Caffè macchiato
Math | diod coffi |
---|---|
Gwlad | yr Eidal |
Yn cynnwys | espresso, llaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Caffè macchiato (ynganiad Eidaleg: [kafˈfɛ mmakˈkjaːto] orgraff y Gymraeg: caffe maciato), ar lafar arddelir macchiato gan hepgor "caffè" neu "coffi" a weithiau gelwir yn espresso macchiato,[1][2] yn ddiod goffi espresso gydag ychydig bach o laeth, fel arfer yn ewynnog. Yn Eidaleg, mae macchiato yn golygu "lliw" neu "smotiog" felly y cyfieithiad llythrennol o caffè macchiato yn Gymraeg byddai "coffi brith" neu "coffi brech." Mae'n goffi cryf. Caiff ei ddrysu gyda cortado yn aml gan yfwyr a gweinwyr yng Nghymru.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae tarddiad yr enw "macchiato" yn deillio o baristas sydd angen dangos i'r gweinyddwyr sy'n gwasanaethu y gwahaniaeth rhwng espresso ac espresso gydag ychydig bach o laeth ynddo; roedd yr olaf wedi'i "farcio". Adlewyrchir y syniad yn yr enw Portiwgaleg am y ddiod: caffi pingado, sy'n golygu coffi gyda diferyn.[3]
Paratoi
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd: caffè latte Mae gan y caffè macchiato y gymhareb uchaf o espresso i laeth o unrhyw ddiod a wneir gyda'r cynhwysion hynny. Y bwriad yw bod y llaeth yn cymedroli, yn hytrach na gorlethu, blas y coffi wrth ychwanegu ychydig o felyster. Yn nodweddiadol, paratoir y ddiod trwy arllwys ychydig bach o laeth wedi'i stemio yn uniongyrchol i un joch o espresso.[4] Mae un rysáit yn galw am 5–10 g (1–2 llwy de) o laeth wedi'i gynhesu i 60-66 ° C (140-150 ° F).[5]
Amrywiaethau
[golygu | golygu cod]Ceir amrywiaethau o macchiato wrth ei weini ac yn diriogaethol:
- Macchiato freddo - macchiato gyda llaeth oer
- Macchiato caldo - macchiato gyda llaeth twym
- Macchiato gwylyb (wet macchiato) - lle bydd mwy o laeth ewynnog neu bod tua hanner espresso a hanner llaeth.[6]
- Latte macchiato (sef, yn Gymraeg 'llaeth brith') - yn cynnwys llaeth gyda dim ond ychydig o espresso ynddo (bob amser yn llai nag mewn latte).[7] Fodd bynnag, mewn rhai ryseitiau (sy'n wahanol o le i le), nid yw latte macchiato yn wahanol iawn i goffi gyda llaeth (caffé latte), sydd fel arfer yn cynnwys traean o espresso a dau o laeth wedi'i stemio.
- Manchado - mewn lleoedd fel Andalusia, arfordir deheuol Sbaen, mae'n arferol gofyn i'r gweinydd am "un manchado" a thrwy hyn deellir bod y cwsmer eisiau macchiato latte (Sbaeneg: leche manchada). Fodd bynnag, mae'n arferol bod yr ystyron yn newid wrth adael y rhanbarth.
Termau a defnydd yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Yng Nghymru a gweddill Gwledydd Prydain, gwelir bod y defnydd o goffi macchiato, cortado a coffi piccolo yn gall bod yn enw generig ar unrhyw fath o baned espresso gydag ychydig o laeth. Weithiau, caiff jwg fach o laeth ewynnog twym ei weini gyda'r espresso er mwyn rhoi'r rhyddid i'r yfwr arllwys faint fynno o laeth i'r espresso yn ôl chwaeth ei hun. Gellir dweud bod y ffurfiau yma yn enghreifftiau o macchiato gwlyb (wet macchiato) gyda cymhareb o oddeutu 50% espresso a 50% llaeth ewynnog twym. Mea hyn yn rhan o esbylygiad 'Trydydd Don' gweini diodydd espresso yn fyd-eang.[8]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
caffè macchiato yn (caffe Kaldi, Addis Ababa, Ethiopia
-
Caffè macchiato yn Four Barrel Coffee, San Francisco, California
-
Caffè macchiato yn Chiang Mai, Thailand, yn yr Impresso Espresso Bar
-
Macchiato at Bradleys Coffee, Cymru
-
Caffè macchiato (Papua Gini Newydd)
-
Macchiato,Venice Grind yn Mar Vista, California
-
Joch ddwbl macchiato gydag ychydig o ewyn mewn gwydryn yn Natick, Massachusetts
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ""Milk Frothing Guide", CoffeeGeek, 13 June 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 July 2020. Cyrchwyd 15 July 2018.
- ↑ "Espresso Macchiato", Starbucks Coffee Company, 13 June 2012
- ↑ "How to order coffee in Portugal".[dolen farw]
- ↑ Davids, Kenneth (1997). Espresso: The Ultimate Coffee. Cole Group. ISBN 1564265579.
- ↑ Moldvaer, Anette (2014). Coffee Obsession. Dorling Kindersley Limited. tt. 150–151.
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=B9TGBX4w_k4
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=AwB5u_mGyJI
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=B9TGBX4w_k4