rugby Internationals". The Jesus College Record (Jesus College, Oxford): 62–63.
- ↑ "Statsguru / Players & Officials / Bailey Davies". ESPN Scrum. 2009. Cyrchwyd 3 March 2009.
- ↑ "No title - Herald of Wales and Monmouthshire Recorder". [s.n.] 1914-04-25. Cyrchwyd 2021-04-22.