Cosmogoni
Damcaniaeth neu athrawiaeth, boed yn wyddonol, yn athronyddol neu'n grefyddol, sydd yn ceisio egluro dechreuad a datblygiad y bydysawd a threfn y cosmos yw cosmogoni.[1]
Damcaniaeth y Glec Fawr yw'r prif fodel cosmogonaidd a dderbynir gan y mwyafrif o wyddonwyr i esbonio dechreuad y bydysawd. Ni wyddys yn union sut y datblygodd Cysawd yr Haul: ymhlith y tybiaethau mae planedronynnau, rhagblanedau, a nifwl heulol. Cosmoleg yw'r enw ar astudiaeth strwythur y bydysawd.
Ymdrecha cosmogonïau crefyddol i esbonio'r dechreuad drwy fythau'r creu, sydd yn aml yn honni taw creadigaeth ddwyfol ydyw'r bydysawd, er enghraifft y creu yn ôl Genesis.
Cosmogonïau mytholegol a chrefyddol
[golygu | golygu cod]Mae'r mwyafrif o fytholegau a chrefyddau yn cynnwys straeon am ddechreuad y byd a gwreiddiau'r ddynolryw. Mae ambell system gred, gan gynnwys Bwdhaeth, yn cymryd safbwynt agnostig ynglŷn â'r dechreuad. Dosberthir cosmogonïau yn bum dosbarth gan yr ysgolhaig Charles H. Long:
- Creadigaeth a briodolir i ddau riant, er enghraifft Rangi a Papa ym mytholeg y Maorïaid a Tiamat ac Apsu yn hen grefydd Mesopotamia.
- Yr ŵy cosmig, er enghraifft yr Upanishadau yn yr India neu Pangu yn Tsieina.
- Creadigaeth o ddim byd, a geir yn aml yng nghrefyddau undduwiol megis y crefyddau Abrahamig
- Creadigaeth o'r tu mewn i'r ddaear, er enghraifft Brodorion De orllewin yr Unol Daleithiau sydd yn credu i'w cyndeidiau dyfod o grombil y ddaear a thrawsnewid yn fodau dynol.
- Mythau "plymwyr y ddaear", sy'n disgrifio bodau boreuol sydd yn tynnu'r ddaear i lan o waelod y môr, er enghraifft ym mytholeg y Yokut o Galiffornia.
Ceir cosmogonïau hefyd sydd yn cyfuno'r mathau hyn, er enghraifft mytholeg yr Hen Aifft sydd yn cynnwys bydysawd gwag cyn i rieni'r byd gael eu creu. Mae ambell gosmogoni na ellir ei ddosbarthu'n syml i'r rhestr hon, er enghraifft yr emyn yn llyfrau'r Rig Veda sydd yn priodoli'r greadigaeth i aberth y person cyntaf.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ cosmogoni. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Ebrill 2018.
- ↑ Robert S. Ellwood a Gregory D. Alles, The Encyclopedia of World Religions (Efrog Newydd: Facts On File, 1998), tt. 83–84.