Neidio i'r cynnwys

Castell Aberteifi

Oddi ar Wicipedia
Castell Aberteifi
Mathcastell, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAberteifi Edit this on Wikidata
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr12.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0815°N 4.66053°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCD123 Edit this on Wikidata

Codwyd Castell Aberteifi tua'r flwyddyn 1100 yn Aberteifi, Ceredigion. Yma y cynhaliwyd Eisteddfod Aberteifi 1176 dan nawdd Yr Arglwydd Rhys.

Rhan o fur Castell Abereifi (2007, cyn i'r gwaith adnewyddu dechrau).

Adeiladwyd castell cyntaf mwnt a beili Aberteifi (tua 1093), a godwyd tua tair milltir oddi wrth safle'r castell presennol, mae'n debyg tua'r un amser sefydlwyd y dref gan Roger de Montgomery, barwn Normanaidd. Adeiladwyd rhadredegydd y castell presennol gan Gilbert Fitz Richard Arglwydd Clare, wedi i'r un cynt gael ei ddinistrio. Etifeddodd ei fab, Gilbert de Clare, Iarll 1af Penfro y castell yn 1136. Yr un flwyddyn, cafodd Owain Gwynedd fuddugoliaeth fawr ar Normaniaid y dref ym Mrwydr Crug Mawr. Cymerwyd a llosgwyd y dref, er yr amddiffynnwyd y castell ei hun yn llwyddiannus gan y Normaniaid a oedd dan arweiniad Robert fitz Martin.

Ail-gipiwyd y castell gan y Normaniaid a'r Saeson a daeth i feddiant Roger de Clare, 3ydd Iarll Hertford. Yn 1166 cymerwyd y castell gan Rhys ap Gruffydd, ac ail-adeiladodd e'r castell mewn carreg yn 1171. Yn 1176 cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf y gwyddys amdani yn y castell, sef Eisteddfod Aberteifi. Ar farwolaeth Rhys yn 1197 ymdaerai ei feibion, Maelgwn a Gruffudd, dros etifeddiaeth y castell ac yn y diwedd rhoddodd Maelgwn ei frawd Gruffudd i ddwylo'r Saeson a gwerthodd y castell i'r brenin John o Loegr. Yn ddiweddarach delwyd y castell yn enw William Marshal, Iarll 1af Penfro.

Cipiodd Llywelyn Fawr y castell yn 1215 ac yn senedd Aberdyfi yn 1216 fe'i rhoddwyd i feibion Gruffudd ap Rhys o'r Deheubarth, ond yn 1223 ail-gipwyd o gan William Marshal, 2il Iarll Penfro. Yn 1231 cymerwyd y castell ar ran Llywelyn gan Rhys Gryg a'i gyngrheiriaid. Daliai Llywelyn y castell hyd ei farwolaeth yn 1240. Ar ei farwolaeth, disgynodd y castell yn ôl i ddwylo'r Saeson, ac yn 1244 ail-adeiladwyd ef gan Walter Marshal, 5ed Iarll Penfro, gyda waliau tref ar gyfer gwarchod pellach. Gweddillion y castell hwn sydd i'w gweld uwchben yr afon heddiw.

Cafodd ei ddifetha'n sylweddol yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, a hyd at y 18g defnyddiwyd ef fel carchar. Ar ddechrau'r 19g, adeiladwyd cartref o fewn waliau'r castell Castle Green House gan gyfuno'r tŵr gogleddol yn ei adeiladwaith. Yn y 1940au ni chadwyd hi mewn cyflwr da, a gadewyd hi i ddadfeilio ymhellach gan y perchennog hyd i'r waliau fod angen cael eu cynnal.

Prynwyd y castell gan Gyngor Ceredigion ym mis Ebrill 2003 ac maent yn bwriadu ei adfer fel rhan o gynllun dadeni Aberteifi. Ym mis Rhagfyr 2008, enillodd y castell swm o £300,000 gan y Gronfa Loteri Treftadaeth er mwyn ei adfer.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Castle lands £300k of lotto money. BBC (19 Rhagfyr 2008).