Caligula
Gwedd
Caligula | |
---|---|
Ganwyd | Gaius Julius Caesar 31 Awst 0012 Antium |
Bu farw | 24 Ionawr 0041 o clwyf drwy stabio Bryn Palatin |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
Tad | Germanicus |
Mam | Agrippina yr hynaf |
Priod | Junia Claudilla, Livia Orestilla, Lollia Paulina, Milonia Caesonia |
Plant | Julia Drusilla |
Llinach | Julio-Claudian dynasty, Julii Caesares |
Gaius Julius Caesar Augustus Germanicus neu Caligula (31 Awst 12 OC – 24 Ionawr 41 OC) oedd trydydd Ymerawdwr Rhufain. Ganwyd Gaius Julius Caesar Germanicus. Bu'n ymeradwr o 18 Mawrth 37 OC hyd ei farwolaeth.
Roedd yn fab i César Germanicus ac Agrippina'r Hynaf. Cafodd ei eni yn Antium yn yr Eidal.
Yn olynydd i'r ymerodr Tiberius, mwynhaodd boblogrwydd eithriadol ar ddechrau ei deyrnasiad am ei fod yn ifanc a brwdfrydig. Enillodd y llysenw 'Caligula' oherwydd iddo fod yn hoff o'r sgidiau trymion milwr (caligae) a wisgai tra'n hyfforddi gyda'r fyddin Rufeinig.
Ond yn nes ymlaen dechreuodd ymddwyn yn orthrymol ac afresymol ac fe'i cyhuddid o fod yn wallgof gan ei gyfoeswyr. Cafodd ei lofruddio yn 41 OC, a dilynwyd ef gan Claudius.
- Mae drama o'r enw Caligula gan Albert Camus a chyfieithwyd i'r Gymraeg gan Emyr Tudwal Jones a Prys Morgan. Cyfres Dramâu'r Byd GPC 1978.
Rhagflaenydd: Tiberius |
Ymerawdwr Rhufain 18 Mawrth 37 OC – 24 Ionawr 41 OC |
Olynydd: Claudius |