Cyfanrif
Mewn mathemateg, mae cyfanrifau yn rhifau cyfan (nid ffracsiynau) o set o rifau naturiol a rhifau negatif:
- ... , -3, -2, -1, 0, 1, 2, 3, ...
Mae 21, 4, 0, a −2048 felly, yn gyfanrifau, ond nid felly 9.75, 5 1/2, na √2. Dynodir cyfanrifau, fel arfer, gan Z ("Z") trwm neu (Unicode U+2124 ℤ) sy'n tarddu o'r gair Almaeneg Zahlen ([ˈtsaːlən], "rhif").[1][2]
Mewn geiriau eraill, mae Z yn is-set o bob rhif cymarebol Q, sydd yn ei dro'n is-set o'r rhifau real R. Fel y rhifau naturiol, mae'r cyfanrifau Z yn anfeidraidd.
Mewn cyfrifiadureg, mae cyfanrif yn fath o newidyn a ddefnyddir i ystorio gwerth cyfan; newidyn pwynt symudol ydy'r gwrthwyneb.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Gair cyfansawdd yw 'cyfanrif', sef cyfuniad o ddau air: 'cyfan' a 'rhif'. Y gair Lladin am gyfanrif yw integer, sydd hefyd yn golygu 'cyfan'.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Miller, Jeff (2010-08-29). "Earliest Uses of Symbols of Number Theory". Cyrchwyd 2010-09-20.
- ↑ Peter Jephson Cameron (1998). Introduction to Algebra. Oxford University Press. t. 4. ISBN 978-0-19-850195-4.
- ↑ Evans, Nick (1995). "A-Quantifiers and Scope". In Bach, Emmon W (gol.). Quantification in Natural Languages. Dordrecht, The Netherlands; Boston, MA: Kluwer Academic Publishers. t. 262. ISBN 0-7923-3352-7.)