Bwlch Llanberis
Math | ffordd, bwlch |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0903°N 4.0517°W |
Bwlch Llanberis neu Nant Peris yw'r hafn rhwng Llanberis a Pen-y-pass yn Eryri. Mae afon Nant Peris neu "Afon Nant Peris" yn llifo i lawr yr hafn, ond fel yn Nant Ffrancon crewyd y dyffryn gan rewlif yn Oes yr Iâ yn hytrach na chan yr afon. Mae'r briffordd A4086 hefyd yn mynd ar hyd y bwlch.
Ar ochr ddwyreiniol Bwlch Llanberis mae llethrau'r Glyderau, ac ar yr ochr orllewinol mae mynyddoedd yr Wyddfa. Saif pentref Nant Peris yn rhan isaf y bwlch. Mae'n ardal boblogaidd iawn gyda dringwyr, yn arbennig Dinas y Gromlech, Carreg Wastad, Clogwyn y Grochan, Craig Ddu a Dinas Mot.
Cerrig siglo
[golygu | golygu cod]Cynigwyd gwobr gan Gymdeithas Parc Eryri i ddod o hyd i'r "fandaliaid" a symudodd crogfaen o'r enw 'Carreg y Dreiglwyd'[1] o'i le ym Mwlch Llanberis yn 1980. Yn ôl Cymdeithas Parc Eryri: “Safai'r garreg siglo hon ym Mhen Bwlch, Llanberis, ac roedd hi'n pwyso rhwng 15 ac 20 tunnell. Byddai teithwyr lleol yn chwilio amdani wrth agosáu at Ben Gorffwysfa (Pen y Pas) ac yn rhyfeddu ei bod hi'n gorffwys mewn lle mor ansicr. Ar adegau o wynt cryf, yn ôl rhai, byddai'r garreg yn siglo...Os edrychir ar hen luniau o Fwlch Llanberis gwelir amryw o'r cerrig siglo hyn yn britho'r llethrau...Ond erbyn hyn nid oes llawer yn sefyll yn eu safleoedd gwreiddiol ac yn awr mae'r amlycaf ohonynt wedi ei symud yn ddianghenrhaid... Dywed yr hen stori mai arwydd fyddai cwymp y graig o lwyr oruchafiaeth Lloegr dros Gymru”[2]