Carnedd Dafydd
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Sir | Gwynedd, Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 1,044 metr |
Cyfesurynnau | 53.14774°N 4.00084°W |
Cod OS | SH6628663049 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 111 metr |
Rhiant gopa | Carnedd Llywelyn |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Mae Carnedd Dafydd yn fynydd yn y Carneddau yn Eryri.
Enw
[golygu | golygu cod]Nid oes sicrwydd pa un o ddau Ddafydd sy'n cael ei goffáu gan yr enw, Dafydd ap Llywelyn, mab Llywelyn Fawr, ynteu Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd. Dywed Terry Marsh nad oes amheuaeth nad Dafydd ap Llywelyn a roddodd ei enw i'r mynydd.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae rhyw 20m yn is na'r mynydd uchaf yn y Carneddau, Carnedd Llywelyn, ond dim ond y mynydd hwnnw a'r Wyddfa sy'n uwch nag ef yng Nghymru (os na ystyrir Carnedd Ugain/Crib y Ddysgl ar yr Wyddfa yn fynydd ar wahan). Saif ar brif grib y Carneddau, gyda Carnedd Llywelyn i'r gogledd-ddwyrain a Pen yr Ole Wen i'r de. Mae'r ffin rhwng Gwynedd a sir Conwy yn mynd tros y copa. Ar ochr ogleddol y grib rhwng Carnedd Dafydd a Charnedd Llywelyn mae creigiau Ysgolion Duon, sy'n ffefrynnau gan ddringwyr.
Llwybrau
[golygu | golygu cod]Mae modd dringo'r mynydd yn uniongyrchol trwy gychwyn gerllaw Tal-y-llyn Ogwen ger pen dwyreiniol Llyn Ogwen a dilyn Afon Lloer hyd at lyn Ffynnon Lloer sydd wrth droed Carnedd Dafydd. Yna gellir dringo i fyny'r llechweddau i'r copa. Y ffordd arferol o'i ddringo, fodd bynnag, yw dringo Pen yr Ole Wen gyntaf, ac yna mae'n hawdd dilyn y grib i gopa Carnedd Dafydd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Terry Marsh The summits of Snowdonia (Robert Hale, 1984)
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa a'i chriw:
Yr Wyddfa (1085m) · Garnedd Ugain (1065m) · Crib Goch (923m) |
Y Glyderau:
Elidir Fawr (924m) · Y Garn (947m) · Glyder Fawr (999m) · Glyder Fach (994m) · Tryfan (915m) |
Y Carneddau:
Pen yr Ole Wen (978m) · Carnedd Dafydd (1044m) · Carnedd Llywelyn (1064m) · Yr Elen (962m) · Foel Grach (976m) · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m) · Foel-fras (942m) |