Bangor, Gogledd Iwerddon
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 61,011 |
Gefeilldref/i | Virginia Beach, Bregenz |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Down |
Gwlad | Gogledd Iwerddon |
Cyfesurynnau | 54.66°N 5.67°W |
- Am y ddinas yng Ngwynedd gweler Bangor. Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Bangor (gwahaniaethu).
Dinas yn Swydd Down, Gogledd Iwerddon, yw Bangor (Gwyddeleg: Beannchar),[1] gyda phoblogaeth drefol o 76,851 o bobl (Cyfrifiad 2001), sy'n ei gwneud y dref fwyaf poblog yng Ngogledd Iwerddon. Tref glan môr yw hi, a leolir ar lan ddeheuol Belfast Lough yn Ardal Fetropolitan Belfast. Marina Bangor yw un o'r rhai mwyaf yn Iwerddon gyfan, gyda statws Baner Las. Yn 2007, cafodd y dref ei hethol gan wylwyr UTV fel y lle mwyaf deniadol i fyw ynddo yng Ngogledd Iwerddon.
Tref breswyl ydyw yn bennaf, a gellid ei hystyried yn dref gomiwter ar gyfer ardal Belffast Fwyaf, a gysylltir â Bangor gan y ffordd A2 a rheilffordd uniongyrchol. Gorwedd Bangor 13.6 milltir (22 km) o ganol dinas Belfast ac yn agos iawn hefyd i Maes Awyr George Best Dinas Belffast.
Tarddiad yr enw
[golygu | golygu cod]Enw Gwyddeleg gwreiddiol tref a phlwyf Bangor yw Beannchar. Gwreiddiau Beannchar yw beann, 'pigyn' ac ymddengys i'r enw gyfeirio at loc-palis o fangorwaith o gwmpas y fynachlog gynnar oedd yma ac a sefydlwyd gan Sant Comgall c. 555AD.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
- ↑ Hannan R. J. (1992): Place-Names of Northern Ireland