Edward Villiers, 5ed Iarll Clarendon
Edward Villiers, 5ed Iarll Clarendon | |
---|---|
Ganwyd | 11 Chwefror 1846 Dulyn |
Bu farw | 2 Hydref 1914 Watford |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cricedwr, gwleidydd |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol, Plaid Ryddfrydol |
Tad | George Villiers |
Mam | Katherine Grimston |
Priod | Emma Mary Augusta Hatch, Lady Caroline Agar |
Plant | George Villiers, 6th Earl of Clarendon, Edith Edgcumbe, Countess Mount Edgcumbe |
Chwaraeon |
Roedd Edward Hyde Villiers, 5ed Iarll Clarendon, GCB, GCVO, PC, DL (11 Chwefror 1846 – 2 Hydref 1914), a oedd yn cael ei adnabod fel yr Arglwydd Hyde rhwng 1846 a 1870, yn wleidydd Unoliaethol Rhyddfrydol Prydeinig o'r teulu Villiers. Gwasanaethodd fel Arglwydd Siambrlen yr Aelwyd rhwng 1900 a 1905.
Cefndir ac addysg
[golygu | golygu cod]Clarendon oedd ail fab ond hynaf i oroesi i'r gwladweinydd Rhyddfrydol amlwg George Villiers, 4ydd Iarll Clarendon a'i wraig Yr Arglwyddes Katherine Grimston, merch James Grimston, Iarll 1af Verulam. Addysgwyd ef yng Ngholeg Harrow a Choleg y Drindod, Caergrawnt.[1]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Etholwyd Clarendon i'r Senedd dros etholaeth Aberhonddu ym 1869, sedd a gadwodd tan y flwyddyn ganlynol, pan olynodd ei dad i'r iarllaeth a chymryd ei sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.[2] Ym 1895 penodwyd ef yn Arglwydd preswyl yng ngweinyddiaeth Unoliaethol yr Arglwydd Salisbury, swydd a gadwodd hyd 1900, pan gafodd ei ddyrchafu'n Arglwydd Siambrlen yr Aelwyd a'i dderbyn i'r Cyfrin Gyngor. Cadwodd y swydd pan ddaeth Arthur Balfour yn Brif Weinidog ym 1902. Syrthiodd y llywodraeth ym mis Rhagfyr 1905 ac nid chafodd Clarendon swydd wleidyddol arall.
Ynghyd a'i yrfa wleidyddol roedd yr Arglwydd Clarendon hefyd yn Arglwydd Raglaw Swydd Hertford rhwng 1893 a 1914.
Gyrfa chwaraeon
[golygu | golygu cod]Gwnaeth Clarendon un ymddangosiad hysbys yn chwarae criced dosbarth cyntaf [3] i Brifysgol Caergrawnt ym 1865.[4] Roedd yn fatiwr llaw dde ac yn fowliwr cyflym braich gron. Chwaraeodd pedwar o'i ewythrod James, Edward, Robert a Francis Grimston i gyd griced o'r radd flaenaf, fel y gwnaeth ei gefnder Walter Grimston. Rhwng 1890 a 1896, roedd yr Arglwydd Clarendon yn aelod o Bwyllgor Pêl-droed Clwb Chwaraeon West Hertfordshire, gan gadeirio rhai o'r cyfarfodydd. Yn ystod y cyfnod hwn enillodd y clwb dri Chwpan Hŷn Swydd Hertford mewn pedair blynedd, heb gystadlu yn y flwyddyn arall. Yn ddiweddarach, gelwid y tîm pêl-droed hwn yn Glwb Pêl-droed Watford.[5]
Teulu
[golygu | golygu cod]Priododd yr Arglwydd Clarendon, yn gyntaf, yr Arglwyddes Caroline Agar, merch James Agar, 3ydd Iarll Normanton, ar 6 Medi 1876. Ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf ym 1894 priododd yn ail, Emma Hatch, ar 5 Awst 1908. Bu iddo dau o blant o'r briodas gyntaf:
- George Herbert Hyde Villiers, 6ed Iarll Clarendon (1877 – 1955)
- Yr Arglwyddes Edith Villiers (1878 – 1935), priod Piers Edgcumbe, 5ed Iarll Mount Edgcumbe
Bu farw'r Arglwydd Clarendon ym mis Hydref 1914, yn 68 oed, ac olynwyd ef yn yr iarllaeth gan George ei unig fab.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Anrhydeddau Prydeinig
[golygu | golygu cod]- GCB : Marchog Croes Mawr yn Urdd y Baddon - 24 Hydref 1902 - a gyhoeddwyd yn rhestr Anrhydeddau'r Coroni 1902.[6] Cafodd ei urddo gan y Brenin Edward VII ym Mhalas Buckingham ar 24 Hydref 1902.[7]
- GCVO: Marchog Croes Mawr yn Urdd Frenhinol Victoria ym 1905
Anrhydeddau tramor
[golygu | golygu cod]- Brenhiniaeth Prwsia: Marchog Dosbarth cyntaf yn Urdd yr Eryr Coch - 1899 - mewn cysylltiad ag ymweliad yr Ymerawdwr Wilhelm II i'r DU.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Clarendon, 5th Earl of 2nd, (Edward Hyde Villiers) (11 Feb. 1846–2 Oct. 1915)". WHO'S WHO & WHO WAS WHO. doi:10.1093/ww/9780199540884.013.u184693. Cyrchwyd 2020-06-19.
- ↑ James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
- ↑ CricketArchive record
- ↑ Arthur Haygarth, Scores & Biographies, Volume 9 (1865-1866), Lillywhite, 1867
- ↑ Phillips, Ollie (1991). The Official Centenary History of Watford FC. Watford Football Club. t. 176. ISBN 0-9509601-6-0.
- ↑ London Gazette rhif 27453 11 Gorffennaf 1902 adalwyd 19 Mehefin 2020
- ↑ The Times, Llundain; 25 Hydref 1902 "Court Circular"
- ↑ The Times, Llundain; Court Circular; 17 Chwefror 1900 tud 11 rhif 36068
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Howel Gwyn |
Aelod Seneddol Aberhonddu 1869 – 1870 |
Olynydd: James Gwynne-Holford |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: George Villiers |
Iarll Clarendon 1870–1914 |
Olynydd: George Villiers |