Dehradun
Math | dinas, endid tiriogaethol gweinyddol, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 578,420 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dehradun district |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 300 km² |
Uwch y môr | 435 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 30.318°N 78.029°E |
Cod post | 248001 |
Prifddinas talaith Uttarakhand yn India yw Dehradun (Hindi: देहरादून), a sillefir yn aml fel Dehra Dun ac weithiau hefyd fel Dehra Doon. Mae'n ganolfan weinyddol i Ddosbarth Dehradun. Fe'i lleolir yn nyffryn Dun, 230 km i'r gogledd o Delhi Newydd, prifddinas India. Gorwedd yn nhroedfryniau'r Himalaya, sy'n gorwedd i'r gogledd o'r ddinas, gyda Bryniau Sivalik Hills i'r de, afon Ganga i'r dwyrain, ac afon Yamuna i'r gorllewin. Cyn creu Uttarakhand ar 9 Tachwedd, 2000, roedd Dehradun yn rhan o Uttar Pradesh. Mae dinasoedd a threfi cyfagos yn cynnwys Haridwar (Hardwar), Rishikesh a Mussoorie.
Yng nghyfnod y Raj Brydeinig tyfodd Dehradun yn frynfa (hill station) a oedd, gyda Mussoorie, yn boblogaidd fel lle i ddianc rhag gwres llethol gwastatir gogledd-orllewin India yn yr haf ac mae'n dal yn boblogaidd fel man gwyliau gan drigolion yr ardal honno heddiw.