Neidio i'r cynnwys

Ehud Olmert

Oddi ar Wicipedia
Ehud Olmert
12th Prif Weinidog Israel
Yn ei swydd
14 Ebrill 2006 – 31 Mawrth 2009
Prif Weinidog Mewn Gofal: 4 Ion 2006 – 14 Ebr 2006*
ArlywyddMoshe Katsav
Shimon Peres
DirprwyTzipi Livni
Rhagflaenwyd ganAriel Sharon
Dilynwyd ganBenjamin Netanyahu
Maer Jeriwsalem
Yn ei swydd
Tachwedd 1993 – 2003
Rhagflaenwyd ganTeddy Kollek
Dilynwyd ganUri Lupolianski
Manylion personol
Ganwyd (1945-09-30) 30 Medi 1945 (79 oed)
Binyamina-Giv'at Ada
Plaid wleidyddolLikud (1973–2006)
Kadima (2006–presennol)
PriodAliza Olmert
Plant4
Alma materPrifysgol Hebraeg Jeriwsalem

Prif Weinidog Israel rhwng 2006 a 2009 (y 12fed i ddal y swydd), a chyn-arweinydd plaid Kadima yw Ehud Olmert (Hebraeg: אהוד אולמרט‎, IPA: [ɛˈhud ˈolmeʁt], ganed 30 Medi 1945). Dechreuodd Olmert weithredu fel Prif Weinidog dros dro ar 4 Ionawr 2006, ar ôl i Ariel Sharon ddioddef strôc yn ystod yr etholiadau. Enillodd ei blaid (Kadima) etholiad Mawrth 2006, gan alluogi Olmert i barhau yn ei swydd. Ar 4 Mai 2006, dyddiau ar ôl iddo ffurfio llywodraeth newydd, daeth yn Brif Weinidog swyddogol Israel.

Ehud Olmert

Olmert a roddodd y "golau gwyrdd" i gychwyn y rhyfel yn erbyn Llain Gaza yn Rhagfyr 2008. Yn ôl un ffynhonnell Israelaidd, cafodd gydsyniad George W. Bush i wneud hynny ond mae Dick Cheney wedi gwadu hynny.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Baner IsraelEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Israel. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.