Berkshire
Math | siroedd seremonïol Lloegr |
---|---|
Enwyd ar ôl | Berkshire |
Ardal weinyddol | De-ddwyrain Lloegr, Teyrnas Lloegr, Lloegr |
Prifddinas | Reading |
Poblogaeth | 917,762 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 1,261.9606 km² |
Yn ffinio gyda | Swydd Buckingham, Surrey, Swydd Rydychen, Hampshire, Wiltshire, Llundain Fwyaf |
Cyfesurynnau | 51.42°N 1°W |
- Erthygl am y sir yn Lloegr yw hon. Gweler hefyd Berkshire County, Massachusetts, UDA.
Sir seremonïol a sir hanesyddol yn Ne-ddwyrain Lloegr yw Berkshire, a dalfyrir weithiau fel Berks. Ei chanolfan weinyddol yw Reading. Fe'i gelwir hefyd yn Royal County of Berkshire oherwydd fod Castell Windsor o fewn ei ffiniau.[1] Yn 1974 ac yna yn 1998, newidiodd y llywodraeth y siroedd. Daeth rhan o'r hen Berkshire o fewn Swydd Rydychen. Abingdon oedd tref sirol Berkshire, ond mae Abingdon yn Swydd Rydychen heddiw. Mae hen adeilad neuadd sir Berkshire yn Abingdon yn amgueddfa bellach.
O'i chwmpas ceir: Swydd Rydychen, Swydd Buckingham, Surrey, Wiltshire a Hampshire.
Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ardaloedd awdurdod lleol
[golygu | golygu cod]Rhennir y sir yn chwe awdurdod unedol:
- Gorllewin Berkshire
- Bwrdeistref Reading
- Bwrdeistref Wokingham
- Bwrdeistref Bracknell Forest
- Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead
- Bwrdeistref Slough
Etholaethau seneddol
[golygu | golygu cod]Rhennir y sir yn wyth etholaeth seneddol yn San Steffan:
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Berkshire Record Office. "Berkshire, The Royal County". Golden Jubilee 2002 collection. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-03-10. Cyrchwyd 22 April 2007.
Trefi
Ascot ·
Bracknell ·
Crowthorne ·
Earley ·
Eton ·
Hungerford ·
Maidenhead ·
Newbury ·
Reading ·
Sandhurst ·
Slough ·
Thatcham ·
Windsor ·
Wokingham ·
Woodley