Neidio i'r cynnwys

Brwydr Mynydd Carn

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Mynydd Carn
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad1081 Edit this on Wikidata
LleoliadCarn Ingli Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Brwydrau rhwng y Cymry a'r Eingl-Normaniaid

Brwydr bwysig a ymladdwyd yn y flwyddyn 1081. Mae ei hunion leoliad yn ansicr, er bod gogledd Sir Benfro yn ymddangos yn dra thebygol, efallai yng nghyffiniau Carn Ingli yn y Preseli.

Wedi marw Gruffudd ap Llywelyn yn 1063 bu Gwynedd yn nwylo brenhinoedd eraill am ddeunaw mlynedd, sef Bleddyn ap Cynfyn o Bowys hyd 1075, a Thrahaearn ap Caradog o Arwystli hyd 1081. O 1075 ymlaen brwydrodd Gruffudd ap Cynan i geisio adennill ei deyrnas. Yn 1081 ffurfiodd gynghrair â Rhys ap Tewdwr o Ddeheubarth a llwyddodd i drechu Trahaearn a Charadog ap Gruffudd rheolwr Gwynllŵg) ym Mrwydr Mynydd Carn.[1] Trwy hyn, sefydlwyd y ddwy linach a fu'n teyrnasu drwy Wynedd a Deheubarth.[2]

Yn ôl Brut y Tywysogion (fersiwn Peniarth 20),

Blwyddyn wedy hyny y bu ymlad mynydd karn ac yno y llas trahayarn ap karadawc a charadawc a gruffudd a meilyr meibyon riwallawn... ac yn ol ynteu y doeth gruffudd wyr y yago ac ysgottyeid yn borth iddaw ac y llas gwrgeneu vab seissyll ygan veibyon rys seis.[3]

Yn Hanes Gruffudd ap Cynan, dywedir am Fynydd Carn,

Sef yw hynny mynydd y garnedd; canys yno y mae dirfawr garnedd o fein[i], o dan yr hon y claddwyd rhyssw[y]r yng nghynoesedd gynt.[4]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Historia Gruffud vab Kenan, gol. D. Simon Evans (Caerdydd, 1977)
  2. Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008)
  3. Brut y Tywysogion (Peniarth MS. 20), gol. Thomas Jones (Caerdydd, 1941).
  4. Historia Gruffud vab Kenan, gol. D. Simon Evans (Caerdydd, 1977). Orgraff ddiweddar.