Carcassonne (gêm fwrdd)
Enghraifft o'r canlynol | tabletop game |
---|---|
Cyhoeddwr | Hans im Glück |
Gwlad | yr Almaen |
Iaith | Almaeneg |
Dyddiad cyhoeddi | 2000 |
Genre | German-style board game, tile-based game |
Cyfres | Carcassonne |
Gwefan | https://www.hans-im-glueck.de/spiele/carcassonne.html |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gêm fwrdd arddull Almaenig yw Carcassonne, ar gyfer 2 - 5 chwaraewr. Fe'i dyluniwyd gan Klaus-Jürgen Wrede a'i chyhoeddi yn 2000 gan Hans im Gluck mewn Almaeneg a Rio Grande Games yn Saesneg.[1] Enillodd wobr Spiel des Jahres a'r Spiele Deutscher Preis yn 2001. Enwyd y gêm ar ôl y dref gaerog ganoloesol Carcassonne yn ne Ffrainc, sy'n ddinas enwog am ei muriau. Ceir sawl 'spin-off' o'r gêm, gan gynnwys fersiynau ar-lein ac ar ffonau llaw.
Sut i chwarae
[golygu | golygu cod]Mae bwrdd y gêm yn dirwedd canoloesol sy'n cael ei adeiladu gan y chwaraewyr wrth i'r gêm fynd yn ei blaen. Mae'r gêm yn dechrau gydag un teil tir wedi ei droi wyneb i fyny a'r 71 teilsen arall wedi eu troi wyneb i waered mewn pentwr. Pob tro chwaraewr, bydd y chwaraewr hwnnw'n tynnu teilsen tir newydd ac yn ei osod ger teils sydd eisoes yn wynebu i fyny. Mae'n rhaid i'r teils newydd gael eu gosod mewn ffordd sy'n ymestyn nodweddion ar y teils mae'n ei ffinio: rhaid i ffyrdd gysylltu â ffyrdd, caeau i gaeau a dinasoedd i ddinasoedd.
Mae'r gêm yn dod i ben pan fydd y teil diwethaf wedi cael ei osod. Pryd hynny, mae'r holl nodweddion (gan gynnwys caeau) yn sgorio pwyntiau i'r chwaraewyr sydd gyda'r mwyaf o ddilynwyr arnynt. Y chwaraewr gyda'r mwyaf o bwyntiau sy'n ennill y gêm.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Miller, Elliott. "Carcassonne Moving to Z-Man Games". The Gaming Gang. Cyrchwyd 7 Ionawr 2013.